Myfyrwyr prifysgol yn cyfaddef defnyddio AI i wneud traethodau

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau fyfyriwr di-enw o Brifysgol Caerdydd wedi cyfaddef eu bod yn defnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial i gwblhau traethodau

Mae myfyrwyr Prifysgol yng Nghymru wedi cyfaddef defnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI) ChatGPT i gwblhau traethodau.

Yn ôl rhai o is-raddedigion Prifysgol Caerdydd fe gawson nhw radd dosbarth cyntaf am un traethawd gafodd ei ysgrifennu drwy ddefnyddio'r meddalwedd sydd wedi ei datblygu gan gwmni o America.

Dim ond ers rhai misoedd y mae ChatGPT ar gael yn gyhoeddus - rhaglen gyfrifiadurol sydd yn medru ateb cwestiynau yn ddeallusol, ysgrifennu llyfr neu draethawd ar unrhyw bwnc ac hyd yn oed i greu gwaith celf.

Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod yn cynnal arolwg o'u polisïau presennol ac y byddan nhw'n cyhoeddi canllawiau newydd i bob adran maes o law.

Mae Tom - nid ei enw cywir - yn un o'r myfyrwyr sydd wedi cynnal ymchwil personol i werth ChatGPT.

Fe wnaeth Tom sydd, ar gyfartaledd yn derbyn graddau 2:1 am ei waith, gyflwyno dau draethawd o 2,500 o eiriau yr un ym mis Ionawr.

Fe ysgrifennodd un o'r traethodau drwy ddefnyddio ChatGPT, gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf amdano.

Gradd o 2:1 sgoriodd y traethawd a ysgrifennwyd heb help unrhyw feddalwedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ChatGPT yn ymateb i gwestiynau defnyddiwr drwy ddefnyddio stôr enfawr o ddata ac yn ffurfio atebion mewn modd sydd yn ymddangos yn ddeallus ac yn synhwyrol.

"Wnes i ddim copïo pob gair air am air, ond mi roeddwn i yn gofyn ambell gwestiwn oedd yn rhoi llawer mwy o wybodaeth i mi ac yn gwneud hynny yn llawer iawn cyflymach na'r arfer," meddai Tom.

Mae Tom hefyd yn cyfaddef y bydd yn parhau i ddefnyddio ChatGPT yn y dyfodol i gynllunio ei draethodau.

Cais rhyddid gwybodaeth

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth i Brifysgol Caerdydd roedd 'na 14,443 ymweliad gyda safle ChatGPT drwy rwydwaith WiFi y brifysgol yn ystod cyfnod asesu mis Ionawr 2023.

Fis yn gynharach, ym mis Rhagfyr 2022, roedd y ffigwr yn sero.

Er y cynnydd trawiadol does gan y Brifysgol ddim lle i gredu fod na unrhyw gymhelliad anghyfreithlon i'r ymweliadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lansiodd cwmni o America, OpenAI, y meddalwedd fis Tachwedd y llynedd

"Ein rhwydwaith ymchwil ni fel Prifysgol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r ymweliadau," meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd.

"Mae gan staff ein Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, er enghraifft, ddiddordeb academaidd mewn cynnal ymchwil a dysgu am ddeallusrwydd artiffisial."

'Ei ddefnyddio ar gyfer pob darn o waith'

Mae John - nid ei enw cywir - yn fyfyriwr arall ym Mhrifysgol Caerdydd sydd yn cyfaddef iddo ddefnyddio y feddalwedd newydd i gwblhau gwaith.

"'Dw i wedi ei ddefnyddio sawl gwaith ers mis Rhagfyr," meddai, "a dwi'n meddwl i fi ei ddefnyddio tra'n cwblhau pob darn o waith ers hynny.

"I bob pwrpas, mae wedi dod yn rhan o'm mhatrwm gwaith, ac mi fydd yn parhau i fod tan na chaf i ei ddefnyddio eto.

Er nad yw ChatGPT yn cynnwys cyfeiriadau academaidd penodol, mae John yn dweud na chafodd o drafferth yn cwblhau'r elfen yna o'r gwaith ei hun.

"Dwi hefyd wedi gofyn iddo i grynhoi cysyniadau eitha' cymhleth o'n i'n teimlo nad oedd y darlithwyr wedi cael hwyl fawr iawn arni eu hunain," meddai.

"Mae'n declyn gwych i gael gwared ar y waffle sy'n cael ei gynnwys gan rai darlithwyr, sydd ddim ei angen mewn traethawd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r ddau fyfyriwr yn pwysleisio nad ydyn nhw yn defnyddio ChatGPT i ysgrifennu'r traethodau ond, yn hytrach, maent yn troi at ChatGPT i greu cynnwys y gallan nhw wedyn addasu eu hunain.

Ac o ran cael eu dal gan eu arholwyr, mae John yn sicr na all neb sylwi ar ddylanwad y meddalwedd ar eu gwaith.

"Alla' i ddim gweld unrhyw ffordd sut y gall unrhyw un wahaniaethau rhwng fy ngwaith i a gwaith sy' wedi cael ei arwain gan y meddalwedd," meddai John.

"Licien i feddwl," ychwanegodd, "mod i wedi osgoi hyn, ond mod i hefyd wedi manteisio ar be' sydd gan ChatGPT i gynnig, a hynny yn ystod fy mlwyddyn bwysica' yn y Brifysgol."

'Gonestrwydd academaidd yn flaenoriaeth'

Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod yn cymryd honiadau o gamymddwyn academaidd, gan gynnwys llen-ladrad o ddifri.

"Er nad oes cyfeiriad penodol ato ar hyn o bryd, mae'r camddefnydd o IA yn dod dan ein polisi presennol ar onestrwydd academaidd," meddai llefarydd.

"Rydyn ni yn ymwybodol o botensial rhaglenni IA fel ChatGPT ar waith cwrs ac asesiadau.

"Cynnal gonestrwydd academaidd yw ein prif flaenoriaeth. Ein bwriad yw addysgu ein myfyrwyr am y defnydd cywir o DA, ac oherwydd hynny rydyn ni yn cynnal arolwg o'n polisïau presennol ac fe fyddwn ni yn cyhoeddi arweiniad newydd ar y mater maes o law."