Rhedeg 12 marathon er cof am fab awtistig a laddodd ei hun

  • Cyhoeddwyd
Louise Draycott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louise Draycott yn dweud fod angen i bobl ddangos mwy o ddealltwriaeth ac amynedd gyda phobl awtistig

Mae menyw o Sir Benfro wedi penderfynu rhedeg 12 marathon er cof am ei mab awtistig wnaeth ladd ei hun.

Gobaith Louise Draycott yw codi ymwybyddiaeth am effaith awtistiaeth ar fywyd bob dydd i'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr.

Roedd Luke Draycott o Benfro yn 22 oed pan fu farw ym mis Mawrth 2022.

Roedd yn berfformiwr talentog, ac roedd â'i fryd ar hyfforddi i fod yn gyfarwyddwr ffilm.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe dderbyniodd teulu Luke radd Rhagoriaeth ar ei ran ar ôl iddo gwblhau cwrs Diploma Perfformio a Chelfyddydau Cynhyrchu yng Ngholeg Sir Benfro.

Roedd hefyd wedi ennill lle i astudio Ffilm yn y brifysgol ac roedd yn "angerddol am fyd y ffilm a drama", yn ôl ei fam Louise, 57.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Luke Draycott yn 22 oed pan fu farw ym mis Mawrth 2022

Fel rhan o'i hymgyrch i gofio am ei mab, mae hi'n dweud bod angen i bobl ddangos mwy o ddealltwriaeth ac amynedd gyda phobl awtistig.

"Rwy'n gwneud hyn oherwydd dymuniad olaf Luke oedd nid yn unig i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth, ond i bobl ddeall beth mae e fel i fod yn awtistig, ac i wynebu'r anawsterau sydd yn codi o ddydd i ddydd," meddai.

"Maen nhw'n ei chael hi'n anodd wynebu sefyllfaoedd cymdeithasol.

"Rwy'n gofyn i bobl fod yn garedig, i ddangos dealltwriaeth ac i fod yn amyneddgar gyda phobl sydd yn wahanol, fel Luke."

Mae Louise eisoes wedi cwblhau dau farathon, gyda 10 yn rhagor i ddod cyn diwedd 2023.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louise yn codi arian ar gyfer elusennau Mind a Papyrus er cof am Luke

Dywedodd hi fod awtistiaeth Luke wedi cael effaith enfawr arno wrth iddo dyfu'n hŷn.

"Pan roedd yn blentyn, roedd yn medru byw yn ei fyd bach ei hun, ond wrth iddo dyfu'n hŷn, roedd yn sylweddoli ei fod yn wahanol," meddai.

"Mae cymdeithas yn disgwyl i chi ymddwyn mewn ffordd benodol, ac roedd hynny'n anodd iddo.

"Roedd yn ei chael hi'n anodd tynnu 'mlaen gyda phobl oedd heb awtistiaeth.

"Roedd e'n dweud wrtha i yn aml ei fod ond yn teimlo'n gyfforddus yng nghwmni pobl eraill ag awtistiaeth.

"Roedd e'n pryderu y byddai'n dweud y peth anghywir neu'n cythruddo rhywun.

"Roedd yn ymwybodol iawn ei fod yn wahanol, a doedd e ddim yn teimlo ei fod yn cydymffurfio."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Luke yn berfformiwr talentog, ac roedd â'i fryd ar hyfforddi i fod yn gyfarwyddwr ffilm

Fe ddechreuodd Luke gael problemau gyda'i iechyd meddwl pan oedd yn 18 oed.

"Fe aeth yn isel iawn a dechrau trafod hunanladdiad," meddai Louise.

"Fe dderbyniodd gymorth a chwnsela, ac fe gysyllton ni gyda'r elusen Mind.

"Fe ddaeth drwyddi gyda'r cymorth cywir. Roedd hi'n sioc aruthrol pan wnaeth e farw."

'Poeni nad oedd pobl yn ei ddeall'

Roedd agweddau eraill o fywyd Luke yn ffynnu.

Roedd wedi cael dau gynnig diamod i fynd i'r brifysgol, ond ailgodi wnaeth y pryderon am ei fywyd fel myfyriwr gydag awtistiaeth.

"Rwy'n meddwl fod e'n poeni nad oedd pobl yn ei ddeall, ac roedd byw mewn cymdeithas ble mae pobl yn disgwyl i chi ymddwyn mewn ffordd arbennig yn rhy anodd iddo," meddai ei fam.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam a llystad Luke, Louise Draycott a Jon Tallis, eisiau i fwy o bobl drafod

Yn ôl llystad Luke, Jon Tallis, mae'r teulu hefyd yn awyddus i drafod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

"Mae yna stigma enfawr mewn cymdeithas wrth drafod hunanladdiad," meddai.

"Ond wrth drafod hunanladdiad, mae pobl yn fwy tebygol o gael cymorth er mwyn ei atal.

"Dyma'r prif reswm o hyd am farwolaeth pobl o dan 35 oed, sydd yn ystadegyn brawychus."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei fam fod Luke "ond yn teimlo'n gyfforddus yng nghwmni pobl eraill ag awtistiaeth"

Yn ôl Louise, mae ymarfer ar gyfer y rasys yng nghwmni ei chi, Skye, wedi ei chynorthwyo i ymdopi gyda'r golled.

"Mae rhedeg wedi bod yn gymorth enfawr, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf," meddai.

"Rwy'n credu, oni bai am y redeg, mi fyddai wedi bod yn anodd iawn ymdopi gyda cholli Luke.

"Ar un adeg, roeddwn i yn rhedeg bob dydd, achos roedd yn golygu fy mod i yn codi o'r gwely ac yn mynd allan.

"Mae bod yn yr awyr agored yn bwysig iawn o ran iechyd meddwl, ac mae'n rhoi rhywbeth i fi ganolbwyntio arno.

"Mae'n gyfle i fi fod ar fy mhen fy hun a rhyddhau'r straen roeddwn i'n ei deimlo. Mae wedi bod o gymorth enfawr."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Louise, mae ymarfer yng nghwmni ei chi, Skye, wedi ei chynorthwyo i ymdopi gyda'r golled

Bydd Louise yn codi arian ar gyfer elusennau Mind, sy'n cefnogi pobl gyda heriau iechyd meddwl, a Papyrus, sy'n ceisio atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Os ydych chi yn gwybod am unrhyw sy'n wynebu heriau iechyd meddwl, mae cymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig