Mwy o achosion o ganser y croen di-felanoma yn bryder

  • Cyhoeddwyd
MelanomaFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Mae canser y croen di-felanoma fel arfer yn datblygu yn rhannau'r corff sy'n cael eu hamlygu fwyaf i'r haul

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn bryderus iawn am y cynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen di-felanoma.

Yn ôl ffigyrau newydd, fe gododd y nifer o 7% dros gyfnod o bedair blynedd - y gyfradd uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Canser y croen di-felanoma (NMSC) yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, o flaen canser y prostad.

Dywedodd Cymdeithas y Dermatolegwyr fod y "ffasiwn" o gael lliw haul ynghyd â chroen goleuach ymhlith y rhesymau o achosion uwch.

Fe ddangosodd ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod nifer yr achosion o NMSC wedi cynyddu o 7.1% rhwng 2016 a 2019 - o 13,369 i 15,102.

Mae arbenigwyr iechyd yn dweud bod hynny'n bennaf yn cael ei achosi gan ormod o amlygiad i olau UV sy'n dod o'r haul, yn ogystal â gwlâu haul.

Yn wahanol i ganserau eraill, mae yna lai o risg y bydd yn lledaenu i rannau eraill o'r corff.

Os yw'n cael ei drin yn gynnar, mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu trin yn llwyddiannus.

'Dipyn o sioc'

Cafodd Beryl Roberts o Ddyffryn Conwy ddiagnosis o ganser y croen pan oedd hi'n 49 oed, ond fe ddaeth hi drosto.

"O'n i'n amau mai dyna oedd o achos mi oedd o'n edrych yn reit anghyffredin," meddai.

Dywedodd bod clywed cadarnhad o hynny yn "dipyn o sioc".

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Beryl Roberts ganser y croen, er nad oedd wedi 'torheulo lot'

Cyn ei hymddeoliad, roedd hi hefyd yn bennaeth nyrsio gwasanaeth canser Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

"Nesh i ddim meddwl y bysa fo'n digwydd i fi, doeddwn i heb fod yn torheulo lot."

Roedd hi'n gweithio ar fferm pan yn ifanc ac mae hi'n credu ei bod wedi treulio gormod o amser yn yr haul, yn enwedig un haf.

"Dwi'n cofio llosgi yn yr haul, fy mreichiau a ballu. Doedd ganddon ni ddim yr arian bryd hynny na'r wybodaeth i wybod bod isho defnyddio hylif haul efo ffactor uchel.

"Roedd lle gesh i o reit ar le mae [lein] y crys-T a dwi'n meddwl mai dyna wnaeth achosi fo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Dyfed Wyn Huws yn dweud fod y ffigyrau'n bryderus

Fel arfer, mae NMSC yn datblygu mewn mannau yn y corff sydd wedi eu hamlygu fwyaf i'r haul, gan gynnwys y wyneb, pen a'r gwddf.

Yn ôl yr Athro Dyfed Wyn Huws - Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn ICC - mae'r ffigyrau yn rhai "pryderus iawn".

"Mae yna restrau aros hir, mae yna gymaint o achosion. Ond beth sy'n galonogol [yw] mae'n bosib osgoi'r rhan fwyaf," meddai.

"Os ydan ni'n ystyried faint 'dan ni allan yn yr haul, osgoi gwlâu haul a gorchuddio ein corff mewn haul poeth iawn, yn enwedig dramor, mae modd dros amser wnawn ni ddim weld newid cyflym [a] dod â'r cyfraddau lawr."

'Haul dros y blynyddoedd'

Fe ychwanegodd Jemma Collins, o Gymdeithas y Dermatolegwyr, fod y cynnydd yn seiliedig ar "sawl ffactor".

"Yn gyntaf, y math o boblogaeth. Y croen Celtaidd sydd i gael yng Nghymru, felly rydyn ni'n naturiol ychydig yn oleuach," meddai.

"Mae yna ffasiwn yng Nghymru i gael lliw haul a defnyddio gwlâu haul, yn benodol.

"Rydyn ni'n gweld mwy a mwy o wyliau dramor dros amser, nid yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond dros amser a'r haul dros y blynyddoedd sy'n achosi'r canser hwn."

Pynciau cysylltiedig