'Angen helpu plant sy'n ganlyniad o dreisio eu mamau'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Wrecsam a ddaeth yn fam o ganlyniad i gael ei threisio, yn dweud bod angen gwneud mwy i gefnogi'r plant sy'n cael eu geni yn sgil yr ymosodiadau rhyw.
Roedd Jessica - nid ei henw iawn - yn 21 oed pan gafodd ei threisio gan ddyn oedd yn ffrind iddi.
27 mlynedd yn ddiweddarach fe fydd ei mab, o ganlyniad i newid yn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, yn cael ei ystyried yn ddioddefwr hefyd.
"Dwi'n meddwl tasa fo wedi cael help o'r dechrau ac wedi cael ei ddangos sut i brosesu pethau, dwi'n meddwl y byddai wedi bod yn llawer haws iddo," meddai.
Bydd y newidiadau cyfreithiol yn rhoi'r hawl i'r rhai sydd wedi eu geni o ganlyniad i dreisio gael mynediad i wybodaeth am eu hachos.
Bydd y newidiadau hefyd yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr gael cymorth gan yr heddlu a'r system gyfiawnder troseddol.
'Dim bai y babi oedd e'
Ar ôl dioddef gydag iselder yn ifanc, fe dreuliodd Jessica gyfnod mewn ysbyty seiciatrig.
Ar ward yr ysbyty, fe ddaeth yn ffrindiau gyda'r dyn fyddai'n ei threisio yn ei chartref flynyddoedd yn ddiweddarach.
"Roedd o'n ddigartref ac yn byw ar y stryd. Nes i adael iddo aros dros nos ar y soffa gan feddwl bo' fi'n helpu ffrind, ond 'nath o ddim gweithio allan ffor' 'na," meddai.
Pan sylweddolodd Jessica ei bod hi'n feichiog, fe benderfynodd y byddai hi'n cadw'r babi. Mi fyddai cael erthyliad wedi bod yn erbyn credoau crefyddol ei theulu.
"Roedd o'n hunllef ar y pryd. O'n i'n gwybod bo' fi ddim eisiau erthyliad," meddai. "O'n i dal yn ofni cael y babi a sut o'n i'n mynd i deimlo amdano."
Wrth groesawu ei mab i'r byd, fe gafodd Jessica amser anodd yn datblygu perthynas glos gyda'r babi.
"Dim bai y babi oedd o ond o'n i methu cael fy mhen i rownd pethau."
'Ofni torri calon fy mab'
Yn ôl Jessica, roedd hi'n ofni nad oedd hi'n ddigon da i fod yn fam i fabi, ac aeth ati i ofyn i'w theulu ei fabwysiadu.
"Roedd yr enedigaeth yn drawmatig," meddai.
"Naeth o bara dau ddiwrnod. Nes i ddioddef efo iselder. Es i'n ôl i'r ysbyty efo'r babi ac mi aeth pethau'n waeth."
Roedd Jessica yn benderfynol nad oedd hi eisiau i'w mab wybod sut gafodd ei eni. Roedd hi'n ofni y byddai'r bachgen ifanc yn ei chasáu.
"O'n i'n ofni mod i'n mynd i dorri ei galon," meddai.
Ond wrth iddo droi'n 16 oed, fe wnaeth ei fam-gu esbonio'r sefyllfa iddo gan ddatgelu fod ei dad wedi treisio ei fam.
"Mi wnaeth wir ei ypsetio fo," meddai Jessica. "Dwi'n meddwl ei fod o wastad wedi gobeithio y byddai'n cwrdd â'i dad un diwrnod.
"Am tua wythnos, doedd o ddim eisiau dod adref a doedd o ddim eisiau bod efo fi. Roedd o'n flin am y cyfan am gyfnod hir."
Gydag amser, fe glosiodd Jessica a'i mab unwaith eto. Mae'r ddau nawr yn "ffrindiau gorau", meddai.
Yna, fe benderfynodd ei mab ei fod eisiau dod o hyd i'w dad. Er yn broses "heriol" yn emosiynol, roedd Jessica yn benderfynol ei bod eisiau cefnogi ei mab a'i awydd i ddeall eu stori.
Doedd y tad erioed wedi cael ei ganfod yn euog o dreisio, ac fe ddaethon nhw i wybod wedyn ei fod wedi marw.
Mae Jessica nawr yn croesawu'r newid yn y gyfraith, gan ddweud bod cefnogaeth yn hollbwysig i blant fel ei mab hi.
Stigma a niwed seicolegol
Daw'r newid - 'Cyfraith Daisy', fel y mae'n cael ei alw'n anffurfiol - yn sgil ymgyrch gan yr elusen Centre for Women's Justice.
I blant sy'n cael eu cenhedlu o ganlyniad i dreisio, fe allai'r effaith ar eu lles bara hyd eu hoes, medd cyfarwyddwr yr elusen, Harriet Wistrich.
"Os gawsoch eich magu gan fam all fod â thrafferth closio atoch oherwydd amgylchiadau eich genedigaeth, os cewch wybod bod eich tad genetig yn dreisiwr, fe allai achosi problemau o ran hunaniaeth," meddai.
"Gall fod yn stigma pan fod pobl yn siarad am eich rhieni... yn seicolegol gall fod yn hynod ddinistriol, a chael canlyniadau cymdeithasol niweidiol wrth dyfu i fyny."
Mae enw answyddogol y gyfraith yn cofnodi brwydr 'Daisy' am gyfiawnder. Cafodd wybod bod dim statws cyfreithiol ganddi, pan geisiodd sicrhau bod ei thad genetig yn cael ei erlyn am dreisio ei mam, oedd ond yn 13 oed ar y pryd.
Dywedodd Ms Wistrich yn obeithiol y bydd y gyfraith newydd yn arwain at fwy o erlyniadau am dreisio, "sy'n drosedd eithriadol o anodd i'w herlyn".
"Mae'r dystiolaeth yn ddiamau os oes gyda chi DNA i brofi'r cysylltiad rhwng y tad a'r plentyn, felly mae'n ddarn bwysig iawn i dystiolaeth yn achosion hanesyddol o dreisio," meddai.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022