Betsi: Gwadu camarwain y Senedd ar fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd "erioed" wedi awgrymu bod yr arolygiaeth iechyd wedi rhoi cyngor i fynd â byrddau iechyd i mewn ac allan o fesurau arbennig

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gwadu camarwain y Senedd oherwydd sylwadau am fwrdd iechyd y gogledd.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r prif weinidog am ddweud wrth y Senedd fod yr archwilydd cyffredinol wedi cynghori i ryddhau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig yn 2020.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton wedi dweud na roddodd ef na'i staff gyngor o'r fath i wneud hynny.

Ond dywedodd y prif weinidog fod y broses "yn cychwyn" gyda'r corff gwarchod gwariant cyhoeddus.

Cafodd y penderfyniad i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig ei feirniadu fel un cynamserol gan y gwrthbleidiau yn 2020.

Dychwelodd i fesurau arbennig fis Chwefror 2023 ar ôl cyfres o argyfyngau a chyhoeddiad adroddiad damniol ar arweinyddiaeth y bwrdd.

Yn y Senedd fis Chwefror dywedodd Mr Drakeford: "Roedd y penderfyniad, sy'n benderfyniad i weinidogion, i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig wedi i ni gael gwybod mai dyna beth y dylen ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am roi cyngor i weinidogion."

Yr wythnos hon fe gyhuddwyd Mr Drakeford gan Blaid Cymru o gamarwain y Senedd ar ôl derbyn llythyr gan Mr Crompton.

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth: Mark Drakeford "wedi camarwain" ar statws mesurau arbennig Betsi

"Yn sicr dydw i ddim wedi camarwain y Senedd," meddai Mr Drakeford mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ddydd Iau.

Dywedodd fod y broses ar fesurau arbennig yn "system gymhleth i'r rhai sydd ddim wedi arfer â hi".

"Mae'n dechrau gyda'r archwilydd cyffredinol, y gwasanaeth sifil ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn dod at ei gilydd i drafod a oes angen i sefydliad gael unrhyw ymyrraeth ychwanegol ai peidio," meddai.

"Ar ben hynny mae gweision sifil wedyn yn cynghori gweinidogion, a'r trydydd cam yn y gadwyn hon yw penderfyniad gweinidogion."

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dweud mewn datganiad nad yw'n "cynghori'n uniongyrchol ar unrhyw statws uwchgyfeirio" - y broses a ddefnyddir i benderfynu a ddylai bwrdd iechyd fod dan fesurau arbennig.

Ond dywedodd fod tystiolaeth a ddarparwyd "yn llywio unrhyw gyngor dilynol y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r gweinidog ar statws uwchgyfeirio un o gyrff y GIG".

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, cyn dychwelyd i'r statws yn Chwefror 2023

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd "erioed" wedi awgrymu bod yr arolygiaeth iechyd wedi rhoi cyngor i fynd â byrddau iechyd i mewn ac allan o fesurau arbennig.

Ychwanegodd nad yw'r arolygiaeth "na'r archwilydd cyffredinol yn cynghori gweinidogion yn uniongyrchol, ond mae'r broses yn dechrau gyda nhw".

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn bwriadu ysgrifennu at y Llywydd "yn nodi'r broses hon i bobl fel nad oes angen drysu neb yn y dyfodol".

'Siarad ei hun allan o sefyllfa anodd'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth AS: "Yn anffodus, mae wedi dod yn arferiad i'r prif weinidog geisio siarad ei hun allan o sefyllfa anodd mewn ffordd nawddoglyd.

"Wel, mae'n gallu ceisio cymaint ag y mae eisiau, ond fe wnaeth gamarwain y Senedd, ac mae'n ymddangos yn hapus i barhau i wneud hynny.

"Dwi ddim yn meddwl y bydd pobl yn ei dderbyn."

Ychwanegodd: "Mae camreoli Betsi Cadwaladr wedi arwain at ganlyniadau difrifol i gleifion a staff ac yn sicr nid yw'n fater y dylid ei ddiystyru mor ysgafn."