'Dim codiadau treth incwm tra bod costau byw mor uchel' - gweinidog

  • Cyhoeddwyd
menyw'n rhoi arian mewn pwrsFfynhonnell y llun, Getty Images

Byddai codiadau treth incwm yn taro'n galetaf ar weithwyr sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, meddai'r gweinidog cyllid.

Mewn dadl yn y Senedd ar ei chyllideb ddrafft, dywedodd Rebecca Evans na fyddai'r llywodraeth yn codi trethi tra bod costau byw mor uchel.

Pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd yn erbyn gwelliant Plaid Cymru oedd yn galw am ychwanegu 1c at gyfradd sylfaenol treth incwm, 2c at y gyfradd uwch a 3c at y gyfradd uchaf.

Roedd y blaid yn dweud y byddai'r arian a godwyd yn ariannu gwell cyflogau i staff y GIG a gofalwyr cymdeithasol.

'Credadwy'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod gan y blaid "gynllun credadwy a chostiedig i drawsnewid pethau i wella'r argyfwng yn y GIG a'n system gofal cymdeithasol".

Fe wnaeth y llywodraeth ennill y bleidlais ar y gyllideb yn dilyn y ddadl, gyda Phlaid Cymru yn ymatal fel rhan o'u cytundeb cydweithio gyda Llafur.

Roedd Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i'r gyllideb yn galw am godi treth incwm i dalu am gyflogau uwch yn y gwasanaeth iechyd ac i weithwyr gofal cymdeithasol.

Dywedodd Mr Price bod amseroedd aros uchel a thoriadau i wasanaethau "yn ganlyniad uniongyrchol 13 mlynedd o doriadau'r Torïaid a 25 mlynedd o fethiant Llafur i ddarparu atebion real a radical i'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau".

Dywedodd y Ceidwadwyr fod ganddyn nhw "gynllun gweithredu fyddai'n rhoi blaenoriaethau pobl wrth galon cyllideb Llywodraeth Cymru", oedd yn cynnwys gwestai gofal i glirio ôl-groniadau ysbytai, hybiau llawfeddygol a, rhewi treth cyngor.

Wrth agor dadl ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru gwerth mwy na £20bn, dywedodd Ms Evans nad "nawr yw'r amser iawn" i godi treth incwm.

Ni fyddai codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol o dreth incwm yn codi digon o arian i wneud gwahaniaeth sylweddol, meddai.

"Byddai'r cyfraniad mwyaf yn dod gan drethdalwyr y band cyfradd sylfaenol - a gadewch i ni fod yn glir y byddai hyn yn effeithio ar y gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf yng Nghymru," meddai.

"Yr un gweithwyr sy'n ceisio cymorth gan fanciau bwyd, yr un gweithwyr sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd."

Ail-flaenoriaethu

Dywedodd Peter Fox, llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, wrth y Senedd bod "cyhoeddiadau ystyrlon" yn y gyllideb fel cyflog byw go iawn ar gyfer gofal cymdeithasol a chodiadau i gyflogau athrawon.

"Ond rydyn ni'n gwybod y bydd disgwyl i gynghorau ariannu'r mwyafrif helaeth o'r codiadau hyn," meddai.

Dywedodd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi mynd ymhellach i ail-flaenoriaethu cyllid, a chwestiynodd wariant ar £6m ar bolisi etholiadau, £2m ar y Comisiwn Cyfansoddiadol, neu £8m ar gysylltiadau rhyngwladol.

"Rydyn ni nawr angen gweinidogion yma... yng Nghymru i ddechrau delio'n iawn gyda'r heriau enfawr mae'r wlad yma'n eu hwynebu a stopio chwilio am bobl eraill i feio," meddai.

Ffynhonnell y llun, Vitalii Petrushenko

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price mai'r "dewis sy'n ein hwynebu yw a ddylid defnyddio'r pwerau sydd gennym, neu ddim ond derbyn yr amlen ariannol sydd yn ei hanfod wedi'i phasio i'w defnyddio gan San Steffan".

