Drakeford 'wedi camarwain' ar statws mesurau arbennig Betsi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford yn wynebu cyhuddiadau ei fod wedi camarwain y Senedd dros sylwadau a wnaeth am fwrdd iechyd y gogledd.

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd ym mis Chwefror bod y corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus - Archwilio Cymru - wedi dweud y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod allan o fesurau arbennig yn 2020.

Mae Plaid Cymru wedi gofyn iddo gywiro'r cofnod hwnnw, wedi i Archwilio Cymru ddweud na wnaeth eu swyddogion nhw roi cyngor o'r fath.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Mr Drakeford wedi bod yn "glir" yn y Senedd.

Newid statws oherwydd etholiad?

Cafodd Betsi Cadwaldr eu dychwelyd i fesurau arbennig ym mis Chwefror yn dilyn cyfres o fethiannau, gan gynnwys ar wasanaethau brys a fasgiwlar.

Bu adroddiad hefyd oedd yn hynod feirniadol o'r ffordd yr oedd yn cael ei redeg.

Cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu allan o fesurau arbennig yn 2020, cam gafodd ei feirniadu'n hallt gan wleidyddion o'r gwrthbleidiau ar y pryd.

Mae'n dynodi'r cam uchaf posib o ymyrraeth mae gweinidogion Llywodraeth Cymru'n gallu mynd iddo er mwyn datrys problemau o fewn y gwasanaeth iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 - gyda'r gwrthbleidiau'n cwestiynu a oedd hynny oherwydd bod etholiad Senedd yn digwydd chwe mis yn ddiweddarach

Y diwrnod wedi i Betsi Cadwaladr fynd yn ôl dan fesurau arbennig, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2020 wedi bod yn "fyrbwyll" ac wedi digwydd yn "rhy gynnar".

Awgrymodd hefyd eu bod nhw wedi cymryd y cam hwnnw ar y pryd gan fod etholiadau'r Senedd ar y gweill ym mis Mai 2021.

Mewn ymateb dywedodd Mr Drakeford fod y cyhuddiad hwnnw'n un "gwarthus", gan gyfeirio at bennaeth Archwilio Cymru, yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Compton.

"Roedd y penderfyniad - a phenderfyniad i weinidogion yw e - i gymryd y bwrdd allan o fesurau arbennig wedi dod oherwydd ein bod ni wedi cael cyngor i wneud hynny gan yr Archwilydd Cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyngor i weinidogion," meddai Mr Drakeford ar y pryd.

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth: Mark Drakeford "wedi camarwain" ar statws mesurau arbennig Betsi

'Dim cyngor' gan yr archwilydd

Nawr, mae Adrian Crompton wedi dweud wrth Mr Price mewn llythyr na wnaeth ei sefydliad ef roi cyngor o'r fath.

"Mewn ymateb i'ch cwestiwn penodol ynghylch a oedd cyngor gen i neu fy staff i'r gweinidog i dynnu'r bwrdd iechyd i lawr o fesurau arbennig ar y pryd, gallaf fod yn glir nad oedd," meddai'r Archwilydd Cyffredinol.

Esboniodd fod Archwilio Cymru yn rhannu'r wybodaeth maen nhw'n ei gasglu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd wedyn yn rhoi cyngor i weinidogion.

Ond fe ddywedodd bod sgyrsiau wedi bod o fewn Archwilio Cymru ble roedd cydnabyddiaeth fod "pum mlynedd gyda'r label 'mesurau arbennig' yn dod yn rhwystr cynyddol i welliannau o fewn y bwrdd iechyd, o ystyried yr effaith negyddol ar feysydd allweddol fel recriwtio allanol, cysylltiadau mewnol, a morâl staff".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Compton, mewn llythyr wrth Adam Price, nad oedd wedi cynghori Llywodraeth Cymru i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Mae un o ddau beth wedi digwydd - un ai mae'r Prif Weinidog wedi camarwain y Senedd yn fwriadol, neu mae wedi gwneud hynny heb sylwi, a chamddweud.

"Naill ffordd neu'r llall, mae angen eglurdeb o hyn ar y cofnod."

Cyfeiriodd Plaid Cymru hefyd at sylwadau tebyg gafodd eu gwneud gan y cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething yn 2020.

"Rydw i'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod wedi camarwain y Senedd, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw osod y record yn glir mewn ffordd lân," ychwanegodd Mr ap Iorwerth.

Wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddim cydnabod yr alwad i gywiro'r cofnod yn eu hymateb i BBC Cymru.

"Roedd y Prif Weinidog yn glir i'r Senedd bod penderfyniadau ynghylch statws y bwrdd iechyd wedi eu cymryd gan weinidogion yn unig, ar sail cyngor oedd wedi ei roi gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

"Cafodd y cyngor hwn ei ffurfio yn dilyn proses sefydlog sy'n cynnwys Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru."