Tad 'heb gael cyfiawnder' wedi marwolaeth ei fab
- Cyhoeddwyd
Mae tad seiclwr a gafodd ei ladd gan yrrwr a fethodd ag arafu na gwyro cyn y gwrthdrawiad yn dweud bod y penderfyniad i beidio â'i garcharu yn "ffars".
Dywedodd Tony Jones fod bywydau ei deulu wedi'u dinistrio pan gafodd ei fab David, 41, ei ladd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mai 2020.
Fis diwethaf fe gafodd Raymond Treharne ddedfryd ohiriedig o naw mis o garchar, a gwaharddiad rhag gyrru am saith mlynedd, am achosi'r farwolaeth drwy yrru'n ddiofal.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai barnwyr annibynnol sy'n penderfynu ar ddedfrydau.
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn ymwybodol o'r modd y mae bywydau'n cael eu chwalu "gan rheiny sy'n achosi marwolaeth ar ein ffyrdd".
"Dyma pam rydym wedi cynyddu'r gosb uchafswm am y troseddau gwaethaf i garchar am oes," meddai.
Yn ôl elusen Cycling UK, fe ddylai Treharne fod wedi'i gael yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn hytrach na gyrru'n ddiofal, ac roedd yr achos yn adlewyrchu "cyfreithiau traffig ffyrdd toredig" y DU.
Yn ystod yr achos, fe glywodd y llys pe bai Treharne wedi bod yn talu sylw fe fyddai wedi gweld David Jones, tad i ddau o blant 10 a saith oed, ar ei feic am o leiaf saith eiliad cyn ei daro.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r hyn roeddwn i'n ei glywed," meddai Tony Jones.
"Mae saith eiliad yn amser hir pan ry'ch chi'n meddwl am y peth. Mae'n ddigon hir i ymateb ac yn amlwg wnaeth e ddim.
"Pe bai wedi bod yn talu sylw byddai wedi ei weld, byddai wedi cael amser i arafu neu wyro - ond wnaeth e ddim byd."
Anghrediniaeth
Wrth siarad yn ei ystafell fyw ym Mhencoed, dywedodd Mr Jones iddo ddod i wybod bod rhywbeth o'i le pan ffoniodd ei fab - heddwas wnaeth ateb y galwad.
"Dywedodd fod Davie wedi bod mewn damwain," meddai.
"Dywedais 'iawn, a yw'n iawn?' Ac fe ddywedodd 'Rwy'n 99% yn siŵr ei fod wedi marw'.
"Fe ddes i mewn yma a dweud wrth y wraig ac roedd hi'n anhrefn yma. Doedd hi ddim yn gallu credu'r peth. Fe dorrodd i lawr ac mae hi dal yr un peth nawr."
Dywedodd fod y teulu cyfan mewn anghrediniaeth llwyr.
"Y noson cynt roedd e yma gyda ni yn cael stecen a sglodion i de a dyna'r tro diwethaf i ni ei weld," meddai.
Ar 29 Mai 2020, fe aeth David allan ar ei feic yn gynnar yn y bore fel yr oedd yn arfer ei wneud bron bob dydd cyn mynd i'r gwaith.
Roedd yn feiciwr profiadol ac yn gyfarwydd iawn â'r ffordd.
Roedd yr achos llys yn arbennig o heriol i'w dad, gyrrwr bysus wedi ymddeol, oherwydd ei fod yn 'nabod Treharne wedi i'r ddau weithio gyda'i gilydd flynyddoedd yn ôl.
"Tase fe wedi dod draw a dweud 'mae'n ddrwg gen i', fyddai e ddim wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o ran dod â Davie yn ôl, ond byddai wedi dangos ychydig o edifeirwch - ond doedd dim byd o gwbl."
Mae Treharne, o Fynydd Cynffig, wedi cael cais am sylw.
Dywed Mr Jones na allai credu ei fod wedi osgoi dedfryd o garchar, gan alw'r gosb yn "ffars go iawn", ac mae'n credu bod y barnwr wedi bod "yn rhy drugarog".
"Mae gyrru car fel cael cyllell yn eich llaw. Mae'n arf peryglus ac os y'ch chi'n lladd rhywun fe ddylech chi orfodi talu'r pris amdano.
"Dyw e heb. Mae wedi gadael â'i draed yn rhydd."
Roedd ei fargyfreithiwr, meddai, wedi cynghori'r teulu y byddai apêl yn annhebygol o lwyddo oherwydd bod Treharne wedi'i ddedfrydu o fewn y canllawiau dedfrydu am achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Mae Andrew Taylor, bargyfreithiwr troseddol yn Apex Chambers, Caerdydd yn cytuno.
"Rwy'n amau oherwydd bod gan Raymond Treharne record yrru ardderchog - roedd wedi gyrru'n broffesiynol am flynyddoedd lawer - doedd dim tystiolaeth o unrhyw alcohol neu gyffuriau, doedd dim tystiolaeth bod y cerbyd ar y ffordd yn anghyfreithlon... ac felly penderfynodd [y barnwr] yn erbyn ei anfon i'r ddalfa ar unwaith a gosod dedfryd ohiriedig."
Mae'n bwysig cofio, meddai, bod Treharne yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, sydd â dedfryd uchafswm o bum mlynedd o garchar.
Mae dedfryd o garchar am oes yn bosib am achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
"Dwi'n meddwl bod achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal yn un o'r ymarferion dedfrydu anoddaf i farnwyr," meddai.
"Mae hwn yn achos lle mae person wrth y llyw, gyda chanlyniadau dinistriol, yn anffodus ddim yn cadw golwg priodol fel y mae gofyn i ni oll ei wneud wrth yrru cerbyd.
"Roedd hynny, wrth gwrs, ar draul bywyd y sawl a fu farw, sy'n drasig, ond does dim byd na chymerodd y barnwr i ystyriaeth a ddylai fod wedi cael ei ystyried."
Mae rheolwr ymgyrchoedd Cycling UK, Keir Gallagher, yn credu bod yr achos yn dangos pam fod angen adolygu'r gyfraith.
"Mae methu â sylwi ar ddefnyddiwr ffordd arall am bron i 10 eiliad cyn eu taro a'u lladd yn amlwg yn weithred beryglus," meddai, "ond eto mae ein deddfau traffig ffyrdd toredig yn golygu bod Raymond Treharne ond wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.
"Fe wnaeth Llywodraeth San Steffan addo i adolygu'r deddfau diffygiol yma yn 2014 ond rydyn ni'n dal i aros, ac yn anffodus mae pris yr oedi yn cael ei dalu dro ar ôl tro gan deuluoedd fel un David Jones."
Mae'n galw ar y llywodraeth i ymrwymo i "ei hadolygiad cynhwysfawr hir-ddisgwyliedig i ddod â chysondeb i'n cyfreithiau traffig ffyrdd a chadw beicwyr, cerddwyr a gyrwyr cyfrifol yn ddiogel".
Dywedodd Tony Jones ei fod wedi dewis siarad yn gyhoeddus ar ran pobl eraill sy'n mynd drwy'r un profiad.
Er ei fod yn anghytuno â'r ddedfryd ohiriedig, does dim bwriad apelio yn ei erbyn, meddai.
"Dyw e ddim yn mynd i ddod ag e'n ôl," meddai am ei fab, gan ychwanegu na ddylai unrhyw riant orfod claddu eu plant.
"Fe fydd e'n atgof i ni am byth ac fe fydd wastad yn y galon ond mae'n rhywbeth na fyddwch chi byth yn dod drosto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2019