All Cymru ddatrys ei phroblemau gydag iechyd a gofal?

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd bron i 1,800 o gleifion yn barod, ond yn methu â gadael yr ysbyty yr wythnos hon yng Nghymru

Mewn maniffesto cymharol denau, gwnaeth Llafur Cymru addewid clir iawn ar y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddai "arbenigwr iechyd" yn cael ei benodi i "chwalu'r rhwystrau" rhwng y ddau wasanaeth er mwyn dileu "blocio gwelyau gwastraffus".

Nid yw'n derm sy'n cael ei ddefnyddio bellach ond mae "blocio gwelyau" yn cyfeirio at gleifion sy'n ddigon iach yn feddygol i adael yr ysbyty ond na allant gael eu rhyddhau oherwydd diffyg gofal cymdeithasol addas yn nes at eu cartrefi, sydd â sgil-effeithiau drwy'r GIG.

Mae'n broblem wirioneddol, felly mae'n bosib iawn y byddwch yn disgwyl iddo gael ei gynnwys ym maniffesto etholiadol.

Y broblem yw ei fod yn addewid etholiadol a wnaed gan Lafur Cymru bron i chwarter canrif yn ôl, dolen allanol.

Mae llawer wedi newid ers yr etholiad cyntaf un i'r Cynulliad 'nôl yn 1999, ond mae'r broblem o "flocio gwelyau" cynddrwg heddiw, os nad yn waeth, nag y bu erioed.

1,800 o gleifion methu gadael

Yr wythnos hon, gyda bron i 1,800 o gleifion yn barod ond yn methu â gadael yr ysbyty, mae uwch-staff y GIG wedi cael eu cynghori i ryddhau'r rhai iachaf o'r cleifion hynny, hyd yn oed os nad oes pecyn gofal yn ei le iddyn nhw adref neu mewn cartref gofal.

Roedd pennaeth y GIG yng Nghymru hyd yn oed yn ei ddisgrifio fel polisi sy'n achosi "penbleth enfawr".

Mesurau enbyd mewn amseroedd enbyd.

Y GIG a gofal cymdeithasol. Dwy ochr o'r un geiniog, er bod yna lai o sylw i ofal cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Steve Thomas yn brif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am dros ddegawd

"Mae'n wasanaeth nad yw'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. Mae'n byw yng nghysgod ysbytai cyffredinol," yn ôl Steve Thomas, fu'n rhedeg y corff sy'n goruchwylio cynghorau Cymru am dros ddegawd.

Bu'n cyfeirio at adolygiad Derek Wanless o iechyd a gofal cymdeithasol Cymru a gyhoeddwyd yn 2003, a soniodd am "danberfformiad eang sy'n gysylltiedig â diffygion systemig".

Dywedodd Mr Thomas: "Mae'r holl broblemau y mae gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu wedi'u nodi yn adroddiad Wanless yn 2003.

"Does dim byd wedi newid. Mae'n un o'r systemau hynny sy'n byw mewn argyfwng parhaus."

'Cicio'r can i lawr y ffordd'

Mae syniadau i fynd i'r afael a'r problemau wedi mynd a dod, gyda nifer ohonynt erbyn hyn yn hel llwch ar silff polisi'r llywodraeth.

"Fe allwn i blastro llawr Stadiwm Principality gyda'r cynlluniau a'r syniadau y mae pleidiau gwleidyddol wedi'u cael dros y blynyddoedd i drwsio gofal cymdeithasol," meddai Mr Thomas.

Ychwanegodd cyn-brif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Yn ôl yr hen ddywediad yna, 'er mwyn llywodraethu mae rhaid dewis'.

"Ond o ran gofal cymdeithasol, mae gwleidyddion wedi bod yn llywodraethu drwy gicio'r can i lawr y ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

"Heb weithlu sy'n talu'n dda ac sy'n cael ei barchu, does dim gofal cymdeithasol," medd Kate Young

Mae cyfarwyddwr Cynghrair Gofalwyr Cymru, Kate Young, yn credu nad yw gwleidyddion wedi datrys problemau gofal cymdeithasol oherwydd "nid oes ganddo'r un statws ag sydd gan y GIG".

Er bod y GIG yn cael ei ddathlu ac felly angen sylw gwleidyddol, y syniad yw bod e'n rhwyddach i anwybyddu gofal cymdeithasol.

Materion staffio, yn enwedig dros gyflogau ac amodau gwaith, sydd wrth wraidd problemau'r sector.

Canfu ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, dolen allanol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020 fod llai na hanner gweithlu gofal cymdeithasol Cymru yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol, wedi'i gyfrifo fel yr isafswm cyflog sydd ei angen i dalu costau byw.

Yn ei maniffesto ar gyfer etholiad Senedd 2021, addawodd Llafur Cymru dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, er na fydd rhai gweithwyr yn derbyn y gyfradd newydd o £10.90 yr awr tan fis Mehefin.

Ond mae hyd yn oed y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol yn cyfaddef nad yw'r Cyflog Byw Gwirioneddol "yn ddigon mewn gwirionedd" pan mae'r sector yn cystadlu yn erbyn, er enghraifft, archfarchnadoedd sy'n cynnig cyflogau uwch fesul awr.

'Rhoi'r gorau i dincian'

Dywedodd Ms Young: "Heb weithlu sy'n talu'n dda ac sy'n cael ei barchu, does dim gofal cymdeithasol.

"Mae angen i ni roi'r gorau i dincian o gwmpas ymylon ariannu gweithwyr gofal cymdeithasol ac edrych yn iawn ar gynllunio ffordd o gael cyflogau gofal cymdeithasol lan i lefel o gydraddoldeb gyda rolau tebyg o fewn y GIG.

