Meddyg mewn clinig ar-lein i blant traws yn ennill apêl

  • Cyhoeddwyd
Dr Helen Webberley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Helen Webberley wedi croesawu dyfarniad yr Uchel Lys bod y casgliad iddi gamymddwyn yn "anghywir"

Mae meddyg teulu o Sir Fynwy a oedd yn rhedeg clinig ar-lein i blant trawsryweddol wedi ennill achos apêl yn yr Uchel Lys, wedi iddi gael ei diarddel am ddeufis yn dilyn tribiwnlys meddygol.

Ym mis Mehefin 2022 fe wnaeth panel ddyfarnu bod Helen Webberley, sylfaenydd gwefan o'r enw GenderGP, yn euog o gamymddygiad difrifol.

Roedd Dr Webberley o'r Fenni wedi cyflwyno ei hapêl mewn gwrandawiad diweddar yn yr Uchel Lys yn Llundain, gan ddadlau bod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriadau.

Mae barnwr wedi caniatáu ei hapêl ar ôl dod i'r casgliad bod dyfarniad y panel ynglŷn â chamymddygiad yn "anghywir."

'Achos hynod o gymhleth a sensitif'

Roedd bargyfreithiwr ar ran y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi dweud wrth yr achos yn yr Uchel Lys bod yr honiadau yn erbyn Dr Webberley yn ymwneud â'i thriniaeth o dri phlentyn neu berson ifanc a materion eraill.

Yn ôl canlyniadau'r tribiwnlys yn 2022, fe fethodd Dr Webberley gynnig gofal priodol i un claf trwy beidio trafod risg ynglŷn â ffrwythlondeb cyn darparu atalyddion glasoed ar bresgripsiwn.

Fe ddywedodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol y dylid diystyru ei hapêl.

Wrth amlinellu ei gasgliadau mewn dyfarniad ysgrifenedig, fe ddywedodd Mr Ustus Jay bod y panel wedi bod yn delio ag "achos oedd yn hynod o gymhleth a sensitif".

Ond fe ddywedodd bod yr "asesiad o'r mater o gamymddygiad" yn "anghywir".

Dywedodd bod "ffordd y panel o feddwl yn ddryslyd, yn amlwg yn anghywir mewn mannau, ac wedi hepgor cyfeiriadau at dystiolaeth bwysig".

'Parhau gyda fy ngwaith'

Wrth groesawu dyfarniad yr Uchel Lys, fe ddywedodd Dr Webberley: "Heddiw rwy'n dathlu'r newyddion bod fy apêl yn llwyddiannus a bod yr achos yn fy erbyn i drosodd.

"Hyd yn oed ar ôl archwiliad manwl o fy ngwaith a thros gant o honiadau, y casgliad ydi nad oes yna amharu ar fy ngallu i fod yn feddyg, a does dim cyfyngiadau arna i, a gallaf barhau gyda fy ngwaith sy'n arbed bywydau."

Pynciau cysylltiedig