Y dreth gyngor: 'Enillwyr a chollwyr' yn 2025 wedi newidiadau

  • Cyhoeddwyd
tai CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fyddwch yn talu mwy o dreth gyngor dim ond am fod eich eiddo werth mwy, meddai gweinidog

Bydd "enillwyr a chollwyr" yn dilyn diweddariad mawr i'r dreth gyngor yn 2025, meddai'r gweinidog cyllid.

Cadarnhaodd Rebecca Evans fod swyddogion wedi cael cais i ddechrau ailbrisio cartrefi am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Bydd bandiau'n newid ym mis Ebrill 2025, yn seiliedig ar asesiad o werth cartrefi ym mis Ebrill eleni.

Dywedodd Ms Evans: "Rwy'n cydnabod bod y rhain yn newidiadau cymhleth ac y bydd enillwyr a chollwyr.

"Mae pob blwyddyn rydyn ni'n parhau â'r trefniadau presennol yn dod â mwy o annhegwch sy'n cael ei brofi fwyaf difrifol yn aml gan yr aelwydydd tlotaf."

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cael ei chomisiynu i ailbrisio cartrefi "gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf", meddai.

Roedd ailbrisiad diwethaf Cymru yn 2003. Yn Lloegr a'r Alban, mae biliau'n dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo yn 1991.

1.5m o gartrefi

Mae diweddariadau rheolaidd i werth 1.5m o gartrefi Cymru yn cael eu haddo "i gadw'r dreth gyngor yn deg yn y dyfodol".

Mae beirniaid yn dweud bod y dreth yn annheg oherwydd ei bod yn cymryd cyfran fwy o incwm oddi wrth y rhai lleiaf cefnog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau yn ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casgliadau gwastraff a pheth trafnidiaeth leol

Dywedodd Ms Evans y byddai "dim ceiniog yn fwy mewn refeniw cyffredinol" yn cael ei godi o'r dreth.

Ychwanegodd: "Bydd y buddion yn cael eu teimlo yn y pocedi gan y rhai sydd â'r angen mwyaf erbyn diwedd tymor y llywodraeth hon."

Mae'r amserlen yn golygu y bydd y newidiadau treth wedi digwydd 12 mis cyn etholiad nesaf y Senedd.

Nid yw prisiau eiddo uwch o reidrwydd yn golygu y bydd biliau'n codi oherwydd bod cartrefi wedi'u bandio ar eu gwerth cymharol.

'Sefyllfa gymharol eich cartref'

Dywedodd y gweinidog: "Mae rhai pobl yn poeni bod eu cartrefi wedi cynyddu mewn gwerth ers yr ailbrisiad diwethaf 20 mlynedd yn ôl. Mae'n debyg bod hynny'n wir am bron pob eiddo.

"Mewn gwirionedd yr hyn sy'n bwysig yw sefyllfa gymharol eich cartref ar draws holl eiddo Cymru."

Canfu ymchwil ar ran y llywodraeth yn 2019 y byddai ailbrisiad yn golygu na fyddai tua hanner y cartrefi yn gweld unrhyw newid yn y dreth gyngor, byddai chwarter yn talu llai a chwarter yn talu mwy.

Ond roedd hynny'n seiliedig ar gadw'r naw band presennol - rhywbeth sy'n dal i gael ei ystyried, meddai'r gweinidog.

Bydd rhagor o fanylion am sut olwg fydd ar y system newydd yn cael eu datgelu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae gostyngiadau ac eithriadau o'r dreth hefyd yn cael eu hadolygu, ac mae "trefniadau trosiannol" wedi'u haddo i helpu i gyflwyno'r newidiadau.

'Pwy fydd yr enillwyr a'r collwyr?'

Yn y siambr, dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Sam Rowlands: "Hoffwn wybod pwy ydych chi'n meddwl fydd yr enillwyr a'r collwyr hynny.

"Mae pobl yn mynd trwy gyfnodau anodd ar hyn o bryd, rydyn ni'n gwybod am bwysau rhyfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n amddiffyn pobl cymaint â phosib yn lle creu mwy - i ddefnyddio'ch gair - o gollwyr yn y system."

Mae'r newidiadau yn rhan o gytundeb cydweithio Llafur gyda Phlaid Cymru.

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Cefin Campbell: "Mae'r system dreth gyngor sydd gennym ni wedi dyddio bron i 20 mlynedd, yn cyfrannu at anghydraddoldebau cyfoeth ac yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach Cymru."

Pynciau cysylltiedig