Diffygion wedi 'hybu' lledaeniad Covid mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Collodd Helen Jensen ei phartner Jeff Blake ar ôl iddo ddal Covid tra yn yr ysbyty

Roedd cyfuniad o hen adeiladau, diffyg cyfleusterau ynysu a phrinder profion yn gynnar yn y pandemig wedi'i gwneud hi'n anoddach i'r GIG yng Nghymru ddelio â lledaeniad Covid-19 mewn ysbytai, yn ôl adroddiad.

Mae hefyd yn dweud i gyfyngiadau ymweld â'r GIG, oedd wedi'u cynllunio i amddiffyn cleifion, gael "effaith andwyol" mewn llawer o achosion ar iechyd corfforol a meddyliol.

Mae'n awgrymu bod angen cydbwyso defnyddio cyfyngiadau o'r fath yn erbyn y risgiau.

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud y bydd y canfyddiadau yn "hynod werthfawr", wrth i Lywodraeth Cymru "wella safon a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru".

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at "wersi cynnar" yn dilyn asesiad gan GIG Cymru o dros 5,000 o "ddigwyddiadau diogelwch cleifion" rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2022.

Mae'r rhain yn achosion lle gallai un neu fwy o gleifion fod wedi dod i niwed ar ôl dal Covid mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd mewn profedigaeth ac am well cyfathrebu ynghylch gweithdrefnau DNACPR (Na Cheisier Dadebru Cardio-Anadlol).

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn nodi fod staff wedi gweithio'n "ddiflino" wrth ddelio â'r her fwyaf yn hanes y GIG

Mae'r adroddiad yn dweud yn glir bod "graddfa/maint y pandemig" yn golygu bod cleifion ysbyty "yn anochel yn wynebu risg uwch" yn enwedig ar adegau pan oedd y feirws yn lledaenu'n eang mewn cymunedau.

Mae'n dweud bod hyn wedi digwydd er bod staff yn gweithio'n "ddiflino" wrth ddelio â'r her fwyaf yn hanes y GIG.

Roedd y diffyg capasiti profi, fel sydd wedi'i gofnodi'n helaeth, yn broblem allweddol yn ystod y cyfnod cynnar.

Yn ôl yr adroddiad roedd y "galw'n fwy na'r capasiti, a'r anallu i brofi'n gyflym am Covid-19... yn golygu bod profi braidd yn aneffeithiol fel ffordd o leihau heintiau… nes bo'r capasiti profi wedi cynyddu".

Symud cleifion wedi ymledu'r haint

Mae'r adroddiad yn dweud y gallai heintiau fod wedi ymledu'n haws gan fod rhaid symud cleifion mewn ysbytai cyfyng, ac mewn rhai achosion, adeiladau hen ffasiwn.

"Roedd ystâd hen a chyfleusterau ynysu cyfyngedig (fel mynediad i ystafelloedd sengl) yn golygu nad oedd cleifion yn gallu cael eu hynysu mewn ystafelloedd sengl," meddai'r adroddiad.

"[Roedd hyn] yn golygu, mewn ymgais i leihau lledaeniad heintiau fod defnyddwyr yn symud ward ar sawl achlysur."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y diffyg capasiti profi yn broblem allweddol yn ystod y cyfnod cynnar, medd yr adroddiad

Mae'r adroddiad yn argymhell i'r GIG weithio fel bod cleifion yn cael eu gweld "yn y lle cywir ar yr amser cywir".

Dywed y dylai unrhyw resymau dros symud cleifion gael ei gyfathrebu i'r teuluoedd yn gyflym.

Beth yw cefndir yr adroddiad?

Cafodd yr adroddiad ei gynhyrchu gan Raglen Genedlaethol Covid-19 Nosocomiaidd, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru fis Ebrill 2020.

Ei fwriad yw cefnogi cyrff GIG Cymru i gynnal adolygiad o ddigwyddiadau diogelwch cleifion.

Y nod yw cefnogi sefydliadau iechyd i ymchwilio i oblygiadau diogelwch y nifer uchel o heintiau mewn ysbytai yn ystod y pandemig.

'Mae o wedi dal Covid'

Un a welodd rhai o'r diffygion yma oedd Helen Jensen o Lantrisant, wedi i'w phartner Jeff Blake gael Covid tra yn yr ysbyty.

Aeth Jeff i'r ysbyty ym mis Medi 2020 gyda niwmonia, a tra yno fe gafodd ei heintio â Covid.

Dywedodd Helen fod Jeff wedi cael ei symud yn aml iawn tra yn yr ysbyty - un o'r materion a oedd yn ei gwneud hi'n haws i'r haint ledaenu, yn ôl yr adroddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Jensen yn teimlo bod cyfyngiadau ymweld wedi effeithio ar les meddyliol ei phartner Jeff Blake

"Mi oedd o yn ward two i ddechrau am ryw bedwar diwrnod, a wedyn 'naethon nhw symud o achos o'dd y cases newydd Covid yn codi ac yn dechrau dod yn ôl i'r hospital," meddai.

"Mi symudon nhw fo i un o'r wards dan y maternity unit ag oedd o fan'na am wsnos, ac oedden nhw'n siarad am iddo fo ddod adre ar y dydd Gwener.

"Ag dydd Llun... ges i phonecall gan nyrs. 'Mae o 'di dal Covid efo'r dynion eraill o'dd yn yr un ward'."

Wedi hynny dywedodd Helen y cafodd Jeff ei symud i ward arall am dair wythnos, cyn ei symud eto.

