'Ras am ddyrchafiad drosodd' wedi i Wrecsam guro Notts County

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin, prif sgoriwr Wrecsam, wnaeth unioni'r sgôr cyn goliau pellach gan Jacob Mendy ac Elliot Lee

Mae'r sylwebydd a chyn-chwaraewr Wrecsam, Waynne Phillips yn grediniol fod y ras am ddyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol "drosodd" bellach, wedi buddugoliaeth Wrecsam ddydd Llun.

Fe wnaeth y Dreigiau guro Notts County o 3-2 mewn gêm hynod gyffrous, a'r drama yn para tan yr eiliadau olaf wrth i'w golwr Ben Foster arbed cic o'r smotyn.

Mae'n golygu bod gan Wrecsam dri phwynt o fantais dros Notts County bellach ar frig y tabl, a gêm mewn llaw, gyda dim ond pedair yn weddill i'w chwarae.

Roedd perchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ar y Cae Ras i weld y perfformiad tyngedfennol, gyda Reynolds yn disgrifio'r gêm wedyn fel un "brydferth, arteithiol".

'Ddim am daflu hi i ffwrdd'

Roedd y stadiwm yn llawn dop gyda thua 10,000 o gefnogwyr ar gyfer yr ornest, ac fe arhosodd llawer ohonynt ar ôl am sbel ar ôl y chwiban olaf i ddathlu gyda'r tîm a chanu caneuon, gan gynnwys Yma O Hyd.

"Yr awyrgylch ar ôl y gêm, dwi 'rioed 'di gweld rhywbeth tebyg ar y Cae Ras," meddai Waynne Phillips wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mawrth.

"Roedd yr olygfa yn wych, a bydd o'n aros efo lot ohonan ni am rai blynyddoedd."

Ar ddiwedd y gêm fe awgrymodd rheolwr Notts County, Luke Williams fod y "ras am ddyrchafiad drosodd", ac mae Phillips yn "cytuno".

Disgrifiad,

Cefnogwyr Wrecsam: 'Dyma ein tymor ni'

"Fydd Wrecsam ddim yn taflu hi ffwrdd o fan 'ma," meddai.

"Dwi'n dal i feddwl beth nes i dd'eud wythnosau, fisoedd yn ôl - bydd Wrecsam yn gorffen ar y brig, dwi'n gweld nhw'n eu gwneud hi o chwe phwynt."

Bydd Wrecsam oddi cartref yn Barnet ddydd Sadwrn, ond yna fe allen nhw ennill y gynghrair - a dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed - yn un o'u dwy gêm gartref sy'n weddill, yn erbyn Yeovil a Boreham Wood.

"Dyna be' dwi'n gobeithio, bod nhw'n gwneud hi adra ar y Cae Ras [yn erbyn Boreham Wood]," meddai Phillips. "Achos does 'na ddim awyrgylch fel dwi 'di gweld ddoe ar y Cae Ras."

'Dim calon ar ôl gen i'

Cyn y gêm roedd Wrecsam a Notts County benben â'i gilydd, a ben ac ysgwyddau'n well na phawb arall yn y gynghrair - y ddau glwb ar 100 o bwyntiau yn y tabl, ac wedi sgorio dros 100 o goliau'r tymor yma.

Ac mewn gornest gyffrous, roedd Notts County ar y blaen ar yr egwyl cyn i Wrecsam ddod yn ôl yn yr ail hanner ac ennill, er gwaetha'r gic o'r smotyn hwyr.

Wrth roi teyrnged i'r gwrthwynebwyr, dywedodd Ryan Reynolds ei fod yn teimlo "balchder eithriadol" yn y ffordd y gwnaeth chwaraewyr Wrecsam "godi i'r achlysur" dan y pwysau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n gêm nerfus i'w gwylio i'r cyd-berchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds

"Dwi'n teimlo fel bod dim calon ar ôl gen i - nes i ddefnyddio pob curiad oedd gen i ar ôl yn y gêm yna!" meddai wrth siarad gyda BT Sport.

"Roedd hwnna fel dim byd dwi wedi'i weld o'r blaen, ac yn dangos beth 'dych chi i gyd sydd wedi gwneud hyn drwy eich bywyd yn mynd drwyddo wrth wylio'r gêm brydferth, arteithiol yna."

Cyn y gêm roedd Reynolds a'i gyd-berchennog wedi cael eu hanrhydeddu gyda Rhyddid Wrecsam mewn seremoni yn Neuadd y Dref, ar ôl dod â'r "clwb a'r gymuned... i sylw y byd".

"Dwi'n gwybod ein bod ni yma fel eich bod chi'n diolch i ni am ryw reswm, ond dwi'n teimlo mai'r ffordd arall rownd ydy hi," meddai Reynolds yn y digwyddiad.

"Rydyn ni eisiau diolch i chi am beth 'dych chi wedi ei roi i ni. Mae'n anodd dod o hyd i'r geiriau i ddweud beth mae hyn yn ei olygu."

Ffynhonnell y llun, FILMCAFE
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds eu hanrhydeddu mewn seremoni yn Neuadd y Dref Wrecsam cyn y gêm

Er nad oedd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson am ddathlu dyrchafiad y clwb nes ei fod yn "fathemategol" bendant, roedd ganddo ganmoliaeth fawr i Foster am ei gyfraniad.

Fe wnaeth Foster - cyn-golwr Lloegr, oedd wedi ymddeol o bêl-droed cyn penderfynu dychwelyd i helpu Wrecsam yn wythnosau olaf y tymor - arbed cic o'r smotyn yn yr eiliadau olaf i warchod y fuddugoliaeth.

"Mae ymosodwyr yn cyfrannu at eiliadau mawr a golwyr hefyd, mae chwaraewyr mawr yn perfformio pan mae eu hangen nhw fwyaf," meddai Parkinson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe arwyddodd Ben Foster i Wrecsam lai na thair wythnos yn ôl, yn dilyn anaf i'r golwr dewis cyntaf Rob Lainton

"Roedd o'n foment fawr i Fozzy. Nes i ddod ag o fewn am yr eiliadau yna, ac mae o wedi digwydd heddiw."

Dywedodd Foster, 40, fod arbed y gic o'r smotyn yn yr eiliad olaf i ennill y gêm i'w dîm wedi "cyfiawnhau" ei benderfyniad i ddychwelyd - ag yntau wedi dechrau ei yrfa bêl-droed bron i ddau ddegawd ar fenthyg yn Wrecsam.

"Roedd o'n hysbys iawn mod i'n hapus wedi ymddeol, yn cael amser da yn chwarae golff," meddai wrth BBC Sport Wales.

"Wedyn fe wnaeth Wrecsam alw, a wir, mae'n siŵr nad oedd na'r un clwb arall y byswn i wedi dod allan o ymddeoliad i 'neud o ar ei gyfer."