Gwlân a gonorea: Gwaith crosio anarferol artist o Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Laura Camron gyda'i gweithiau crosioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Job fy mreuddwydion fyddai patholegydd ond dwi wastad wedi gwybod na fyddwn i'n gallu gwneud y swydd..."

'Ydych chi wedi gweld pa mor dlws ydy gonorea?!'

Cwestiwn annisgwyl ond dyna'n union sut mae disgrifio gwaith crosio Laura Cameron sy'n creu modelau mewn gwlân a ffelt lliwgar o facteria, heintiau ac organau'r corff.

Byddai nifer yn cysylltu gwaith crosio gyda blancedi neu addurniadau traddodiadol, ond mae Laura yn mwynhau mynd ar drywydd gwahanol.

Mae'n hoffi rhoi "tro sinistr" i'w gwaith: afiechydon rhyw a bacteria fel colera a teiffoid mewn dysglau Petri, calonnau ac ysgyfaint wedi eu fframio neu benglogau ar gyfer Calan Gaeaf.

Yn wreiddiol o Gaeredin ond yn byw yng Nghaernarfon gyda'i gŵr, Iolo, ers dros ddegawd, mae ei gwaith yn adlewyrchu ei diddordeb mewn meddygaeth a'i harbenigedd mewn iechyd cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Laura Cameron
Disgrifiad o’r llun,

'Casgliad San Ffolant': tri haint sy'n cael ei drosglwyddo yn rhywiol mewn dysglau Petri: clamydia, siffilis a gonorea

Wedi hyfforddi yn wreiddiol fel deietegydd a maethydd a graddio mewn iechyd cyhoeddus, mae hi newydd ennill gradd MSc yn y maes hefyd.

"Mae hynny'n sicr wedi dylanwadu ar fy ngwaith. Ro'n i'n mynd i'r cyfeiriad yna beth bynnag ond dwi wedi ymgorffori llawer mwy o themâu meddygol a microbioleg yn fy ngwaith ers dechrau astudio iechyd cyhoeddus eto.

"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn meddygaeth a hanes meddygaeth yn arbennig, ond dwi'n llawer rhy squeamish i astudio meddygaeth.

"Job fy mreuddwydion fyddai patholegydd ond dwi wastad wedi gwybod na fyddwn i'n gallu gwneud y swydd oherwydd hynny.

"Felly dyma fy ffordd i o astudio organau, ffisioleg ac anatomeg mewn ffordd mwy tactile… mae'n cael gwared â'r stwff gludiog, yr arogleuon a'r gwaed ac yn ffordd o ddangos strwythur anhygoel y galon neu'r ysgyfaint - unrhyw beth sy'n guddiedig y tu mewn, dwi eisiau cael golwg well arno - ond dwi ddim eisiau'r gwaed a'r llanast!"

Ffynhonnell y llun, Laura Cameron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura wedi synnu faint o bobl sydd wedi prynu ei broetsys calon yn anrheg i bobl sydd â phroblemau ar eu calon

Ymateb

Mae Laura yn gwerthu ei gwaith mewn orielau a dros y we ond hefyd mewn ffeiriau crefft.

Mae'n hoffi pan mae pobl yn gweld ei gwaith a meddwl ei fod yn hardd neu eisiau ei gyffwrdd ac yna'n sylweddoli beth ydi o.

"Dwi wrth fy modd pan mae pobl yn ymateb yn y ffordd yna; maen nhw eisiau ei gyffwrdd ond yna'n sylweddoli ei fod yn rhywbeth rhyfedd. Neu maen nhw'n edrych ar y gwaith ac yn dweud 'O, dyna dlws' ac yna'n sylweddoli mai fersiynau enfawr o E.coli neu golera ydyn nhw!"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae hi'n caru lliw ac mae hynny'n ffordd arall o greu darnau sy'n edrych yn atyniadol, ond mewn gwirionedd yn bethau fydden ni ddim yn eu hystyried yn apelgar fel arfer.

"Dwi wedi trio eu gwneud nhw mewn gwlân lliwgar fel eu bod nhw'n brydferth; dwi wedi gwneud gonorea yn dlws ac yn lliwgar neis ac mae hynny'n dechrau sgyrsiau diddorol, 'Ydych chi wedi gweld pa mor dlws ydy gonorea?!'

"Dydy o ddim i bawb ond mae nyrsys iechyd rhyw yn bendant yn ei werthfawrogi. A dwi eisiau gwneud pethau sy'n synnu pobl ond ddim yn eu ffieiddio.

Ffynhonnell y llun, Laura Cameron
Disgrifiad o’r llun,

Fersiynau Laura o'r feirws variola sy'n achosi'r frech wen

"Dwi eisiau dal eu diddordeb pobl a'u bod nhw wrth eu bodd pan maen nhw'n ei weld - mae rhai pobl ddim yn eu hoffi o gwbl a mae hynny'n iawn, dydi o ddim iddyn nhw, ond dwi eisiau i bethau fod yn dlws a diddorol achos dyna sut maen nhw mewn natur."

