Awr fawr Wrecsam? Y ddau ar y brig yn cwrdd ar y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
baner bathodyn WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Pum gêm - ac un tîm - sydd rhwng CPD Wrecsam a gorffen y tymor ar frig y Gynghrair Genedlaethol, gan sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Dau.

Ond go brin fod un o'r gemau hynny mor allweddol i'w gobeithion â'r ornest ar y Cae Ras brynhawn Llun yn erbyn y tîm â'u disodlodd o'r brig wedi canlyniadau Dydd Gwener Groglith - Notts County.

Mae'r ddau dîm â'r un nifer o bwyntiau - 100 - ac mae'r ddau wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf, ond County sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd ar wahaniaeth goliau.

Gan mai 75 yw cyfanswm pwyntiau Woking yn y drydydd safle, does dim siawns i unrhyw un arall gyrraedd, heb sôn am basio, y timau yn safle un a dau.

Ond wedi tymor cystal hyd yn hyn, fydd Wrecsam na'u prif wrthwynebwyr yn dymuno gorfod brwydro am ddyrchafiad yn y gemau ail gyfle.

Fe fyddai hynny'n brifo, yn enwedig yn sgil y posibilrwydd cryf y bydd y ddau glwb wedi sicrhau digon o bwyntiau i dorri record flaenorol y Gynghrair Genedlaethol - 105.

Bydd Wrecsam eisiau gwneud popeth i osgoi'r hyn a ddigwyddodd y llynedd.

Ar ôl gorffen yn ail yn y tabl, aethon nhw yn eu blaenau i golli yn erbyn Grimsby ym munudau olaf rownd gynderfynol gemau'r ail gyfle.

Does rhyfedd felly bod gêm brynhawn Llun yn cael ei disgrifio fel y gêm fwyaf yn hanes pumed haen pêl-droed Lloegr - na bod pob tocyn wedi ei werthu.

Ffynhonnell y llun, Rex Features/Dan Westwell
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin [chwith] oedd prif sgoriwr y Gynghrair Genedlaethol y llynedd ond mae ymosodwr Notts County, Macaulay Langstaff [dde] wedi sgorio fwy nag o hyd yn hyn eleni

Un cysur yw'r ffaith fod tîm Phil Parkinson wedi chwarae un gêm yn llai na Notts County.

Ond fe fydd y ddau dîm yn llwyr ymwybodol pa mor allweddol fyddai cipio'r tri phwynt. Fe fyddai colli yn ergyd a allai effeithio ar hyder a morâl chwaraewyr yn y gemau sy'n weddill.

Bydd cefnogwyr Wrecsam ar dân i weld eu prif sgoriwr, Paul Mullin, yn rhwydo eto ac ychwanegu at ei gyfanswm ers dechrau'r tymor o 34 o goliau.

Ond mae ymosodwr Notts County, Macaulay Langstaff, wedi cael tymor hyd yn oed yn well, gan sgorio 41 hyd yn hyn.

Mae Wrecsam, wrth gwrs, wedi denu cefnogwyr newydd ar draws y byd wedi i'r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb.

Ac mae miliynau wedi dilyn yr ymgyrch am ddyrchafiad yn y rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham.

Ond mae Notts County wedi amlygu'n glir nad ydyn nhw yna i fod yn actorion ategol i'r ddrama.

Mae hwythau hefyd yn anelu am eu stori tylwyth teg eu hunain.