"Rydyn ni'n gwybod bod pwysau ar Lywodraeth Cymru am arian ond y gwir amdani yw, os na fyddwn ni'n ariannu'r gweithlu gofal cymdeithasol nawr, fe welwn ni fwy o bobl yn gadael, fe fyddwn ni'n ei gweld hi'n anoddach fyth recriwtio pobl newydd i'r system honno, byddwn yn gweld mwy o argyfyngau."

Disgrifiad o’r llun,

Canfu ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn 2020 fod llai na hanner gweithlu gofal cymdeithasol Cymru yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol

Yn y cyfamser, mae'r galw am ofal cymdeithasol yn debygol o gynyddu'n sylweddol.

Yn ôl Cyfrifiad 2021, dolen allanol, roedd 21.3% o boblogaeth Cymru (662,000) yn 65 oed a hŷn - i fyny o 18.4% (562,544) yn 2011.

Fel rhan o gytundeb cydweithredu llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn y Senedd, mae'r pleidiau'n gweithio tuag at y nod o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, yn rhad ac am ddim pan fo angen.

Byddai'n newid sylweddol oddi wrth y system bresennol o brawf moddion, ond nid yw'n ateb tymor byr.

Mae'n debygol o gymryd "o leiaf 10 mlynedd" i'w gyflawni, yn ôl grŵp arbenigol, dolen allanol sydd wedi ei sefydlu i ystyried y polisi, ac ni fyddai newid system o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau gwell.

Galw am 'newid y model'

Dywedodd Kate Young, cyd-gadeirydd y grŵp arbenigol: "Rwy'n meddwl os byddwch yn newid y model i fod yn fwy ataliol... bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r canlyniadau y mae pobl yn eu derbyn.

"Ond os ydych chi'n creu swyddfa yn unig, os ydyn ni'n creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn unig ond nad oes dim byd oddi tano yn newid, a fydd yn newid canlyniadau?

"Na, dim ond teitl fydd gennym."

Os yw Cymru am symud tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol sy'n cyflawni ei haddewidion, dywedodd Ms Young: "Y gwir amdani yw, oni bai eich bod yn chwistrellu cryn dipyn o adnoddau ychwanegol, bydd yn anodd gweld rhai o'r newidiadau hyn."

O safbwynt Cymreig, o ble mae'r arian hwnnw'n dod pan fo'r GIG eisoes yn cyfrif am dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru?

Byddai'n cymryd gwleidydd dewr i roi'r gorau i gyfeirio mwy o arian tuag at iechyd.

Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi gwrthdroi ei chynllun gwreiddiol i ddefnyddio cynnydd mewn yswiriant gwladol - treth ar weithwyr y DU gyfan - er mwyn darparu cyllid hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol, a'r disgwyl yw y bydd twf arafach mewn gwariant cyhoeddus o 2025 ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r galw am ofal cymdeithasol yn debygol o gynyddu'n sylweddol wrth i bobl fyw yn hŷn

A yw'n bryd felly i ailedrych ar adroddiad a chyhoeddwyd 'nôl yn 2018 gan yr economegwyr yr Athro Gerald Holtham a Tegid Roberts?

Y syniad: cynnydd treth incwm o rhwng 1% a 3% yn benodol i ariannu gofal cymdeithasol henoed yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ddiweddar fod y syniad yn haeddu ailymweliad.

Ond mae Steve Thomas yn meddwl bod Llywodraeth Cymru "wedi colli'r cyfle" bellach.

"Rwy'n meddwl bod cyfle i wneud rhywbeth ar dreth ac ar ofal cymdeithasol ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n debyg cyn y pandemig, a byddai wedi bod yn y system erbyn hyn," meddai.

"Rydych chi nawr yn dweud wrth bobl eich bod chi'n mynd i'w trethu yn ystod argyfwng costau byw ac nid yw'n mynd i fod yn boblogaidd iawn, yw e?"

'Perchnogaeth genedlaethol'

Mae Kate Young, fodd bynnag, yn credu y gellir gwneud achos dros drethi uwch os bydd pobl yn datblygu ymdeimlad o "berchnogaeth genedlaethol... balchder cenedlaethol o amgylch gofal cymdeithasol" a'i bwysigrwydd.

"Mae'r egwyddor, 'rwy'n talu am rywbeth ac rwy'n cael rhywbeth am hynny' yn un deg, ond yna mae'n rhaid i chi deimlo fod yr hyn rydych chi'n talu amdano yn werth chweil," meddai.

Mae llawer o feddwl hirdymor yn digwydd y tu ôl i'r llenni.

Ond gyda gofal cymdeithasol yng Nghymru dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, mae angen cyfres o atebion cyflym i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth hanfodol hwn, nad yw weithiau'n cael ei werthfawrogi'n ddigonol.

'Cymru'n gwario mwy'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau pobl - yn eu cefnogi i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a'r gymuned.

"Mae hefyd yn cefnogi'r gwasanaeth iechyd ehangach.

"Ry'n ni'n parhau i fuddsoddi yn y GIG a gofal cymdeithasol, a wir yn gwerthfawrogi pawb sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau, gyda Chymru'n gwario mwy y pen na'r un wlad arall yn y DU.

"Ry'n ni wedi buddsoddi yn y Cyflog Byw Gwirioneddol i ofal cymdeithasol ac yn gweithio gyda'r sector er mwyn gwella termau ac amodau er mwyn cefnogi recriwtio a chadw staff."