Cyflogwyr 'angen mwy o hyfforddiant' am awtistiaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyw ymddygiad person awtistig yn ystod cyfweliad ddim o reidrwydd yn amlygu eu hymddygiad petawn nhw yn y swydd, medd Nath Trevett

Mae ymgyrchwyr yn galw ar gyflogwyr a chwmnïau i gael mwy o hyfforddiant ar sut i gefnogi pobl ag awtistiaeth.

Mae Nath Trevett o Rondda Cynon Taf yn ddweud bod cyflogwyr weithiau'n camddeall nodweddion awtistiaeth o ganlyniad i'w "hanwybodaeth a chamddealltwriaeth".

Mae dros 50% o'r bobl yn y DU sy'n byw ag anableddau mewn gwaith, ond mae'r ganran o bobl sy'n byw gydag awtistiaeth sydd mewn gwaith yn is na 22%.

Dywedodd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fod y bwlch cyflogaeth hwn yn peri pryder ac yn "wastraff talent".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cynnig sawl rhaglen i helpu, ac maen nhw wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag awtistiaeth.

'Anwybodus a gwahaniaethol'

Fe wnaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 ei gwneud hi'n anoddach i gyflogwyr drin pobl anabl yn annheg wrth wneud cais am swyddi.

Mae'r ddeddf hefyd yn dweud bod dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol os yw rhywun yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol oherwydd eu hanabledd.

Ond mae Nath, sy'n gyfieithydd rhan amser, yn dweud fod pobl sydd ag awtistiaeth yn dal i wynebu rhwystrau, ac yn aml dydy cyflogwyr ddim yn gwybod digon am yr anabledd.

Mae Nath wedi cael rhai swyddi, ond dywedodd nad oedd yn sylweddoli pa mor anodd yw hi i bobl fel ef i ddod o hyd i waith nes iddo golli ei swydd yn ddiweddar.

Ffynhonnell y llun, Nath Trevett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nath Trevett yn dweud fod llawer o gyflogwyr yn gwybod dim am awtistiaeth, a bod hynny yn creu rhwystrau i bobl awtistig

"O'dd e ddim yn anodd iawn i gael cyfweliadau, ond roedd y broses ei hun yn anodd," meddai Nath.

"Roedd jyst bod mewn cyfweliad lle maen nhw'n gofyn cwestiynau i chi, a chi'n trio eich gorau jyst i ennill eu hymddiriedaeth nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod unrhyw beth am awtistiaeth.

"Dwi'n meddwl dwi'n lwcus, dwi'n medru cael swydd mewn cwmni sy'n deall awtistiaeth, achos mae pawb yn deall ei gilydd.

"Ond ar yr un pryd dwi'n grac iawn i weld bod y gymdeithas fwy eang dal yn anwybodus am awtistiaeth, oherwydd dwi ddim yn hoffi gweld pobl yn dioddef."

'Rhaid iddyn nhw addasu'

Dywedodd fod angen i gyflogwyr a chwmnïau gael eu haddysgu yn well am beth yn union yw awtistiaeth.

"Mae angen lot mwy o addysg a lot fwy o hyfforddi - lot mwy o ymwybyddiaeth," meddai.

"Mae angen i gyflogwyr ddeall y symptomau, y sensitifrwydd, y goleuadau llachar, synau uwch, a'r ffaith y gall pobl awtistig fod yn llythrennol.

"Felly mae'n rhaid iddyn nhw addasu a jyst derbyn nhw, oherwydd dyw e ddim yn wahanol i rywun sydd yn dyslexic."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig help ariannol i bobl ag awtistiaeth, medd Natalie Morgan o'r adran gyflogadwyedd

Mae Natalie Morgan yn gweithio yn yr adran gyflogadwyedd i Gyngor Sir Penfro.

Mae'n dweud fod rhaglen newydd gan y cyngor ar hyn o bryd sy'n helpu pobl gydag anableddau, anghenion dysgu ac awtistiaeth i gael gwaith.

Mae gweithdy Diwydiannau Norman yn Hwlffordd yn paratoi eu gweithwyr ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Maen nhw wedi derbyn grant gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

"Gyda'r grant yma 'dan ni'n cydweithio gyda Cheredigion a Sir Gâr hefyd i greu cyfleoedd i greu rhaglen i helpu pobl mewn i'r gwaith, nid jyst y rhai sy'n barod am waith. Mae jyst yn rhoi hyder i bobl," dywedodd Natalie.

"Felly, 'dan ni yn un o'r ddau ddarparwr yng Nghymru sydd wedi cael y grant - ni a Caerdydd. Ac mae 24 yn Lloegr wedi ei gael.

"Mae'n grant eithaf newydd a'r gobaith yw wedyn mynd mas a dangos i'r cynghorau eraill a darparwyr eraill beth allwn ni wneud a sut gallan nhw addasu er mwyn helpu pobl gydag awtistiaeth 'nôl mewn i waith."

'Dyma'r cam cyntaf'

Yn 2018, fe wnaethon nhw groesawu 15 pobl sydd ag anabledd, ond erbyn hyn mae'r ffigwr wedi cynyddu i 70, sy'n cynnwys nifer o bobl ag awtistiaeth.

Mae gan y cwmni dri chaffi, siop, melin lifio (sawmill), cyfryngau gweinyddol a chymdeithasol, a phob un ohonynt yn cefnogi pobl ag ystod eang o anableddau yn y gweithle.

Ychwanegodd Natalie: "Dyma'r cam cyntaf a'r gobaith yw gallwn ni dangos beth ydym ni wedi gwneud fan hyn ac yna dysgu'r cynghorau eraill i wneud yr un peth."

Ffynhonnell y llun, Chris Haines
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Haines o'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fod gan bobl ag awtistiaeth gymaint i'w gynnig

Dywed y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol eu bod yn bryderus iawn am y bwlch cyflogaeth.

Dywedodd y rheolwr materion allanol, Chris Haines, fod pobl ag awtistiaeth "yn haeddu'r un cyfle â phawb arall i lwyddo yn eu gwaith a chyrraedd eu potensial llawn".

"Mae'r bwlch cyflogaeth yn parhau i fod yn llawer rhy eang ac rydym yn bryderus fod gan bobl ag awtistiaeth rai o'r cyfraddau cyflogaeth isaf. Rydym yn meddwl ei fod yn wastraff enfawr o dalent."

Er nad yw'n bosibl i bob person ag awtistiaeth fod mewn gwaith, dywedodd fod newidiadau bach gan gyflogwyr wneud "gwahaniaeth mawr" - fel cael mannau tawel, defnyddio iaith glir a manwl gywir a hyfforddi staff.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n rhwydwaith ni o bobl ag anableddau yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i greu newid diwylliant mewn agweddau i helpu pobl ag awtistiaeth yn y gweithle."

Ychwanegodd fod nifer o gynlluniau peilot ar y gweill i wella profiad pobl ag awtistiaeth.