Polisi gofal plant yn 'ddibynnol ar recriwtio mwy o staff'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn chwarae gyda teganauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar gyfartaledd mae rhieni yng Nghymru'n talu £249.24 yr wythnos am ofal llawn amser i blentyn dyflwydd oed

Mae addewid Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn dyflwydd oed yn dibynnu ar allu'r sector i recriwtio mwy o staff, yn ôl y dirprwy weinidog sy'n gofalu am y polisi.  

Dywedodd Julie Morgan ei bod hi'n "eithaf anodd" dod o hyd i weithwyr ar hyn o bryd, ac os nad oes modd cael staff "allwch chi ddim bwrw 'mlaen". 

Mae'r polisi'n ganolog i'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd.

Pwysleisiodd Ms Morgan bod y llywodraeth yn buddsoddi yn y sector a'i bod hi'n obeithiol bydd modd cyflwyno'r polisi'n llawn cyn yr etholiad nesaf yn 2026.

Methu recriwtio staff yn 'broblem'

Mae cost gofal plant yn y Deyrnas Unedig gyda'r drytaf yn y byd ac ar gyfartaledd mae rhieni yng Nghymru'n talu £249.24 yr wythnos am ofal llawn amser i blentyn dyflwydd oed.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n ariannu 30 awr o ofal plant am ddim i blant sy'n dair a phedair oed bob wythnos, gydag amodau.

Mae hefyd yn cynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dyflwydd oed bob wythnos mewn rhai ardaloedd difreintiedig.  

Nawr mae'r llywodraeth yn ehangu'r cynllun yna i gynnwys pob plentyn dwy oed yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan: "Rydyn ni'n dibynnu ar gael staff er mwyn gwneud hyn ac mae'n eithaf anodd cael staff ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y capasiti yna."

Pan ofynnwyd iddi a allai'r heriau recriwtio fygwth y polisi, dywedodd Ms Morgan: "Os nad oes modd cael y staff i weithio, yn amlwg allwch chi ddim bwrw 'mlaen. Mae'n broblem.

"Ond rydyn ni'n gwneud popeth allwn ni i ddenu staff i'r sector felly rwy'n obeithiol y byddwn ni'n llwyddo i'w wneud."

Dywedodd Ms Morgan bod y llywodraeth yn buddsoddi £70m yn y sector i wella meithrinfeydd a chreu mwy o lefydd.

'Effaith ariannol enfawr ar fusnesau'

Yn y cyfamser mae un rheolwr cwmni gofal plant wedi rhybuddio bod y polisi'n cael ei gyflwyno mewn modd allai beryglu rhai busnesau.

Jodie Evans yw'r uwch-reolwr ardal i gwmni meithrinfeydd St Aubin's, sy'n rhedeg naw busnes ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Fe ddywedodd hi wrth y rhaglen y bydd darparwyr gofal yn cael llai o arian drwy gynllun y llywodraeth i'w digolledu ar gyfer yr oriau y bydd rhieni'n eu cael am ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jodie Evans mae meithrinfeydd yn wynebu trafferthion recriwtio sylweddol

Eglurodd hefyd bod meithrinfeydd yn wynebu heriau ariannol digynsail a thrafferthion recriwtio sylweddol.

"Rydyn ni'n gwneud mwy na gofalu, rydyn ni'n addysgu, ry'n ni'n deulu estynedig ac maen nhw'n talu £5.60 [yr awr] i ni i wneud hynny i gyd," meddai Ms Evans.

"Mae pobl sy'n gwarchod plant yn ennill mwy na hynny ac rydyn ni'n wasanaeth proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth o ansawdd, felly sut maen nhw'n disgwyl i ni wneud hynny?

"Ac mae'r bwriad i gynnig hyn i bob plentyn heb unrhyw gyfyngiadau yn mynd i gael effaith ariannol enfawr ar fusnesau," ychwanegodd.

'Angen mwy o gydweithio'

Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen blynyddoedd cynnar Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Natalie Macdonald, bod y polisi "mewn egwyddor", yn "gam ymlaen ardderchog", ond efallai nad oedd y llywodraeth wedi "ystyried popeth yn ddigon trylwyr". 

Byddai mwy o gydweithio gyda'r sector wedi sicrhau bod y polisi'n "gynaliadwy", ychwanegodd. 

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn cymryd camau i ostwng rhai o'r costau sy'n wynebu meithrinfeydd

Wrth ymateb dywedodd y llywodraeth eu bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector a'u bod wedi cymryd camau i ostwng rhai o'r costau sy'n wynebu meithrinfeydd.

Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru'n fwy hael nag yn Lloegr.

Ond yn ei gyllideb fis diwethaf, addawodd y canghellor i ymestyn y ddarpariaeth yn Lloegr i gynnwys - yn y pen draw - plant o naw mis oed, gyda rhai amodau.

Pan ofynnwyd iddi a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno'r un ymrwymiadau, dywedodd Ms Morgan ei bod hi'n canolbwyntio ar gyflwyno'r polisi ar gyfer plant dwy oed ar hyn o bryd ac yna "byddwn ni'n asesu ble allwn ni fynd".

Pynciau cysylltiedig