"Oedd o fan'na am un noson, a 'naeth un o'r meddygon ffonio fi a deud bo' nhw'n mynd i symud e i Lwynypia... oedd o eisiau marw," meddai.

"A dyna be' 'naethon nhw, 'naethon nhw symud o i Lwynypia. Oedd o 'mond yna am ddiwrnod, gaeth o ddos arall o niwmonia a wedyn oedd o ar drip am wsnos.

"Mi ddoth pethau'n well a mi oedd o fod i ddod adre erbyn Dolig, a ges i weld o ar 9 Rhagfyr am awr, ond ddoth o ddim adre."

Bu farw Jeff ar 8 Mawrth 2021.

'O'dd e 'di bod yn isel'

Mae Helen yn credu hefyd fod y cyfyngiadau ar ymweld wedi effeithio ar les meddyliol Jeff.

"O'dd e 'di bod yn isel yno trwy Rhagfyr, yn gwybod yn iawn o'dd o fod i ddod adre," meddai.

"O'dd o'n dal i fod yno ganol mis Ionawr, jest eistedd, disgwyl. Dwi'n meddwl o'dd o 'di give up yn y diwedd.

"Os byddan ni 'di medru cadw nhw'n hapus, i siarad, achos o'dd o'n eistedd yno ben ei hun trwy'r dydd, yn disgwyl i rywun dod i'w weld o."

Pa wersi sydd wedi'u dysgu?

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o "wersi cynnar" pellach, gan gynnwys yr angen am:

  • Wella'r modd y caiff canllawiau atal a rheoli heintiau eu hadolygu a'u cyfathrebu i staff;

  • Dulliau mwy cyson o adrodd am heintiau sydd wedi'u dal yn yr ysbyty - nid Covid yn unig;

  • Cyflwyno safonau tebyg ar gyfer ymchwilio digwyddiadau diogelwch ar draws darparwyr gofal, nid dim ond gofal ar y GIG;

  • Ymateb yn fwy effeithlon i gwestiynau a phryderon teuluoedd wrth i achosion gael eu hymchwilio;

  • Gwell cefnogaeth gan y GIG ar gyfer teuluoedd sydd mewn galar.

'Effaith andywol ar iechyd meddwl'

Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar faterion yn ymwneud â chyfyngiadau ymweld a'r defnydd o brosesau DNACPR.

Cafodd cyfyngiadau ymweld GIG eu cyflwyno ar sawl achlysur er mwyn ceisio cyfyngu ar ledaeniad Covid i'r ysbytai a helpu amddiffyn cleifion bregus.

Ond mae'r adroddiad yn dweud i'r cyfyngiadau hyn gael "llawer o effeithiau andwyol ar iechyd corfforol a meddyliol cleifion, yn enwedig rhai mewn grwpiau bregus".

"Y bwriad oedd cyflwyno'r cyfyngiadau i'w diogelu ond doedden nhw ddim yn deall yn llawn y penderfyniadau gafodd eu gwneud," meddai'r adroddiad.

"Cafodd y cyfleoedd cyfyngedig i wneud cyswllt a chyfathrebu ag anwyliaid effaith negyddol hefyd ar brofiad defnyddwyr gwasanaeth eraill, teuluoedd a gofalwyr."

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r holl wasanaethau a wardiau gael timau cefnogi cleifion penodol i helpu teuluoedd a gofalwyr sy'n cael anhawster ymweld ag anwyliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn galw am gyfathrebu gwell ar y "pwnc sensitif" o beidio dadebru rhai cleifion

Bwriad penderfyniadau DNACPR (Na Cheisier Dadebru Cardio-Anadlol) yw amddiffyn pobl rhag dioddef yn ddiangen drwy dderbyn dadebru nad ydyn nhw ei eisiau, fyddai ddim yn gweithio neu pan fo niwed yn gorbwyso'r buddion.

Ond daeth pryderon i'r amlwg yn ystod y pandemig bod yna "drefn gyffredinol" i'w defnydd, a diffyg ymgynghori gyda theuluoedd.

Mae'r adroddiad yn canfod "nad oedd y dadansoddiad wedi nodi bod tystiolaeth wedi ei ddefnyddio yn amhriodol" neu ddim yn cyd-fynd â pholisi Cymru gyfan.

Er hynny, galwodd am gyfathrebu gwell yn ymwneud â'r "pwnc sensitif hwn", gan bwysleisio bod angen i deuluoedd a gofalwyr fod yn rhan o'r broses gymaint â phosib.

Y camau nesaf

Bydd Rhaglen Genedlaethol Covid-19 Nosocomiaidd yn parhau i weithio gyda sefydliadau iechyd yng Nghymru i adnabod gwersi pellach, gydag adroddiad terfynol i'w gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2024.

Hyd yma mae'r rhaglen wedi edrych ar 5,000 o'r achosion "mwya' cymhleth" o ddigwyddiadau diogelwch cleifion pan oedd Covid yn ymledu mewn ysbytai.

Mae cyfanswm o 18,000 o achosion i'w hasesu.

Mae'r adroddiad cychwynnol yn cydnabod, tra gallai'r cynnwys "beri gofid i nifer... mae'n hanfodol ei fod... yn cynnig trosolwg tryloyw a fydd yn arwain at newid ystyrlon".

Serch hynny mae'n dweud nad yw'r gwaith yn ceisio "tynnu oddi ar" rôl Ymchwiliad Covid-19 y DU, a fydd yn debygol o glywed tystiolaeth am ymateb y pandemig yng Nghymru ynghyd â gweddill y DU yn ddiweddarach eleni.