Y dechnoleg all newid y byd addysg am byth
- Cyhoeddwyd
Mae rhai'n pryderu bod y dechnoleg ddiweddaraf ym myd deallusrwydd artiffisial [artificial intelligence] yn mynd i newid y ffordd rydym ni'n dysgu ac addysgu yn y dyfodol agos.
Mae rhaglenni fel ChatGPT gan gwmni OpenAI wedi syfrdanu pobl gyda'i allu i ateb cwestiynau mewn arddull sydd ar olwg gyntaf yn edrych fel petai person arall wedi ei ysgrifennu. Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn iddo, a bydd yn ceisio ymateb drwy ddefnyddio gwybodaeth sydd wedi cael ei fewnbynnu i'w fâs data.
Caiff systemau tebyg eu defnyddio'n barod gan gwmnïau ar y we i ateb cwestiynau eu defnyddwyr, ond mae'r dechnoleg hon yn mynd â'r syniad yma gam ymhellach. Mae'n gallu ysgrifennu paragraffau neu dudalennau o gynnwys, ac mae pryder y bydd pobl yn ei ddefnyddio i ysgrifennu traethodau neu erthyglau ffug yn y dyfodol.
Er mwyn dod i ddeall sut yn union y mae'n gweithio, cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Phennaeth Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor, Dr Iestyn Pierce.
Eglurodd Iestyn nad yw'r egwyddor yn un newydd, a bod pobl fel Alan Turing wedi bod yn astudio gallu cyfrifiaduron i ddynwared pobl ers hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
"Mae'n mynd yn ôl i hen hanes, fel prawf Turing, sy'n gofyn os ydych chi'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng cyfrifiadur yn ymateb neu berson arall. Rhyw fath o fersiwn newydd o hynny ydi hyn.
"Mae 'na corpus mawr o destunau, miliynau o wahanol erthyglau a rhaglenni cyfrifiadurol. Mae 'na fodd i chi ofyn cwestiynau iddo fo, ond wrth gwrs, dydy o ddim yn ysgrifennu nac yn meddwl. Beth mae o'n ei wneud ydi edrych drwy'r corpus anferthol yma sydd wedi cael ei roi i mewn iddo fo."
'Arf ychwanegol'
Fel rhan o waith diweddar yr ysgol, mae Iestyn wedi bod yn annog ei fyfyrwyr i geisio ysgrifennu côd cyfrifiadurol gan ddefnyddio'r feddalwedd.
"'Da ni wedi bod yn arbrofi 'chydig bach... ac i 'sgwennu rhaglenni cyfrifiadur, mae o i weld yn gweithio yn reit dda. Yn ôl pob sôn, mae 'na andros o lot o raglenni yn yr iaith Python, iaith boblogaidd hefo gwneud gwyddoniaeth data, felly mi wneith o 'sgwennu yn yr iaith yna yn grêt."
Fodd bynnag, mae rhai yn credu y bydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio hyn i geisio twyllo mewn aseiniadau neu arholiadau.
"Lle mae pobl yn poeni ydi... os ydan ni'n gosod tasgau i fyfyrwyr i weld os ydyn nhw wedi deall sut i 'sgwennu rhaglenni cyfrifiadur, mae 'na bryder os ydyn nhw jest 'di teipio cwestiwn i mewn i ChatGPT a chael rhywbeth sydd yn edrych yn iawn... ydyn nhw wedi dysgu rhywbeth? Dydyn nhw ddim wedi gorfod chwysu i orfod cywiro os ydyn nhw wedi gwneud camgymeriad.
"Mae pobl eraill yn meddwl mai teclyn neu arf ychwanegol ydi o. Roedd pobl yn poeni o'r blaen bod cyfrifiadur yn gwirio eich sillafu neu eich gramadeg chi, ac mi'r oeddan nhw'n gofyn os ydi o'n cymryd y sgìl i ffwrdd o ysgrifennu."
Y ffordd o'i chwmpas hi i Iestyn ydi ceisio defnyddio'r systemau hyn i roi cymorth i'r myfyrwyr, gan addasu'r tasgau i gyd-fynd â hynny.
"Dwi'n teimlo be' fedrwn ni wneud ydi gosod y tasgau yn wahanol. Y sgìl yn y diwedd ydi nid gofyn i rywun sgwennu rhaglen, ond profi bod y rhaglen ydych chi wedi ei gael o rywle fel ChatGPT yn gywir neu beidio.
"Mae angen cydnabod y ffynhonnell, ac yna i basio'r asesiad, rhaid dangos bod y rhaglen yn datrys y broblem sydd dan sylw, a phrofi nad oes 'na ateb anghywir yn codi.
"Roedd hyn yn fater oedd yn codi pan oeddwn i'n fyfyriwr 30 mlynedd yn ôl. Yn lle 'sgwennu rhaglen a gobeithio ei fod o am weithio, roedd 'na gred y dyliech chi allu profi yn fathemategol bod y rhaglen yna'n mynd i wneud yn union beth oeddech chi'n ei fwriadu iddo fo ei wneud.
