Pryder am effaith cynllun 550 o dai ar dref Pontarddulais
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer 550 o dai ac ysgol newydd ym Mhontarddulais yn achosi pryder ymhlith rhai pobl leol.
Mae cwmni Persimmon Homes eisiau adeiladu'r tai yng ngogledd y dref, ar dir o amgylch Heol Glanffrwd, Heol Glynhir a Heol Ty'n-Y-Bonau.
Yn ôl y cwmni, fe fydd y safle newydd yn cynnwys tai a fflatiau, ysgol gynradd newydd, parciau chwarae, a llwybrau beicio a cherdded.
Ond mae pobl leol yn poeni y bydd y tai newydd yn achosi problemau traffig ac yn rhoi pwysau ar gyfleusterau sydd eisoes "o dan y don".
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng nghlwb rygbi'r dref nos Lun i drafod y cynlluniau.
Dywedodd llefarydd ar ran Persimmon Homes bod eu cynlluniau yn gobeithio creu cartrefi newydd o ansawdd uchel, sydd wir eu hangen yn yr ardal.
1,000 yn fwy o geir i'r Bont
Ond yn ôl y cynghorydd Jamie Johnstone, ni fydd cyfleusterau'r dref yn gallu ymdopi â chymaint o dai newydd.
"Mae Pontarddulais wedi cael datblygiadau mawr dros y blynyddoedd, heb unrhyw welliannau i'r seilwaith," meddai.
"Mae gen i lawer iawn o bryderon am yr effaith y byddai hyn yn cael ar y dref.
"Bydden i'n dweud mai'r traffig fydd y broblem fwyaf. Mae problemau gyda thraffig trwm ar hyn o bryd.
"Rydyn ni'n credu y bydd y datblygiad newydd yn dod â dros 1,000 yn fwy o geir i'r Bont.
"Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn dda. Mae'r cyfleusterau fel y feddygfa leol ac ysgolion hefyd o dan y don, a bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd mwy o bobl."
Yn ôl eraill, pe bai'r datblygwyr yn bwrw ymlaen, fe fydd angen cynllun i leihau lefelau traffig yn y dref.
Mae Eifion Davies yn byw yn yr ardal, a dywedodd fod traffig "wastad 'di bod yn broblem yn y dref".
"Mae'r Bont a'r Hendy gyda phroblem enfawr â thraffig," ychwanegodd.
"Fe fydd yn rhaid cael ymchwiliad i'r traffig cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth.
"Tu allan i'r tŷ mae pobl yn parcio'u ceir ar adegau prysur ac mae'n beryglus iawn.
"Os nad ydyn nhw'n mynd i greu heol newydd fel rhywle i'r traffig i fynd, dydw i ddim o blaid y cynlluniau."
Newidiadau 'economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol'
Yn ôl cwmni Persimmon, pan wnaethon nhw ddechrau'r broses datblygu tua degawd yn ôl, yn wreiddiol, fe gafodd heol newydd ei chynnig ar gyfer y safle.
Ond ers hynny, oherwydd newidiadau "economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol" mae'r cynlluniau wedi eu newid.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod polisi Llywodraeth Cymru, sydd bellach ddim yn cefnogi adeiladu prif ffyrdd newydd yng Nghymru, yn golygu fod angen cynnig opsiynau eraill.
Ychwanegon nhw fod tir y safle yn eiddo i wahanol bartïon ac felly maen nhw'n ceisio cynnig opsiwn i ddarparu ffordd fydd yn cynnwys giât fysiau.
Yn ôl y cwmni, "byddai hyn yn rheoli gwasgariad traffig gyda'r mwyafrif yn mynd i'r de a rhai yn mynd i'r gogledd. Dim ond bysiau fyddai'n gallu mynd i mewn ac allan o'r safle i'r ddau gyfeiriad."
Mae cyngor y dref wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ar gyfer pobl leol i drafod y cynlluniau.
Yn ôl y cynghorydd David Beynon, y gobaith yw y gall bobl fynegi eu barn a dysgu am y cynlluniau.
"Mae'n bwysig bod pobl yn gwrando ar beth mae Persimmon eisiau ei wneud yma. Y gobaith wedyn yw y gallwn ni greu cynllun ar sut i symud ymlaen."
Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Persimmon Homes: "Bydd ein cynlluniau ar gyfer y safle yn darparu dros 500 o gartrefi newydd o ansawdd sydd wir eu hangen yn yr ardal, gan roi cyfle i bobl leol aros yn y gymuned lle y cafon nhw eu magu."
Ychwanegon nhw y byddai'r datblygiad yn creu dros 1,500 o swyddi, a'u bod yn ymchwilio i opsiynau trafnidiaeth yn yr ardal gan gynnwys bod mewn trafodaethau gyda chwmnïau bysiau lleol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2016