Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-2 Notts County
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam gam yn nes at ddyrchafiad hirddisgwyliedig i'r Gynghrair Bêl-droed ar ôl ennill yn erbyn Notts County mewn gêm ddramatig ar Y Cae Ras.
Mae'r Dreigiau yn dychwelyd i frig y Gynghrair Genedlaethol ac yn camu uwchben County ar ôl eu trechu 3-2 o flaen torf o bron i 10,000 o bobl.
Fe wnaeth y bytholwyrdd Ben Foster arbed cic o'r smotyn yn y munud olaf i sicrhau'r triphwynt i'r tîm cartref.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, diolch i gic rydd wych gan John Bostock.
Ond daeth Wrecsam yn ôl yn gryf wedi'r egwyl, gyda Paul Mullin a Jacob Mendy yn sgorio i roi'r Cymry ar y blaen.
Daeth capten Notts County, Kyle Cameron â'r ymwelwyr yn gyfartal gyda pheniad nerthol, cyn i Elliot Lee sgorio'r gôl fuddugol wedi 78 munud o chwarae.
Ond Foster, a arwyddodd gytundeb tymor byr fis diwethaf yn 40 oed, oedd yr arwr ar ôl iddo arbed cic o'r smotyn Cedwyn Scott reit ar ddiwedd y gêm.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam ar frig y tabl gyda 103 o bwyntiau, gyda Notts County yn ail ar 100 o bwyntiau.
Dim ond tair gêm sydd gan County yn weddill tra bod gan Wrecsam bedair ar ôl, gyda dim ond un tîm yn cael dyrchafiad yn awtomatig.
Wrecsam erbyn hyn ydy'r ffefrynnau'r i ddychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed, a hynny am y tro cyntaf ers 2008.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023