"Un o'r negeseuon mawr ym myd y brifysgol ydi peidio pryderu ei bod yn ddiwedd y byd, a meddwl be' yda ni isio ei wneud pan 'da ni'n asesu gwaith myfyrwyr. Isio nhw ddysgu ydym ni yn y diwedd yn hytrach na phasio arholiadau. Tystiolaeth ydi arholiadau. Cyn belled ein bod ni'n cofio mai'r syniad yn y diwedd ydi galluogi i bobl feddwl drostyn nhw eu hunain... dyna mae prifysgolion yn dda beth bynnag."
Ydy technoleg yn mynd yn rhy bell?
Dydi cwestiynau moesegol am allu cyfrifiaduron a pheiriannau i efelychu ymddygiad pobl ddim yn rhai newydd o bell ffordd. Mae Iestyn yn cofio darllen tra'n blentyn am ffurfiau cynnar o ddeallusrwydd artiffisial a'u posibiliadau.
"Mae pobl yn clustnodi pethau fel 'ma fel pethau sydd â risg dirfodol [existential] iddyn nhw. Ers 'dw i'n ddisgybl ysgol, dw i'n cofio gweld llyfrau am gyfrifiaduron cartref, oedd yn newydd ar y pryd. Dwi'n cofio darllen am ELIZA, oedd yn rhyw fath o Chat Bot cynnar.
"Am yn hir iawn, mae'r pethau 'ma wedi bod yn rhyw fath o novelty ac yn 'chydig bach o jôc."
Y rheswm nad ydy pobl wedi eu cymryd o ddifrif yn y gorffennol yw'r ffaith bod yna wallau yn y systemau sy'n golygu nad ydyn nhw wedi gweithio'n iawn. Dydi rhaglenni fel ChatGPT ddim yn eithriad.
"Un peth oeddwn i'n ei weld yn ddiddorol oedd ei fod o'n gallu ysgrifennu testun, ac yn gallu ymddangos yn synhwyrol gyda rhyw steil ysgrifen doeth ac yn defnyddio iaith mewn modd grefftus, ond bod yna syniadau hollol boncyrs yna hefyd. Mae pobl wedi ei ddisgrifio fel rhyw fath o hallucination.
"Roedd 'na esiampl dda ar Radio 4, lle y gwnaethon nhw ofyn... 'ysgrifennwch ragarweiniad i raglen wyddoniaeth boblogaidd ar Radio 4'. Mi wnaeth y gyflwynwraig ei ddarllen o allan, a rhyw dri chwarter ffordd i mewn mi drodd o'n hollol bananas."
Mae'n olrhain y problemau hyn yn ôl i'r cyfnod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
"Mae 'na esiamplau gan bobl fel Claude Shannon, peiriannydd ofnadwy o enwog. 'Naeth o wneud arbrofion a dangos y gallwch chi ddwyn syniadau allan o ieithoedd gwahanol. Os ydych chi'n ysgrifennu rhywbeth yn Saesneg ac yn defnyddio'r llythyren 'q', mae'n debygol iawn mae'r llythyren nesaf fydd 'u'. Wedyn, mae'n edrych ar debygolrwydd y llythyren nesaf. Yn sydyn iawn, 'da chi'n cael rhywbeth sydd yn gobbledegook, ond yn edrych yn debyg i iaith."
'Mae'n rhaid i ni fod yn bryderus wedyn'
Er nad yw'r dechnoleg wedi argyhoeddi pobl yn llawn hyd yn hyn, mae peryg gwirioneddol i bethau ddatblygu'n gyflym, meddai Iestyn.
"Y pryder yw eu bod nhw'n tyfu'n exponential rwan. Mae pethau wedi bod yn tyfu'n araf ers yn hir, ond os ydy rhaglen yn dysgu sut i fwydo a rhaglennu ei hun, mae'n gallu mynd 'bang'! Mi fydd yn rhaid i ni fod yn bryderus wedyn.
"Ydy pobl yn mynd i ddefnyddio hwn i dwyllo pobl eraill, fel y bots ar Twitter? Oes 'na erthyglau yn mynd i gael eu cyhoeddi sy'n edrych fel rhai Cymru Fyw, er enghraifft, yn arddull Cymru Fyw, ond ddim ar wefan Cymru Fyw. Oes modd coginio'r math yna o beth?"
Y Gymraeg yn ei chanol hi
Mae ChatGPT yn defnyddio data sydd wedi ei ysgrifennu mewn nifer o ieithoedd, yn cynnwys ieithoedd lleiafrifol. Mae modd i'r Gymraeg elwa o hyn yn ôl Iestyn, ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i bobl weithio'n galed i fewnbynnu mwy o ddata.
"Mae Canolfan Bedwyr yma yn y Brifysgol ym Mangor yn gwneud gwaith gyda chreu corpus yn y Gymraeg. 'Da chi angen swp o destunau fel eich bod chi'n gallu creu rheolau a rhaglenni allan ohono fo.
"Mae'n ddigon hawdd mewnbynnu pethau iddo fo. Mae'n rhaid i rywun wneud y cam cyntaf 'na rŵan, ond falle y bydd y pethau 'ma'n gallu rhaglennu eu hunain wedyn yn y dyfodol."
Hefyd o ddiddordeb: