Arweinydd Cyngor Penfro i wynebu pleidlais diffyg hyder

  • Cyhoeddwyd
David SimpsonFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Simpson wedi bod yn arweinydd ers 2017

Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro, David Simpson, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder.

Mae'r cynnig wedi cael ei gyflwyno gan y Grŵp Annibynnol, oedd yn arfer rhedeg y cyngor.

Ar hyn o bryd, mae'r cynghorydd Simpson yn arwain clymblaid anffurfiol yn y cabinet, sydd yn cynnwys aelodau Llafur, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol a chynghorwyr sydd ddim yn perthyn i unrhyw blaid neu grŵp.

Mae'r cynghorydd Simpson wedi bod yn arweinydd ers 2017, ac fe gafodd ei ailethol yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.

Pleidlais agos?

Fe fydd enwebiadau ar gyfer arweinydd newydd yn gorfod cael eu cyflwyno erbyn dydd Gwener 28 Ebrill, er mwyn i'r bleidlais o ddiffyg hyder fedru digwydd ym mis Mai.

Gallai hynny fod ar 11 neu 12 Mai.

Yn ôl arweinydd y Grŵp Annibynnol, Jamie Adams, mae "pobl Sir Benfro yn haeddu newid cyfeiriad" yn sgil dirywiad honedig o dan arweinyddiaeth y cynghorydd Simpson.

Mae'r cynghorydd Adams yn honni bod gorwario ar brosiectau fel yr Hwb Trafnidiaeth yn Hwlffordd a'r cei yn Hwlffordd, tra ar yr un adeg yn cynyddu treth y cyngor 7.5%, yn golygu bod cyfrifon yr awdurdod "mewn llanast".

Serch hynny, does dim bwriad gan Jamie Adams i gynnig ei enw ei hun ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Clymblaid anffurfiol sy'n arwain Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd

Mae cyn-arweinydd arall o'r Cyngor, John Davies, wedi cyhuddo'r awdurdod o beidio cynnwys "rhannau helaeth o sir" mewn prosiectau costus ac mae angen "arweinyddiaeth gref a gweladwy" wrth y llyw.

Mae yna 60 o gynghorwyr yn y sir.

Ar hyn o bryd mae yna 17 cynghorydd Annibynnol; 10 cynghorydd Llafur; 10 cynghorydd Ceidwadol; 2 gynghorydd Plaid Cymru; 2 gynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol ac 19 o gynghorwyr sydd ddim yn perthyn i unrhyw blaid.

Mae pedwar cynghorydd wedi ymuno gyda'r Grŵp Annibynnol yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae'n debygol taw 28 o bleidleisiau fyddai gan y gwrthbleidiau, ond mae ffynonellau o fewn y grŵp Annibynnol wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw yn trafod gyda chynghorwyr eraill sydd yn anfodlon gydag arweinyddiaeth David Simpson.

Fe allai'r bleidlais derfynol felly fod yn agos tu hwnt.

Ymateb yr arweinydd

Wrth ymateb i'r cynnig o ddiffyg hyder, dywedodd y cynghorydd Simpson ei fod yn "falch o arwain gweinyddiaeth uchelgeisiol sydd wedi dod â Phorthladd Rhydd i Sir Benfro".

"Rwy'n falch o'r prosiectau morwrol rydym wedi eu hannog, a fydd yn rhoi hwb i economi'r sir," meddai.

"Rwy'n falch bod mwy o'r cyhoedd yn ymgysylltu gyda phroses y gyllideb, yn hytrach na derbyn y gyllideb ar y dydd, heb unrhyw graffu.

"Mae'r hyn y mae'r cynghorydd Adams yn cyfeirio at fel methiannau yn faterion cyhoeddus oherwydd bod yna fwy o graffu, rhywbeth sydd wedi cael ei annog gan y weinyddiaeth.

"Rydym wedi dod â democratiaeth nôl i'r Siambr, ac i ffwrdd oddi wrth y cytundebau tu ôl i ddrws cefn, neu uwch swyddogion yn arwain cynghorwyr, gyda chefnogaeth.

"Fe all y weinyddiaeth hon fod yn falch ein bod ni wedi gweithio yn galed i roi trefn ar y cyfrifon oedd mewn llanast ar ôl cyfnod y grŵp annibynnol.

"Rydym yn ail-adeiladu gwasanaethau, creu isadeiledd ac adfywio economi Sir Benfro, pethau gafodd eu hesgeuluso gan y Grŵp Annibynnol am 20 mlynedd ac y gallan nhw beryglu unwaith eto yn y dyfodol."

Pynciau Cysylltiedig