Halfpenny a Patchell ymhlith 15 o chwaraewyr i adael y Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae sêr Cymru, Leigh Halfpenny a Rhys Patchell, ymhlith 15 o chwaraewyr fydd yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.
Fe gyhoeddodd y rhanbarth y rhestr o enwau ddydd Gwener, cyn eu gornest nhw yn erbyn y Dreigiau yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn fydd yn nodi diwedd eu tymor yn y gynghrair.
Roedd y Scarlets eisoes wedi cyhoeddi y byddai Sione Kalamafoni, Javan Sebastian a Dane Blacker yn symud i glybiau newydd, tra bod Aaron Shingler ac Alex Jeffries yn ymddeol.
Yn ogystal â Halfpenny a Patchell, bydd Lewis Rawlins, Tom Price, Phil Price, Taylor Davies, Daf Hughes, Corey Baldwin, WillGriff John ac Iestyn Rees hefyd yn gadael wrth i'w cytundebau ddod i ben.
Ond mae'r rhanbarth wedi arwyddo'r maswr Ioan Lloyd ar gyfer y tymor nesaf, a rhoi cytundebau newydd i Sam Wainwright, Ryan Elias, Morgan Jones, Jac Price, Joe Roberts, Ioan Nicholas ac Eddie James.
Mae rhanbarthau Cymru wedi bod yn wynebu ansicrwydd ers misoedd ynglŷn â'u cyllidebau ar gyfer y tymor nesaf, gyda phryder y bydd llai o arian yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw dorri yn ôl ar faint eu carfannau.
Wrth ddiolch i'r chwaraewyr, dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel ei fod yn gyhoeddiad "anodd" i'w wneud.
"Mae pob chwaraewr wedi ymroi i'r Scarlets yn ystod eu hamser yma, ac rwy'n diolch iddyn nhw i gyd am eu cyfraniad a'r ffordd broffesiynol maen nhw wedi delio gyda phroses anodd y tymor yma," meddai.
Mae gan y Scarlets o leiaf un gêm ar ôl o'u tymor wedi iddyn nhw herio'r Dreigiau ar Ddydd y Farn, gan eu bod nhw'n croesawu Glasgow i Lanelli y penwythnos nesaf yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023