Ymosodiad rhyw: 'Hunllefau a phoeni bob dydd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Faith Jones: "Fi'n poeni y galle fe frifo rhywun, fel 'nath e frifo fi"

"Fi'n poeni bob dydd y galle fe frifo rhywun, fi'n cal hunllefau am yr unigolyn 'ma yn brifo menywod eraill fel 'nath e frifo fi."

Fe aeth Faith Jones, 19 o Abertawe, at yr heddlu yn gynharach eleni yn dweud ei bod wedi dioddef ymosodiad rhyw.

Ond, oherwydd y "straen", fe wnaeth hi "benderfyniad torcalonnus" i ddod â'r broses gyfreithiol i ben.

Yn ôl elusen Cymorth i Ferched dyw'r penderfyniad wnaeth Faith ddim yn anghyffredin, oherwydd diffyg cefnogaeth ac oedi yn y system gyfiawnder.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi "gweithio'n galed i leihau amseroedd aros oherwydd y pandemig" ac wedi buddsoddi ar gyfer rhoi cymorth i ddioddefwyr.

Dywedodd Faith bod gwneud y cam cyntaf o fynd at yr heddlu yn anodd yn dilyn yr ymosodiad. Mae'n dweud iddi gymryd pedair awr iddi gyflwyno datganiad gan orfod ail-fyw'r digwyddiad.

"Y broses ei hunan, odd e'n broses hir, odd e'n broses anodd," dywedodd.

Dywedodd bod yr heddlu, ar y cyfan, wedi bod yn gefnogol oni bai am ambell sylwad wnaeth iddi gwestiynu gwerth parhau â'r broses gyfreithiol.

"'Nes i ddangos i'r fenyw [swyddog yr heddlu] be' o'n i'n gwisgo ar adeg y drosedd achos o'dd e'n poeni fi. Wedodd hi 'sneb yn gofyn am hwnna i ddigwydd iddyn nhw ond wedodd hi hefyd 'O mae'r top 'na'n eitha isel'.

"A fi'n cofio eistedd 'na a meddwl, 'ydy hwnna wir yn cyfiawnhau [yr hyn ddigwyddodd]'?"

Ychwanegodd bod swyddog wedi awgrymu wrthi hefyd y byddai'r drosedd - oedd hefyd yn cynnwys sylwadau anweddus - yn "anodd i'w brofi" heb dystion.

Ffynhonnell y llun, Faith Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Faith boeni am "sut fyddai'n cael ei gweld yn y llys" fel menyw anabl

Mae gan Faith anabledd corfforol cerebral palsy. Dyw'r cyflwr ddim yn effeithio arni'n feddyliol ond dechreuodd bryderu am effaith hynny mewn achos llys.

"O'n i'n poeni fydde rhywun yn dishgwl arna i - yn fy nghadair olwyn, hynny yw - a meddwl 'o, nag yw hi'n deall troseddau fel 'na', ac wrth gwrs, dw i yn," dywedodd.

Gyda neb i dawelu ei phryderon, yr unig ddewis oedd ganddi, meddai, oedd rhoi stop ar y broses.

"O'dd e'n dorcalonnus i orfod rhoi stop ar yr ochr gyfreithiol o bethe achos 'na beth o'n i isie neud, 'na beth o'n i moyn. O'n i jyst yn teimlo achos natur y sefyllfa a'r ffordd o'dd e'n effeithio arna i yn gorfforol. O'n i'n stressed."

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Joy Lewis o Heddlu De Cymru eu bod "bob amser yn canolbwyntio ar anghenion y dioddefwr" a'u bod yn "ymchwilio'n drylwyr i achosion o sylwadau anweddus sy'n cael eu hadrodd".

Ychwanegodd y llu bod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin mewn cysylltiad â chwyn Faith am sylwadau anweddus, ond ei fod wedi ei ryddhau heb gyhuddiad ar ôl iddi dynnu ei chwyn.

'Mewn limbo'

Dydy profiad Faith ddim yn un anghyffredin yn ôl Ann Williams, rheolwr llinell gymorth elusen Cymorth i Ferched Cymru.

Dywedodd fod pobl yn "cael eu gadael i lawr gan y system".

"Mae o'n rhywbeth 'dan ni'n clywed yn aml iawn ar y llinell, mae o'n system gymhleth, mae o'n peri pryder ofnadwy i bobl sy'n cychwyn ar y daith," meddai.

"Gynta'n peth mae'r broses mor hir, mae'n well gan rai jyst roi gorau - 'dwi'm yn mynd i gario 'mlaen efo hyn' - achos ma' bywydau'r bobl 'ma ar stop. Maen nhw mewn limbo."

Yn ôl ffigyrau gafodd eu casglu a'u cyhoeddi gan y BBC ym mis Ebrill, hyd cyfartalog achosion ar gyfer troseddau rhywiol rhwng Gorffennaf a Medi 2021 oedd 266 diwrnod, neu tua naw mis.

Hyd yr achos yw'r amser o'r gwrandawiad cyntaf yn Llys y Goron hyd at ddedfrydu neu ddiwedd achos.

Mae dod o hyd i dystiolaeth achosion troseddau rhyw yn gallu bod yn heriol, yn aml oherwydd prinder tystion.

Dyna pam fod elusennau fel Cymorth i Ferched ac ymgynghorwyr annibynnol yn poeni fod menywod, fel Faith, yn rhoi'r gorau i brosesau cyfreithiol.

Yr ateb, yn ôl un ymgynghorydd arbenigol yn y maes, yw cyflymu'r broses o gyrraedd y llys a rhoi pwyslais ar gefnogi dioddefwyr.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies: "Mae unigolion wedi colli ffydd a hyder yn y system gyfiawnder a does dim syndod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r system gyfiawnder "wedi torri" yn ôl Rhian Bowen-Davies sy'n ymgynghorydd ym maes trais rhywiol a thrais domestig

"I ni gael clywed wrth unigolion sy'n dweud os o'n nhw'n gwybod beth fyddai eu proses nhw o fynd drwy'r broses cyn iddyn nhw fynd at yr heddlu, i glywed nhw'n dweud na fydden nhw'n mynd at yr heddlu yn y lle cynta', mae hynny'n dangos fod y system wedi torri.

"Mae'n rhaid i ni sylweddoli pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol, fod y cynnig 'na o gefnogaeth yn cael ei roi reit o'r dechrau i unigolion."

'Lleihau amseroedd aros a chefnogi dioddefwyr'

Mewn ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi llwyddo i "weithio'n galed i leihau amseroedd aros oherwydd y pandemig" a'u bod nawr "mewn trafodaethau gyda Chymdeithas y Bar Troseddol i gael cyfiawnder eto i ddioddefwyr".

"Ry'n ni hefyd wedi rhoi hwb o gyllid gwerth o leiaf £460 miliwn ar gyfer cymorth i ddioddefwyr dros y tair blynedd nesaf," meddai llefarydd.

"Mae hyn yn cynnwys recriwtio mwy o gynghorwyr trais rhyw annibynnol, fel bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar bob cam o'r system gyfiawnder."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.