Ryseitiau garlleg gwyllt Rhian Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Garlleg gwylltFfynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Garlleg gwyllt

Os ydych chi wedi bod am dro ger coedwig yn ddiweddar ac wedi arogli garlleg yn yr aer yna mi fydd o'n siŵr o fod yn dod o'r garlleg gwyllt fydd yn tyfu ger llaw.

Mae'n blanhigyn hawdd i'w adnabod - yn bennaf oherwydd ei arogl, ond hefyd am ei ddail hir sy'n dod i bigyn, a'i glwstwr o flodau bach gwyn.

Mae'r cyfan o'r planhigyn y fwytadwy ond be' allwch chi wneud efo fo tybed? Dyma rai awgrymiadau blasus gan y cogydd Rhian Cadwaladr:

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Cadwaladr

Pesto Cnau Ffrengig

Cynhwysion

25g cnau Ffrengig (walnuts)

40g dail garlleg gwyllt wedi eu golchi'n drwyadl

25g caws parmesan wedi gratio

3 llwy fawr o olew olewydd

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Pesto Cnau Ffrengig

Dull

• Rhowch y cyfan mewn prosesydd bwyd bach neu defnyddiwch bestl a morter a pwnio'n dda. Ychwanegwch yr olew ar ôl malu popeth yn fân

• Gallwch ei daenu drwy ddysgl o basta ar ben ei hun neu efo madarch a chyw iâr, neu unrhywbeth arall sydd at eich dant

Cawl garlleg gwyllt a chennin

Cynhwysion (digon i 4)

200g cennin (1 cenhinen fawr) wedi ei olchi a'i dorri'n cylchoedd tenau

50g dail garlleg gwyllt wedi ei olchi'n drwyadl a'i dorri'n ddarnau

1 daten ganolig wedi ei phlicio a'i thorri'n giwbiau bach

1 llwy fwrdd o olew neu lwmp o fenyn

800ml stoc

Halen a phupur

Blodau garlleg gwyllt i addurno

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Cawl garlleg gwyllt a chennin

Dull

• Toddwch y menyn neu cynheswch yr olew mewn sosban fawr

• Ychwanegwch y cennin a'r tatws. Rhowch gaead ar y sosban a throi y gwres i lawr a choginiwch nes fod y cennin wedi meddalu. Cadwch lygaid manwl arno a'i droi bob hyn a hyn rhag i'r tatws lynu i waelod y sosban

• Ychwanegwch y stoc a choginiwch am oddeutu deg munud nes fod y tatws wedi meddalu

• Ychwanegwch y dail garlleg a choginwich am ddau funud arall nes fod y dail wedi gwywo

• Blitswch y cyfan gyda blendar

• Ychwanegwch halen a phupur at eich dant

• Addurnwch gyda blodau garlleg gwyllt

Risotto madarch a garlleg gwyllt

Cynhwysion (digon i 2 blatiad mawr neu 4 bach)

30g madarch wedi sychu

1 nionyn bach wedi ei falu'n fân

1 llwy fwrdd o olew

100g madarch

150 reis risotto (arborio)

800ml stoc

60g dail garlleg gwyllt wedi eu golchi'n drwyadl a'u torri'n ddarnau

Crafiadau o gaws parmesan

Blodau garlleg gwyllt i addurno

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Risotto madarch a garlleg gwyllt

Dull

• Rhowch y madarch wedi sychu mewn 300ml o ddŵr berw a'i adael am 30 munud

• Rhowch lwyaid fawr o olew mewn padell fawr (neu sosban) a ffrio'r nionyn ynddo dros wres cymhedrol nes ei fod wedi dechrau meddalu

• Gwasgwch y dŵr o'r madarch sych ac ychwanegu'r dŵr at yr 800ml o stoc mewn sosban. Dewch â foi'r berw a'i adael i ffrwtian ar wres isel

• Ychwanegwch y madarch ffres a sych at y nionod a'u coginio nes fod popeth wedi coginio

• Trowch y gwres i lawr ac ychwanegwch y reis. Coginiwch am ryw funud neu ddau nes bod y reis wedi amsugno unrhyw olew fydd ar ôl

• Fesul llond llwy fawr, a gan ei droi yn gyson, rhowch y stoc yn y risotto nes fod y reis wedi coginio al dente - hynny yw dal efo ychydig o frath iddo fo a ddim yn slwtsh. Dylai y risotto fod yn hufenog a reit wlyb

• Ychwanegwch y dail garlleg gwyllt a throi y risotto nes fod y dail wedi gwywo

• Ychwanegwch bupur a halen yn ôl eich dant

• Rhowch y crafiadau o barmesan dros y risotto

• Tasgwch flodau y garlleg gwyllt dros y cyfan

Menyn garlleg gwyllt

Os oes ganddoch chi dwmpath o ddail ar ôl dyma ffordd dda o'i rewi

Cynhwysion

250 menyn hallt wedi ei feddalu

30g dail garlleg gwyllt wedi eu golchi'n drwyadl a'u torri'n fân

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Menyn garlleg gwyllt

Dull

• Mewn powlen fawr pwniwch y dail garlleg i fewn i'r menyn efo cefn llwy

• Rhowch haen o bapur pobi ar y bwrdd

• Rholiwch y menyn yn siap sosej mawr a'i osod ar y papur

• Lapiwch y papur o'i amgylch yn dynn gan droelli y ddau ben (gallwch ddefnyddio 2 haen o gling film os nad oes ganddoch chi bapur pobi)

• Rhowch o yn y rhewgell a thorri darnau ohono fel y bo'r angen. (Mi fydda i yn ei gadw mewn bag rhewgell)

• Mae'n hyfryd efo tatws newydd neu stêc

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ambell syniad arall...

• Cymysgwch ddail garlleg gwyllt drwy ŵy wedi ei sgramblo

• Defnyddiwch y dail ifanc a'r blodau mewn salad

• Rhowch y dail mewn saws chimichurri

• Cymysgwch y dail wedi eu malu'n fân efo caws meddal, rhowch hollt mewn brêst cyw iâr a'i lenwi efo'r caws. Lapiwch y cyw iâr mewn ham Parma neu gig moch a'i goginio mewn popty cymedrol am tua 25 munud nes fod y cyw iâr yn barod

Ewch i gael blas ar:

Pynciau cysylltiedig