Y llofrudd John Cooper yn gwneud cais i adolygu ei ddedfryd

  • Cyhoeddwyd
John Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Cooper ei erlyn yn dilyn adolygiad fforensig gan Heddlu Dyfed-Powys

Gall BBC Cymru ddatgelu bod dyn oedd yn gyfrifol am ddwy lofruddiaeth ddwbl erchyll yn Sir Benfro yn yr 1980au wedi cyflwyno cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol - y corff annibynnol sy'n delio gydag achosion pan mae pobl o bosib wedi'u canfod yn euog ar gam.

Y comisiwn yw'r trywydd olaf i wneud cais am apêl yn erbyn dyfarniad, os ydy troseddwyr yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu carcharu ar gam.

Mae'r comisiwn yn gorff annibynnol sy'n medru gorfodi cyrff cyhoeddus fel yr heddlu i ryddhau dogfennau sy'n ymwneud â'r achos.

Cafwyd John William Cooper, sydd bellach yn 78 oed, yn euog o lofruddio'r brawd a chwaer Richard a Helen Thomas ym mis Rhagfyr 1985, a Peter a Gwenda Dixon, gŵr a gwraig o Sir Rhydychen, ym mis Mehefin 1989.

Cafodd ei erlyn yn dilyn adolygiad fforensig gan Heddlu Dyfed-Powys.

Disgrifiad o’r llun,

Richard a Helen Thomas, gafodd eu lladd gan John Cooper ar 22 Rhagfyr, 1985

Carchawyd Cooper am oes am y llofruddiaethau gan y Barnwr Ustus John Griffith Williams.

Mewn datganiad byr, fe gadarnhaodd y comisiwn fod "cais i adolygu'r achos hwn wedi'i dderbyn".

Mae Cooper wastad wedi gwadu fod ganddo unrhyw beth i'w wneud gyda phob un o'r troseddau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerdyn banc y Dixons ei ddefnyddio rhwng yr amseroedd lle y gwelwyd nhw ddiwethaf, a'r adeg pan ddarganfuwyd eu cyrff

Yn ystod yr achos llys yn 2011 fe ddangoswyd clip o Cooper ar raglen Bullseye, fis yn unig cyn iddo lofruddio Peter a Gwenda Dixon.

Fe ddangoswyd y lluniau yn y llys er mwyn i'r rheithgor fedru cymharu'r ffordd roedd Cooper yn edrych ar y pryd gyda dyn a gafodd ei weld yn defnyddio cerdyn banc Peter Dixon ar yr un diwrnod â'r llofruddiaethau.

Cafodd achos John Cooper ei addasu fel drama i ITV, gyda Luke Evans yn chwarae'r brif ran yn The Pembrokeshire Murders.

Fe ddisgrifiwyd Cooper gan y barnwr fel "dyn peryglus iawn, fyddai mwy na thebyg yn dianc rhag cyfiawnder oni bai am y datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig".

Cafwydd Cooper hefyd yn euog o droseddau yn erbyn criw o bobl ifanc ar Ystâd y Mount ger Aberdaugleddau ym 1996, sef o dreisio, o ymosod yn anweddus ac o geisio dwyn.

Fe wrthodwyd apêl Cooper yn 2012.

Beth mae'r comisiwn yn ei wneud?

Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn fodlon ystyried ceisiadau pan mae yna dystiolaeth newydd arwyddocaol neu ddatblygiad gwyddonol newydd.

Bydd achosion ond yn cael eu cyfeirio at y Llys Apêl os oes yna bosibilrwydd gwirioneddol y bydd y dyfarniad yn cael ei wyrdroi.

O Ebrill 1997 hyd at Chwefror 2023 cafodd 29,845 o geisiadau eu derbyn gan y comisiwn. Fe anfonwyd 811 o'r achosion at apêl.

O'r 791 achos sydd wedi cael eu clywed yn y llysoedd, cafodd 557 o ddyfarniadau eu gwyrdroi, gyda'r llysoedd yn cefnogi 219 o ddyfarniadau.

Dyw manylion cais Cooper i'r comisiwn heb gael eu datgelu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Cooper ar y rhaglen deledu boblogaidd Bullseye fis cyn llofruddiaethau Peter a Gwenda Dixon. Cafodd clipiau o'r rhaglen eu defnyddio ochr yn ochr â'r disgrifiadau gan dystion

Ym 1998, fe gafwyd Cooper yn euog o 31 o droseddau yn ymwneud â bwrgleriaeth a lladrad arfog.

Yn ystod yr ymchwiliad fe ddechreuodd yr heddlu amau bod ganddo gysylltiad gyda'r ddwy lofruddiaeth ddwbl yn Sir Benfro yn y 1980au - troseddau oedd heb eu datrys.

Dangosodd adolygiad fforensig a gomisiynwyd gan yr heddlu yn 2006 bod yna gysylltiad rhwng eitemau a feddianwyd yn ystod yr ymchwiliad yn 1998, y llofruddiaethau a'r ymosodiad ar y bobl ifanc.

Fe ddarganfuwyd olion o waed Peter Dixon o dan haenau o baent ar faril gwn oedd wedi cael ei daflu i glawdd gan Cooper yn ystod lladrad.

Roedd yna olion o waed Peter Dixon ar bâr o drowsus cwta oedd wedi cael eu gwisgo gan Cooper ac oedd yn ei dŷ.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Cooper ei ddedfrydu i garchar am oes yn 2011. Mae bellach yn 78 mlwydd oed

Yn ystod yr achos, fe bortreadwyd Cooper fel dyn oedd yn hoff o fod allan yng nghefn gwlad liw nos, ac y byddai'n defnyddio llwyni a pherthi i guddio eitemau oedd wedi'u dwyn.

Roedd Cooper hefyd yn arfer torri ffensys a chroesi caeau er mwyn dianc ar ôl bod yn lladrata.

Dangosodd tystiolaeth ffeibrau gysylltiad hefyd rhwng John Cooper a'r troseddau.

Daethpwyd o hyd i ffeibrau tu mewn i ddillad y ddwy ferch oedd wedi dod o bâr o fenyg a daflwyd i glawdd yn ystod lladrad, ac fe ddaethpwyd o hyd i ffeibrau o ddillad y merched ar y menyg hefyd.

Cafwyd Cooper yn euog ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys lansio Operation Ottawa yn 2006.

Dywedodd y llu eu bod wedi cael gwybod am gais Cooper, ac y byddan nhw yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol yn ymwneud â'r achos.