Y Gynghrair Genedlaethol: Torquay 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Jacob Mendy'n herio Tom Lapslie o Torquay United am y bêlFfynhonnell y llun, Rex Features

Fe wnaeth gôl hwyr Elliott Lee sicrhau gêm gyfartal i Wrecsam oddi cartref yn erbyn Torquay United wrth i'r pencampwyr ffarwelio â'r Gynghrair Genedlaethol.

Ofer oedd brwydr yr ymwelwyr i osgoi syrthio o'r gynghrair, er iddyn nhw fynd ar y blaen, diolch i gôl Frank Nouble (59).

Ond gyda 10 munud ar y cloc fe rwydodd Lee i unioni'r sgôr a thorri calonnau cefnogwyr y tîm cartref.

Roedd Wrecsam eisoes wedi sicrhau dyrchafiad a thorri record pwyntiau'r gynghrair trwy drechu Boreham Wood wythnos diwethaf.

Mae'n nhw'n darfod y tymor gyda 111 o bwyntiau - pedwar yn fwy na Notts County, a gafodd gêm gyfartal hefyd ddydd Sadwrn yn erbyn York.

Bydd y golygon yn troi nawr at orymdaith bws trwy Wrecsam ddydd Mawrth i ddathlu llwyddiant tîm Phil Parkinson.