Deiseb heddwch ar ei ffordd adref wedi canrif yn America

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y ddeiseb
Disgrifiad o’r llun,

Llofnododd 390,296 o ferched Cymru y ddeiseb yn yr 1920au

Mae Deiseb Heddwch canmlwydd oed, a gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru, ar ei ffordd yn ôl o'r Unol Daleithiau.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Hanes America y Smithsonian wedi trosglwyddo'r gist dderw a'r ddeiseb tu mewn iddi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Dydd Mercher bu cynrychiolwyr o Gymru, gan gynnwys Academi Heddwch Cymru, Heddwch Nain/Mam-gu, Llywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn cwrdd â staff Amgueddfa Genedlaethol Hanes America er mwyn nodi'r achlysur.

Fe roddodd Llywodraeth Cymru £150,000 at y prosiect er mwyn sicrhau bod y gist a'r ddeiseb yn dychwelyd i Gymru.

Neges berthnasol hyd heddiw

Dywedodd Jill Evans, cadeirydd grŵp Heddwch Nain/Mam-gu Cymru, sydd wedi bod yn tynnu sylw at y ddeiseb: "Ysbrydolodd y daith heddwch unigryw a rhyfeddol hon gan fenywod yng Nghymru 100 mlynedd yn ôl gymaint o bobl ac mae'n parhau i wneud hynny.

"Mae'r hanes hwn yn perthyn i bob un ohonom.

"Mae angen inni gofio a rhannu'r stori, i ddathlu ei llwyddiant ond hefyd i ailddatgan ei nod o fyd di-ryfel."

Beth oedd y cefndir?

Yng nghynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth yn 1923 roedd yna gynnig i lansio ymgyrch i sicrhau bod menywod yr Unol Daleithiau yn clywed lleisiau menywod Cymru a chydweithio dros fyd heb ryfel.

Llofnododd 390,296 o fenywod y ddeiseb.

O fewn saith mis, roedd Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas wedi cyrraedd yr Unol Daleithiau gyda chist dderw ac ynddi ddeiseb a oedd, yn ôl y sôn, yn saith milltir o hyd.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Annie-Jane Hughes-Griffiths gyda Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys yn cyflwyno'r ddeiseb yn Washington ym Mawrth 1924

Yn Efrog Newydd fe'i cyflwynwyd i fenywod America gan ddirprwyaeth o fenywod o Gymru.

Ers hynny, mae'r gist wedi'i diogelu a'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America yn Washington DC.

Ers 2019, mae Pwyllgor Partneriaeth 'Hawlio Heddwch' wedi bod yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fenthyg y gist a rhai o'r deisebau.

Mae'r gist nawr ar ei ffordd i'w chartref newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Cyfle i'r cyhoedd archwilio

Ar ôl cyrraedd Aberystwyth, bydd staff arbenigol y Llyfrgell Genedlaethol yn digido ei chynnwys.

Bydd hyn yn ei dro yn galluogi'r cyhoedd i chwilio'r Ddeiseb Heddwch i ddarganfod pwy yn union oedd y menywod hyn o Gymru a aeth i chwilio am heddwch.

Gan weithio gyda Phartneriaeth y Ddeiseb Heddwch a gwirfoddolwyr ledled Cymru, bydd arddangosfa yn cael ei threfnu yn ystod 2023-2024 i gyflwyno'r gist a'r ddeiseb mewn tri lleoliad - Aberystwyth, Sain Ffagan a Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Heddwch Nain/Mam-gu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mudiad Heddwch Nain/Mam-gu wedi pwysleisio pa mor berthnasol yw'r ddeiseb hyd heddiw

Dywedodd Anthea M Hartig, cyfarwyddwr Elizabeth MacMillan, Amgueddfa Genedlaethol Hanes America bod y "ddeiseb hon gan fenywod Cymru ar ran menywod yr Unol Daleithiau, yn esiampl hardd o gefnogaeth rhwng chwiorydd".

"Am yn agos at ddegawd cafodd y gist ei harddangos yn ein hamgueddfa er mwyn egluro defnydd rhwydweithiau menywod i eirioli dros heddwch.

"Mae trosglwyddo'r gist a'r deisebau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru'n anrhydedd a thestun balchder i ni, gan ei dychwelyd adref ar gyfer ei chan mlwyddiant."

Ychwanegodd Mererid Hopwood, cadeirydd y Bartneriaeth Ddeiseb Heddwch: "Yn helbul ein byd ni heddiw, mae'n fraint aruthrol cofio bod menywod Cymru, ganrif yn ôl, wedi bod yn ddigon eofn i fynd ati i geisio dod â heddwch i'r ddaear gyfan.

"Ein gobaith ni yw y bydd yr ysbryd hwn o gydweithio rhyngwladol er mwyn creu byd teg a di-drais yn dod o hyd i leisiau newydd drwy'r prosiect hwn."