Porthmadog: Cyfarfod cyhoeddus ar ddyfodol meddygfa

  • Cyhoeddwyd
Y cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfarfod ei gynnal yng Nghanolfan Porthmadog nos Iau

Roedd dros 150 o bob yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau yn sgil ofnau am ddyfodol gwasanaethau meddygol mewn tref yng Ngwynedd.

Fe godwyd pryderon yn dilyn cais cynllunio i ddymchwel meddygfa ym Mhorthmadog i adeiladu fflatiau.

Er bod cais cynllunio bellach wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod darpariaeth gofal iechyd lleol yn ddiogel, gyda phrydles ar yr adeilad tan 2030.

Ond yn y cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Porthmadog codwyd pryderon am ddyfodol y feddygfa yn ogystal â gwasanaethau iechyd yn fwy cyffredinol.

Unig feddygfa'r dref

Bwriad perchnogion y feddygfa, Meddyg Care Group Holdings Ltd, yw codi wyth o fflatiau drwy ddymchwel adeilad presennol Meddygfa Madog - unig feddygfa'r dref, sy'n gwasanaethu tua 4,000 o bobl.

Ffynhonnell y llun, Fisher German
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw dymchwel y feddygfa a chodi wyth fflat byw'n annibynnol ar gyfer pobl dros 55 oed

Dywedodd y cwmni eu bod yn "dymuno bod yn barod i ddatblygu'r safle ar ôl y cymal terfynu neu fel arall ar ddiwedd y brydles" yn 2030.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - sy'n rhedeg Meddygfa Madog yn uniongyrchol - yn dweud fod eisoes bwriad i adleoli'r ddarpariaeth, ond nad yw hyn "ar fin digwydd".

Mae'r bwrdd hefyd yn gwrthod awgrym gan yr ymgeiswyr y gallai'r feddygfa symud i gyn-ganolfan iechyd gerllaw.

Mae Cyngor Tref Porthmadog wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r cynigion, gan nodi pryder y byddai'n rhaid i gleifion deithio i Gricieth i weld eu meddyg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brydles ar adeilad presennol Meddygfa Madog, sy'n rhan o Hwb Iechyd Eifionydd, yn dod i ben yn 2030

Ymysg y siaradwyr a threfnwyr y cyfarfod oedd un o gynghorwyr sir y dref, Nia Jeffreys.

"Mae 'na bryder ofnadwy yn y dref," meddai.

"Mae 'na ddiffyg cyfathrebu wedi bod. Mae pobl wedi gweld y cais cynllunio ac yn amlwg yn dechrau poeni.

"Mae 'na ryw 10,000 yn byw yn Port ei hun a mae'r boblogaeth yna'n treblu yn yr haf. 'Da ni'n poeni'n arw am hyn."

Ychwanegodd: "Mae hwn wedi bod yn agoriad llygaid i bobl y dref a 'da ni'n sylweddoli fod y feddygfa ar les, sydd ddim yn addas i ddweud y gwir.

"Dwi'n falch fod ni'n cael y cyfarfod yma heno i helpu tawelu meddyliau pobl a gobeithio cychwyn y deialog hefo Betsi Cadwaladr.

"Mae angen i Betsi symud ymlaen hefo'r gwaith yma, dydyn nhw heb hyd yn oed adnabod safle eto."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na bryder ofnadwy yn y dref," meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys

'Isho cael gwybod'

"Mae pawb yn Port yn bryderus iawn," medd Anna Giraud-Jones - un o'r rheiny a fynychodd y cyfarfod nos Iau.

"Dwi 'di bod 'nôl a 'mlaen o'r ysbyty a dwi isho cael gwbod be' sy'n mynd i ddigwydd.

"Wnes i fracturio fy nghefn yn October a fues yn gwitchad 23 hours i fynd i'r hospital. Mae 'na lot o betha' fel hyn.

"Dim pawb ellith fynd i Cricieth. Mae o'n bryder ofnadwy."

Ychwanegodd Selwyn Griffiths: "Y prif bryder ydy'r ffaith fod 'na fygythiad, er fod 'na saith mlynedd i fynd.

"Pan oeddwn yn gynghorydd sir, dros chwe blynedd yn ôl, dwi 'di bod yn trafod hefo swyddogion Betsi Cadwaladr i gael meddygfa gwell ym Mhorthmadog.

"Maen nhw'n gwbod fod un Port yn mynd mewn saith blynedd... dylian nhw gael safle yn barod.

"Erbyn i chi brynu safle, a'i adeiladu, mae blynyddoedd yn mynd a dwi'n gweld hyn yn funud dwytha'."

Mewn ymateb i'r pryderon dywedodd cyfarwyddwr ardal y bwrdd iechyd, Ffion Johnstone: "Mae gennym ni les ar y feddygfa sy'n rhedeg tan 2030, ac er ei bod wedi bod yn fwriad gennym erioed i adleoli'r feddygfa i safle newydd, nid yw hyn ar fin digwydd.

"Ar hyn o bryd rydym yn archwilio safleoedd posibl yn y dref cyn datblygu achos busnes.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau gofal yn ardal Porthmadog.

"Mae Canolfan Sgiliau, Addysg a Hyfforddiant newydd wedi'i sefydlu yn Hwb Iechyd Eifionydd, a fydd yn ceisio hyfforddi a datblygu gweithwyr iechyd proffesiynol newydd gymhwyso, megis therapyddion galwedigaethol a fferyllwyr, i'w paratoi ar gyfer gyrfa o fewn gofal cychwynnol yn ardal Dwyfor."