Llywydd y Senedd ddim yn mynychu coroni'r Brenin Charles

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru/Welsh Parliament.
Disgrifiad o’r llun,

Croesawodd Elin Jones y Brenin Charles ar ei ymweliad cyntaf â'r Senedd fel brenin fis Medi diwethaf

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi dweud na fydd hi'n mynychu digwyddiad coroni Brenin Charles III ddydd Sadwrn.

Dywedodd AS Plaid Cymru "fel gweriniaethwraig, teimlaf mai rhywbeth i eraill yw dathlu'r coroni".

Bydd y Dirprwy Lywydd a'r Aelod o'r Senedd Llafur David Rees yn cynrychioli'r Senedd yn y seremoni yn Abaty San Steffan.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford, sydd hefyd yn weriniaethwr, yno ar ran Llywodraeth Cymru. Ni fydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn bresennol.

'Dymuno'n dda i'r pâr brenhinol'

Mewn datganiad, dywedodd y Llywydd: "Rwyf wedi penderfynu na fyddaf yn mynychu'r coroni.

"Bydd y Senedd yn cael ei chynrychioli gan y Dirprwy Lywydd.

"Fel Llywydd, rwyf wedi ymgymryd yn llawn â phob dyletswydd cyfansoddiadol gyda phennaeth y wladwriaeth a byddaf yn parhau i wneud hynny.

"Serch hyn, fel gweriniaethwraig, teimlaf mai rhywbeth i eraill yw dathlu'r coroni.

"Rwy'n dymuno'n dda i'r pâr brenhinol yn eu blynyddoedd o wasanaeth."

Ffynhonnell y llun, Dan Kitwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaeth y Coroni yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster ddydd Sadwrn

Dywedodd AS Llafur a'r cyn-weinidog Alun Davies ei fod yn "siomedig iawn" gyda phenderfyniad Ms Jones, gan ddweud nad oedd "yno i arfer ei rhagfarnau ei hun ond i gynrychioli ein senedd gyfan a'n cenedl".

Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig ei phenderfyniad yn "siomedig iawn" hefyd, ac fe gadarnhaodd eu harweinydd yn y Senedd Andrew RT Davies y byddai yno ddydd Sadwrn.

"Allan o ganolfan alwadau yn Nantgarw, fe sefydlodd y Brenin Charles III, fel Tywysog Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog - elusen sy'n darparu cefnogaeth a chyfleoedd, gan helpu dros filiwn o bobl ifanc," meddai.

"Rwy'n gwybod ei fod yn dal Cymru yn agos at ei galon ac y bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod ei deyrnasiad fel brenin."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y bydd yn mynychu'r coroni "fel prif weinidog Cymru" ac nid mewn capasiti personol

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Iau nad oedd wedi ystyried peidio mynychu'r coroni, er ei fod yntau yn weriniaethwr.

"Dydw i ddim yno ar fy rhan fy hun. Rydw i yno fel Prif Weinidog Cymru," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn gweld seremoni goroni sy'n "adlewyrchu amrywiaeth y Deyrnas Unedig yn llawn".

"Am y tro cyntaf bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed fel rhan o'r seremoni, bydd cerddoriaeth newydd wedi'i gyfansoddi yng Nghymru, a bydd perfformwyr o Gymru yno.

"O'i gymharu â digwyddiadau'r gorffennol, rwy'n gobeithio y bydd pobl yng Nghymru sy'n cymryd diddordeb yn gweld Cymru gyfoes yn cael ei hadlewyrchu yn y ffordd y bydd y seremoni'n cael ei chyflwyno.

Cymru 'yn flaenllaw'

Ddydd Mawrth, dywedodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, ei phrif gynghorydd cyfreithiol, Mick Antoniw, y byddai Cymru "yn flaenllaw" yn y coroni, gyda Chroes Cymru newydd yn arwain yr orymdaith.

Yn anrheg gan y Brenin i'r Eglwys yng Nghymru, mae'r groes wedi'i gwneud o ddeunyddiau Cymreig fel llechi, pren wedi'i adennill ac arian o'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.

Mae'n cynnwys crair o'r Gwir Groes - y dywedir ei bod o'r groes y croeshoeliwyd Iesu arni - a roddwyd i'r Brenin Charles gan y Pab Ffransis.

Dywedodd Mr Antoniw wrth y Senedd y bydd y digwyddiad yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig a cherddorion Cymreig.

Bydd y bariton-bas byd enwog Syr Bryn Terfel yn canu darn newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor, a hynny yn Gymraeg.

Pynciau cysylltiedig