Caerdydd i drafod cyflwyno ffi tagfeydd cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Canol dinas Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Traffig sy'n gyfrifol am 40% o allyriadau carbon Caerdydd

Bydd Cyngor Caerdydd yn ystyried codi ffi ar bobl i yrru yn y brifddinas, er mwyn ariannu gwelliannau i systemau trafnidiaeth.

Bydd aelodau cabinet Cyngor Sir Caerdydd yn trafod adroddiad ar greu system drafnidiaeth "lanach, wyrddach a mwy cyfoes" yn y ddinas ddydd Iau 27 Ebrill.

Mae'r gwelliannau y maen nhw'n gobeithio eu cyflwyno yn cynnwys gwasanaeth bws ehangach gyda ffioedd rhatach o £1, a rhwydwaith tram newydd.

Ond yn ôl yr amserlen sy'n cael ei hawgrymu ni fyddai ffi tagfeydd (congestion charge) yn dod i rym tan o leiaf y flwyddyn ariannol 2027/28.

'Cam positif'

Mae'r cyngor yn pwysleisio y bydd unrhyw faich ariannol yn sgil codi tâl "ond yn syrthio ar y rhai sy'n gallu ei fforddio".

Ond does dim manylion ar hyn o bryd ynglŷn a pha ardaloedd o'r ddinas fyddai'n cael eu heffeithio, na chwaith beth fyddai'r gost.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cyngor bod angen gwella systemau trafnidiaeth cyn cyflwyno ffi tagfeydd "fel bod gan bobl opsiynau i leihau eu dibyniaeth ar y car

Yn ôl amcangyfrif y cwmni Inrix, sy'n darparu wybodaeth drafnidiaeth i awdurdodau lleol, fe wnaeth tagfeydd gostio £109m i economi Caerdydd yn 2019.

Mae'r camau'n rhan o strategaeth i fynd i'r afael â lefelau llygredd trwy leihau tagfeydd, wrth i'r adroddiad nodi mai cerbydau sy'n gyfrifol am 40% o allyriadau carbon y ddinas.

Dywed yr elusen drafnidiaeth Sustrans Cymru bod y cyhoeddiad yn "gam positif" a all leihau tagfeydd a llygredd aer.

'Edrych ar y ffordd ry'n ni'n byw ac yn teithio'

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod trigolion y ddinas "eisiau gweld gweithredu" ar newid hinsawdd ac "aer glanach i'w plant a'u hanwyliaid".

Cyfeiriodd at gamau fel bysiau a thacsis trydan, cysylltiadau a gorsafoedd trên / tram newydd, gwella cyflwr ffyrdd, a llwybrau beicio a cherdded diogel.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd manylion y strategaeth eu hamlinellu mewn cynhadledd newyddion ddydd Llun

Tynnodd sylw at y niwed sy'n cael ei achosi gan giwiau traffig i iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd ac economi'r ddinas, gan ddweud bod "angen i ni edrych ar y ffordd rydyn ni'n byw a'r ffordd rydyn ni'n teithio".

"Mae Caerdydd angen ac yn haeddu system drafnidiaeth lanach a gwyrddach," dywedodd.

"Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd hynny ond yn bosibl drwy gyflwyno rhyw fath o daliad defnyddiwr ffyrdd cost-isel, fyddai'n cynnwys eithriadau i'r sawl sydd lleiaf abl i'w dalu."

Disgrifiad o’r llun,

Pobl ifanc, yr anabl a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sydd â'r lefelau isaf o berchnogaeth ceir yng Nghaerdydd, medd yr adroddiad i'r cyngor

Dywedodd Mr Thomas mai "yn aml, y bobl a'r cymunedau sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael eu gwasanaethu waethaf gan ein gwasanaethau bysiau a threnau.

"Nhw hefyd sy'n anadlu'r aer mwyaf brwnt ac sy'n dioddef y cyfraddau gwaethaf o asthma plentyndod ac afiechydon eraill.

"Mae gwella ein system drafnidiaeth yn hanfodol os ydyn ni am gysylltu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig â'r cyfleoedd sydd ar gael yn y ddinas."

Mewn ymateb i feirniadaeth bosib bod y cyngor yn trafod cyflwyno treth newydd mewn cyfnod mor heriol, dywedodd Mr Thomas mai "y bobl sy'n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw nawr fydd y rhai caiff y budd mwyaf os caiff cynllun ei gyflwyno ymhen pedair neu bum mlynedd, pan fyddwn ni i gyd yn wynebu hinsawdd economaidd well gobeithio".

'Dewis, nid cosb'

Dywed aelodau grŵp Ceidwadol Cyngor Caerdydd eu bod yn gwrthwynebu'r posibilrwydd o ffi tagfeydd "yn chwyrn", ond bod trigolion sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wynebu trafferthion "rheolaidd" wrth i deithiau trên a bws gael eu canslo.

"Fe fyddai mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus petai'n ddibynadwy ac yn gost effeithiol, ond nid dyna'r sefyllfa," meddai arweinydd y grŵp, Adrian Robson.

"Rhaid sicrhau bod pobl yn gallu dewis eu dulliau teithio eu hunain sy'n gweithio iddyn nhw, ac nid eu cosbi am y dewis hwnnw."