Wrth gynnig codi treth incwm, dywedodd Mr Price: "Nid arian yn unig yw'r ateb ond hebddo does dim ffordd allan o'r argyfwng hwn."

Dywedodd fod y rhai ar incwm is "yn debygol o ddioddef fwyaf" o doriadau i wasanaethau cyhoeddus gyda "bywydau mwy poenus", a chyhuddodd weinidogion Cymru o ailadrodd dadleuon Cynghrair y Trethdalwyr.

'Ddim yn ddigon'

Dyw polisïau costau byw Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon i helpu pobl sy'n wynebu caledi, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae'r pwyllgor cyllid yn beirniadu toriad mewn arian i gynhesu tai ac fe alwodd am fwy o gyllid ar gyfer myfyrwyr sydd yn y chweched dosbarth a'r coleg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pwyllgor: "Mae ein Cyllideb Ddrafft wedi'i chynllunio i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai mwyaf agored i niwed."

Ond dywedodd y pwyllgor cyllid: "Fel pwyllgor nid ydym yn gweld fawr ddim yn y gyllideb ddrafft hon i atal aelwydydd rhag disgyn i galedi ariannol."

Cymorth cynhesu cartrefi i ddod i ben

Dywedodd y pwyllgor trawsbleidiol ei fod yn siomedig y bydd y taliadau cynhesu cartrefi o £200 i bobl ar fudd-daliadau yn dod i ben ym mis Ebrill.

Fe wnaeth tua 166,000 o gartrefi elwa o'r cynllun gwerth £90m, ond dywed gweinidogion na allan nhw fforddio barhau â'r cynllun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y taliadau cynhesu cartrefi o £200 i bobl ar fudd-daliadau yn dod i ben ym mis Ebrill

Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am gynnydd yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed.

Dyw'r taliad wythnosol o £30 ddim wedi codi ers canol y 2000au.

Mae'n "hen bryd" adolygu lefel yr incwm sy'n cymhwyso myfyrwyr ar gyfer y lwfans, meddai'r pwyllgor.

Galw am asesiad o effaith chwyddiant

Diolch i chwyddiant uchel mae gwerth y gyllideb wedi gostwng, gyda gweinidogion yn rhybuddio na fyddan nhw'n gallu cyflawni cymaint ag yr oedden nhw'n gobeithio.

Ond dywed y pwyllgor nad oes digon o fanylion am doriadau o fewn y gyllideb o £20bn. Mae hefyd yn galw am asesiad llawn o effaith chwyddiant.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Peredur Owen Griffiths: "Rydym yn deall bod y penderfyniadau ariannu sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn hynod o anodd, ond roeddem yn synnu ac yn pryderu ynghylch y diffyg gonestrwydd yn y gyllideb ddrafft.

"Nid dyma'r ffordd iawn o ymdrin â'n pwyllgor a'r Senedd yn gyffredinol, ac mae'n tanseilio gwaith craffu democrataidd dilys."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi tystiolaeth fanwl i bwyllgorau'r Senedd ac yn edrych ymlaen at ragor o graffu yn ystod y ddadl ddydd Mawrth.

Treth incwm

Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud iddi feddwl o ddifrif ynglŷn â chodi'r dreth incwm.

Wrth egluro ei phenderfyniad i beidio â chodi'r dreth, dywedodd fod perygl i bobl ar gyflogau uchel symud allan o Gymru er mwyn osgoi trethi uwch.

Ond mae absenoldeb dadansoddiad llawn o hyn "yn awgrymu nad oedd y gweinidog wedi ystyried o ddifrif newid y gyfradd treth", meddai'r pwyllgor.

Daw dadl ddydd Mawrth yn ystod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau llafur dros gyflogau.

Mae'r rhan fwyaf o undebau iechyd wedi gohirio streiciau tra'u bod yn ymgynghori ag aelodau ar gynnig cyflog gwell gan y llywodraeth.

Ond mae Ms Evans wedi dweud bod arian ychwanegol sy'n cael ei wario ar gynnig cyflog gwell i staff y gwasanaeth iechyd yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru "ddewisiadau anoddach" i'w gwneud yn y blynyddoedd i ddod.