Pryder rhieni ardal Pontypridd am ddyfodol addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni yn ardal Pontypridd wedi mynegi pryder unwaith eto am effeithiau ad-drefnu ysgolion yn yr ardal ar addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl ymgyrchwyr bydd lleoli ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn Nglyncoch, a chau ysgol cyfrwng Cymraeg Pont Siôn Norton, yn cael effaith negyddol ar addysg Gymraeg i'r gogledd o Bontypridd.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am agor ysgol cyfrwng Cymraeg yn Rhydyfelin, ond yn ôl rhieni byddai hynny yn golygu taith o hanner awr mewn bws i blant o Glyncoch, Ynysybwl, Coedycwm a Cilfynydd.
Mae'r cyngor am godi ysgol cyfrwng Saesneg yng Nglyncoch, ond yn ôl ymgyrchwyr dyna'r safle roedden nhw wedi awgrymu ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl y cyngor sir mae lleoliad yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd wedi ei gytuno ar ôl arolwg barnwrol yn 2020 a bydd hefyd, medden nhw, yn hybu addysg Gymraeg yn y sir.
'Colli tir'
Un o'r rhai sy'n anhapus gyda'r penderfyniad y cyngor yw Robert Davies o Ynysybwl, sy'n dad i bedwar o blant.
"Yn ystod y 1980au, yn enwedig yn y Cymoedd, o bosib roedd yna ddisgwyl y byddai'n rhaid i blant deithio er mwyn cael addysg Gymraeg," meddai.
"Heddiw yn 2023, doeddwn i ddim yn disgwyl y bydd yn rhaid i fy mhlant i deithio dros awr bob diwrnod i'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel eu hysgol cyfrwng Cymraeg 'leol'.
"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn disodli'r iaith o'r cymunedau hynny oedd yn ganolog wrth sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg dros 70 mlynedd yn ôl pan gafodd Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton ei sefydlu yn 1951."
Dywedodd rhiant arall, Maria Riley, fod lleoli addysg Gymraeg mor bell o Ynysybwl yn ei gwneud yn anodd i rieni.
"Pe bai ysgol Gymraeg yn lleol yna byddai llawer mwy o deuluoedd yn dewis addysg Gymraeg," meddai.
Dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod hefyd yn poeni am ddiffyg addysg meithrin yn yr ardal, ar ôl i Gylch Meithrin a Cylch Ti a Fi Ynysybwl gau ei drysau oherwydd bod yr adeilad yn anaddas.
Ymateb y cyngor
Dywedodd y cyngor sir fod lleoliad yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydyfelin wedi ei benderfynu ar ôl cyfnod o ymgynghori helaeth yn ardal Pontypridd, ac hefyd yn dilyn adolygiad barwnol.
"Mae'r dewis o ysgol yn ddewis i'r rheini. Bydd trafnidiaeth ddi-dâl ar gael i ddisgyblion sy'n byw 1.5 milltir neu fwy o'r ysgol addysg agosaf," meddai llefarydd.
"Bydd yna ddim gostyngiad yn nifer y lleoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae mwy o gapasiti ar gyfer meithrin yn Siôn Norton yn y flwyddyn academaidd hon o'i gymharu â'r llynedd ac mae llefydd dal ar gael.
"Fe fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn Rhydyfelin hefyd yn cynnig mwy o gapasiti ar gyfer addysg meithrin pan fydd yn agor."
Ond mae Heledd Fychan, AC Plaid Cymru Canol De Cymru, wedi galw ar y cyngor i ailystyried cyfrwng iaith yr ysgol newydd yng Nglyncoch.
"Mae yna gonsyrn go iawn am ddyfodol yr iaith yr ardal, ac mae nifer yn credu y bydd yr ysgol newydd fel mae ar hyn o bryd yn gam yn ôl yn nhermau'r iaith ac addysg cyfrwng Cymraeg," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r uchelgais yw bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith, pa bynnag ysgol maen nhw'n ei fynychu.
"Fe fydd yr ysgol newydd yng Nglyncoch yn cynnwys cyfleoedd i gyflwyno mwy o addysg cyfrwng Cymraeg - gan gychwyn gyda'r plant ieuengaf, ac yn cynyddu yn raddol i roi mwy o gyfleoedd i ddysgu'r iaith dros gyfnod o amser."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019