Castell Caernarfon: Agor rhannau sydd wedi'u cuddio ers canrifoedd
- Cyhoeddwyd
Mae rhannau o Gastell Caernarfon sydd wedi eu cuddio ers canrifoedd bellach ar agor i'r cyhoedd.
Yn 2020 fe ddechreuodd cynllun gwerth £5m i adnewyddu'r prif borthdy.
Gan gynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau'r porthdy, mae lifft hefyd wedi'i osod sy'n caniatáu mynediad i'r lefelau uchaf.
Yn ôl Cadw - y corff sy'n gofalu am henebion ar ran Llywodraeth Cymru - roedd yn un o'u prosiectau mwyaf cymhleth.
Ychwanegon nhw mai dyma'r datblygiad cyntaf o'i fath mewn unrhyw safle Treftadaeth y Byd yn y DU.
Fe gyhoeddodd y corff fod y gwaith bellach wedi ei gwblhau, gan annog y cyhoedd i brofi'r rhannau o'r castell sydd heb fod ar agor i'w gweld tan rŵan.
'Mynediad at hanes Cymru'
Mae'r castell - sy'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd - yn denu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Fel rhan o'r gwaith mae lifft gwydr newydd yn arwain ymwelwyr drwy Borth y Brenin i ddec gwylio newydd.
I alluogi'r gwaith mae sgaffaldiau wedi amgylchynu'r castell ar adegau.
Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Mae gwneud ein safleoedd hanesyddol yn fwy hygyrch yn ffordd wych - ac angenrheidiol - o ofalu am henebion hanesyddol Cymru er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
"Mae prosiectau gwella fel yr un yma yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at hanes Cymru a dysgu mwy am dreftadaeth y genedl.
"Bydd dehongliad newydd Cadw yn cefnogi hyn ymhellach, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod straeon llai adnabyddus o hanes y castell.
"Dyma'r datblygiad diweddaraf yng Nghaernarfon ac y mae'r dref hefyd wedi elwa o raglen ddatblygu helaeth a pharhaus i wella ei statws ymhellach fel cyrchfan eiconig yng Nghymru."
'Dealltwriaeth llawnach o'r gwrthdaro'
Mae'r castell bellach yn cynnwys caffi newydd a mannau addysgol a manwerthu newydd.
Diolchodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw, i bobl am eu hamynedd tra'r oedd y gwaith yn mynd yn ei flaen.
"Bydd dehongliad y dwylo a adeiladodd y Castell yn annog ymwelwyr i wneud yr union beth hwnnw - gan ganolbwyntio ar y gymuned a'r gweithwyr fu'n byw yn y Castell," meddai.
"Mae eu straeon nhw yn aml yn droednodiadau yn hytrach na phrif ganolbwynt dehongliad hanesyddol.
"Bydd y dehongliad newydd hwn yn dangos y sgil a'r wybodaeth a ddefnyddiwyd i adeiladu'r castell sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd.
"Mae hefyd yn cynnig cyd-destun a fydd yn rhoi dealltwriaeth lawnach o'r gwrthdaro dwys a fu rhwng y tywysogion Cymreig brodorol a brenhinoedd Lloegr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020