Cefnogwyr Wrecsam ar ben y byd wedi dyrchafiad
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Wrecsam ar ben y byd ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed.
Buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Boreham Wood nos Sadwrn wnaeth sicrhau y bydd Wrecsam yn chwarae yn Adran Dau y tymor nesaf.
Ar ôl pymtheg mlynedd o aros, gwireddu breuddwyd wnaeth y chwaraewyr a phob cefnogwr mor falch.
Gyda'r holl docynnau wedi eu gwerthu, roedd yr awyrgylch yn drydanol ar y Cae Ras nos Sadwrn.
Ar ôl y gêm, fe wnaeth miloedd o chwaraewyr heidio i'r cae i ddathlu gyda'r chwaraewyr.
Roedd pobl yn canu ac yn bloeddio ar y strydoedd wrth brofi noson hanesyddol.
Fe eth mwy na 10,160 o bobl i'r Cae Ras, ac yn eu plith roedd Julia Roberts a'i thad.
"'Dan ni'n dod yma bob gem adra', a ma' Dad 'di bod yn cefnogi Wrecsam ers y 60au," dywedodd.
"'Naeth Dad ddim cysgu neithiwr!"
'Gwerth yr aros'
Ond nid pob cefnogwr gafodd fynd i'r stadiwm. Roedd Nia Davies yn sefyll tu allan yn profi'r awyrgylch, ac roedd hi gystal â bod tu fewn, dywedodd.
"Roedd hi'n ffantastig yn fan hyn. Wedi aros, be? Pymtheg, ugain mlynedd am hwn. Oedd o werth o, doedd?
"Ar y diwedd, gweld yr holl bobl o bob man o'r wlad a'r byd yna i gefnogi Wrecsam."
"Mae'r awyrgylch yma'n Wrecsam, mae'n wych," dywedodd Garan o Abergele.
"Hyd yn oed fy mod i'n cefnogi Caerdydd, dw i yn cefnogi Wrecsam achos mae pethau ardderchog yn digwydd yma'n Wrecsam gyda be' sy' 'di digwydd i'r clwb."
'Hollol wych'
I Elwyn Davies sydd wedi cefnogi Wrecsam ers y 50au, roedd hi'n achlysur arbennig cael bod ar y Cae Ras nos Sadwrn.
Ar ôl i Boreham Wood sgorio yn y funud gyntaf, roedd Mr Davies yn falch o weld goliau Paul Mullin yn ehangu'r bwlch ar y sgorfwrdd.
"Ro'n i'n poeni braidd yn yr hanner cyntaf, ond yn yr ail hanner, fe wnaethon ni hi," dywedodd, "hollol wych."
Ac i'r cefnogwyr iau hefyd, roedd y teimlad yn dal yr un mor arbennig.
Dywedodd Cali, 11: "Dw i'n teimlo'n anhygoel. Dw i methu credu eu bod nhw wedi ennill y gynghrair.
"Maen nhw [Ryan Reynolds a Rob McElhenney] wedi gwneud gymaint i'r dref ac maen nhw wedi ei throi'n ddinas."
Roedd y sêr Hollywood - ac ambell ffrind - yno ar y Cae Ras yn gwylio'r gêm ac yn dathlu gyda'r chwaraewyr.
Fe gafodd seren y ffilm Ant-Man, yr actor Paul Rudd, ei weld yn mwynhau diod gyda chefnogwyr mewn tafarn cyn y gêm.
Ar ôl sylwebu ar y gêm o'r Cae Ras ar raglen Chwaraeon Radio Cymru, dywedodd Wayne Phillips, sy'n gyn-chwaraewr: "Mae o'n golygu gymaint.
"Y teimlad yn hollol wahanol i be' o'n i'n cael yma fis Mai diwetha' pan wnaethon nhw golli yn y gemau ail gyfle.
"O'dd gen i ddagrau yn fy llygada' y diwrnod yna, ond dagrau heddiw - dagrau hapus.
"Dyddia' o'n i'n gobeithio fasa'n dod 'nôl yma, i'r clwb sbesial yma, i'r cefnogwyr sbesial yma, os oes rhywun yn haeddu fo, rhain sy'n haeddu fo.
"Oedd, roedd hi'n anodd yn yr hanner cyntaf, ond yn yr ail hanner, y ddwy gôl yna gan seren y Cae Ras, does neb yn haeddu fo fwy na Paul Mullin, ond pob clod i bob un ohonyn nhw."
"Mae curo heddiw [ddydd Sadwrn] yn meddwl mwy na jyst ennill triphwynt," dywedodd Lili Jones sy'n chwaraewr canol cae i Wrecsam.
"15 mlynedd yn ôl - heartbreak. Ie ma' hwn yn huge, mae'n massive."
Mae busnesau yn Wrecsam wedi gweld hwb enfawr i'r diwydiant twristiaeth ers i'r clwb ddenu mwy a mwy o ymwelwyr, yn ôl Twristiaeth Gogledd Cymru.
Ar ddiwrnod y gêm nos Sadwrn, dywedodd rheolwr Neuadd Maesgwyn, oedd yn dangos y gêm, ei bod hi "gymaint prysurach" yn ddiweddar.
"Mae nifer y bobl sy'n dod... mae pawb yn siarad am Wrecsam! Mae'n wallgof," dywedodd Paris Trow.
"Mae'n gwneud gymaint ar gyfer yr iaith Gymraeg, i Gymru, diwylliant Cymreig, popeth yn gyffredinol.
"Mae'n hollol wych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023