Pont y Borth: '30 mlynedd o rybuddion fod problemau'
- Cyhoeddwyd
Cafodd gwaith diogelwch sylweddol ar un o'r ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn â gweddill Cymru eu hargymell gyntaf dros 30 mlynedd yn ôl.
Caewyd Pont y Borth, sy'n cael ei ystyried fel y bont grog fodern gyntaf yn y byd, yn sydyn fis Hydref y llynedd pan ddaeth peirianwyr o hyd i "broblemau diogelwch difrifol" gyda'r rhodenni [hangers] sy'n dal ffordd y bont yn ei le.
Ond mae BBC Cymru wedi gweld adroddiad sy'n dweud fod problemau gyda'r rhodenni wedi'u canfod a'u trafod mor bell yn ôl â 1991.
Cafodd rhai eu hadnewyddu ar y pryd, ond nid pob un fel yr argymhellwyd.
Yn ôl yr aelod sy'n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd mae'n "sgandal" na chafodd y rhodenni eu newid yn gynt.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y rhodenni wedi cael eu harchwilio'n gyson dros 40 o flynyddoedd ac nad oedd argymhelliad i'w hailosod.
'Pryderon sylweddol ynglŷn â gallu'r rhodenni'
Er i Bont y Borth gael ei hadeiladu yn 1826, ni chafodd y rhodenni eu hychwanegu tan 1938-1941 pan gafodd y bont ei chryfhau.
Ond y llynedd, wrth edrych ar hen adroddiadau cyn peintio rhodenni'r bont, fe wnaeth peirianwyr ganfod bod problemau difrifol gyda'r rhodenni.
Mae adroddiad peirianwyr yn 2022, sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, yn nodi: "Pryderon sylweddol ynglŷn â gallu'r... rhodenni wedi'u hadnabod yn ystod ymchwiliadau strwythurol ar ddiwedd yr 1980au a dechrau'r 1990au.
"Arweiniodd yr ymchwiliadau strwythurol hyn at newid 40 o'r rhodenni ac argymhelliad i newid y gweddill yn barhaus wedi hynny."
Cafodd rhai rhodenni eu newid rhwng 1989 ac 1991, ond fe wnaeth y mwyafrif ohonynt aros yn eu lle, a ni chyflawnwyd y gwaith o'u newid yn gyson erioed.
Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth: "Dwi wedi bod yn gofyn cwestiynau ers i'r bont cau ym mis Hydref y llynedd - beth yn union ddigwyddodd a pham?
"Daeth i'r amlwg i mi yn ddiweddar bod 40 o'r rhodenni wedi cael eu trwsio tua 1990, a bod yna argymhelliad i newid y gweddill.
"Gan wybod hynny, fe ddylai fod rhaglen wedi bod mewn lle i newid pob un o'r rhodenni dros amser.
"Mae'n sgandal na wnaeth llywodraethau olynol wneud yn siŵr bod lles hirdymor y bont yn cael ei sicrhau.
"Roedd y ffordd y bu'n rhaid cau'r bont heb unrhyw rybudd fis Hydref diwethaf yn hynod broblematig - gan achosi niwed i fusnesau a chreu anhawster i drigolion lleol.
"Dylan ni byth wedi bod mewn sefyllfa lle roedd angen gwneud penderfyniad i'w chau mor gyflym â hynny.
"Mae angen atebion ynghylch pam nad yw'r gwaith i sicrhau'r bont hon wedi'i wneud dros amser."
'Trist bod y bont heb ei edrych ar ei hôl'
Un busnes sydd wedi profi effaith negyddol colli defnydd o'r bont ydy caffi Plus 39.
Dywedodd un o'r cyd-berchnogion, Jane Walsh: "Mae'n gwneud rhywun yn flin clywed bod 'na rhybudd wedi bod am y bont flynyddoedd yn ôl.
"Mae'r bont yn rhan o hanes y dre ac mae'n drist iawn clywed ei bod hi ddim wedi cael ei edrych ar ei hôl.
"Yn ogystal mae colli'r bont yn amlwg yn cael effaith ar fusnesau'r dre.
"O fewn oriau o gau flwyddyn ddiwethaf mi oedd y pentref yn wag."
Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y bont ers 1999, er bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud gan gwmni o'r enw UK Highways (A55) Ltd, a gymerodd y gwaith drosodd yn 1998.
Mae UK Highways (A55) Ltd yn dweud mai diogelwch yw ei phrif flaenoriaeth o hyd. Mae ganddyn nhw raglen reolaidd o archwiliadau a gwaith cynnal a chadw ar y bont.
Ychwanegon nhw ei bod nhw wedi gwneud llawer o waith atgyweirio dros y 25 mlynedd diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth adroddiad 1988 argymell y dylai'r rhodenni gael eu harchwilio yn hytrach na'u hailosod yn awtomatig, fel rhan o raglen o Brif Archwiliadau.
"Mae Prif Archwiliadau wedi'u cynnal ers newid y 40 o rodenni ac nid oedd yr archwiliadau hyn yn argymell ailosod unrhyw rodenni ychwanegol ar Bont y Borth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022