Y Gynghrair Genedlaethol: Barnet 0-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Wrecsam setlo am gêm gyfartal oddi cartref yn Barnet ddydd Sadwrn, ar ôl chwarae bron i hanner y gêm gyda 10 chwaraewr.
Wedi hanner cyntaf digon distaw, daeth y gêm yn fyw ar ddechrau'r ail wedi i Callum McFadzean weld cerdyn coch i Wrecsam am wneud cyswllt gyda wyneb y golwr Laurie Walker gyda'i droed.
Ar ôl hynny daeth cyfleoedd i Ollie Palmer a Eoghan O'Connell i'r ymwelwyr, ond roedd Barnet yn pwyso am gôl ym mhen arall y cae hefyd, gyda chyfle euraidd i Harry Smith yn cael ei wastraffu.
Wedi'r chwiban olaf fe welodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson, gerdyn coch am fynd wyneb yn wyneb â Walker.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam bellach bedwar pwynt yn glir ar frig y tabl, wedi chwarae'r un nifer o gemau â Notts County sy'n ail.
Bydd Notts County yn herio Woking am 17:30 ddydd Sadwrn, a dwy gêm fydd ganddyn nhw'n weddill ar ôl hynny, tra bod Wrecsam â thair gêm yn weddill i chwarae.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023