Arestio tri wedi digwyddiad gêm Fflint a Chaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans ar y maesFfynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn y digwyddiad ar Gae y Castell, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Stadiwm Essity

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar ôl ffrwgwd yn ystod gêm bêl-droed rhwng Y Fflint a Chaernarfon ddydd Sadwrn.

Toc wedi 17:30 cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiadau o ymladd rhwng y ddau dîm ar Gae y Castell a bu'n rhaid dod â'r gêm i ben wedi i gefnogwr gael anafiadau difrifol.

Mae dyn yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dean Jones: "Mae bachgen 15, dyn 19 a dyn arall 41 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar amheuaeth o achosi anhrefn treisgar ac anafu'n fwriadol.

"Mae nhw wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau," ychwanegodd.

"Ry'n yn annog unrhyw dystion sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."

Disgrifiad,

Hofrennydd yn cyrraedd Stadiwm Essity nos Sadwrn wedi ymladd yn ystod gêm rhwng Y Fflint a Chaernarfon

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Nick Evans bod ymchwiliad eang bellach ar y gweill er mwyn canfod y rhai oedd yn gysylltiedig â'r ffrwgwd ac er mwyn sicrhau bod y rhai oedd â rhan yn y digwyddiad yn cael eu herlyn.

"Does dim lle i olygfeydd o'r fath, ac yn ychwanegol i'r erlyniadau fe fyddwn yn gwahardd y rhai oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad rhag mynd i gemau pêl-droed yn y dyfodol.

"Ry'n hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn sicrhau na fydd golygfeydd tebyg yn digwydd eto."

'Condemnio'r ymddygiad'

Fore Mawrth fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.

Roedd y gêm yn frwydr dyngedfennol rhwng y timau sydd yng ngwaelodion tabl JD Cymru Premier.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran CBDC: "Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad honedig yn y gêm JD Cymru Premier rhwng Y Fflint a Chaernarfon ddydd Sadwrn 8 Ebrill.

"Does dim byd pellach i'w ychwanegu ar hyn o bryd."

Ychwanegodd CPD Tref y Fflint eu bod nhw'n "condemnio'r ymddygiad gwarthus gan leiafrif o unigolion yn ystod y gêm heddiw yn llwyr".

Yn ddiweddarach fe ddiolchodd CPD Tref Caernarfon i staff iechyd wnaeth helpu "dau gefnogwr a anafwyd".

"Mae ein meddyliau ar hyn o bryd gyda'r ddau gefnogwr a dymunwn wellhad llwyr a buan iddynt," meddai'r clwb.