Pwy yw'r cwsmer?

Felly pa fath o bobl sy'n prynu'r gwaith?

Mae'n farchnad ryfedd, cyfaddefa' Laura, â llawer o'i chwsmeriaid yn gweithio yn y proffesiwn meddygol: cardiolegwyr, niwrolegwyr a nyrsys.

"Dwi'n gwneud lot o STIs am eu bod nhw'n ddiddorol ac yn dechrau sgwrs - dwi'n credu bod siffilis yn ddiddorol iawn oherwydd hanes yr afiechyd a'r pathogen ei hun a'r ffyrdd rhyfedd o'i wella dros y blynyddoedd - mae 'na lot o hanes meddygol iddo.

"Un peth doeddwn i ddim wedi ei ddisgwyl oedd y byddai lot o bobl yn prynu'r broetsys calon dwi'n eu gwneud am bod ganddyn nhw broblem neu ddiffyg ar eu calon, neu'n eu prynu i rywun arall sydd â'r cyflyrau hynny; mae hwnna'n anrheg rhyfedd i ystyried ei roi. Ond mae pobl yn.

Ffynhonnell y llun, Laura Cameron

"Mae rhywun wedi gofyn imi wneud ysgyfaint ar gyfer rhywun gyda ffeibrosis systig - mae pobl yn cael eu tynnu at gyflyrau sydd ganddyn nhw neu rai maen nhw'n gweithio gyda nhw.

"Fe wnaeth un cardiolegydd brynu calon werdd mewn steil voodoo wedi ei fframio, oedd wedi eu ticlo, a dwi wedi cael ambell gomisiwn i newrowyddonydd oedd yn ymddeol.

"Fe wnaeth rhywun arall brynu bacteria perfedd am eu bod nhw'n gweithio yn y maes mewn labordy, ac mae swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi gofyn i mi wneud pethau fel E.coli.

"Hefyd pobl fel fi sydd â diddordeb mewn hanes meddygaeth, anatomi a phethau ychydig yn wahanol."

Bwyd ffug

"Ond dwi yn gwneud pethau neis hefyd! Dwi'n gwneud lot o fins peis ac addurniadau."

Ffynhonnell y llun, Laura Cameron
Disgrifiad o’r llun,

Gwneud bwyd allan o wlân a ffelt wnaeth gychwyn yr holl beth i Laura

Ei hoffter o fwyd ffug wnaeth ei hysgogi i ddysgu crosio a ffeltio nodwydd yn y lle cyntaf; fe ddysgodd ei hun drwy lyfrau a fideos ar y we a dechrau gwneud cacennau a bwyd.

Symudodd ymlaen i wneud pennau anifeiliaid, tacsidermi ffug, ond roedd mwy a mwy o bobl eraill yn gwneud pethau tebyg a'r farchnad ddim beth roedd hi wedi ei ddisgwyl.

"Roedd llawer o bobl yn eu prynu ar gyfer llofftydd plant, rhywbeth nad oeddwn i'n ei ddisgwyl o gwbl," meddai Laura.

"Ro'n i'n falch iawn bod pobl yn eu hoffi ond doeddwn i erioed wedi meddwl amdanyn nhw fel cynnyrch ar gyfer plant, ac roedd yn fy synnu braidd.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan laura_lostinthewood

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan laura_lostinthewood

"Falle dyna pam symudes i ffwrdd o hynny ryw ychydig. Ro'n i eisiau gwneud rhywbeth mwy anarferol, gydag ychydig o dro sinistr iddo."

Gyda'r bwriad yn wreiddiol o gael swydd "synhwyrol" ar ôl ei gradd uwch mewn iechyd cyhoeddus, mae hi bellach yn pwyso a mesur pa lwybr i'w gymryd.

"Dwi wir yn mwynhau y celf ar y funud ac yn teimlo mod i'n creu niche i fy hun… efallai bydda i'n meddwl am wneud swydd ond dwi ddim eisiau rhoi'r gorau i gelf chwaith."

Mae'n gobeithio y gall ei gwaith celf gyd-fynd gydag egwyddorion iechyd cyhoeddus, sef codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth i geisio atal afiechydon.

"Dwi wrth fy modd yn gwneud y darnau meddygol, dydyn nhw'n sicr ddim yn gonfensiynol… ond dwi ddim eisiau mynd mewn i rigol… dwi'n trio gwneud gwahanol fathau o waith hefyd - mae'n rhaid i chi ddiddanu eich hun hefyd."

Ac mae ganddi ddigon o syniadau newydd ar y gweill; casgliad botanegol o blanhigion od gyda llygaid neu dentaclau fel octopws, planhigion gwenwynig, gwenyn, trosedd, gwrachyddiaeth, caws llyffant.

"Pethau diddorol ond tlws… chwareus ond gydag ochr sinistr," meddai.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig