Holl garfan CPD Derwyddon Cefn yn gadael y clwb
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwyr a chwaraewyr Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn wedi cyhoeddi eu bod i gyd yn gadael y clwb yn sgil honiadau bod cyflogau yn ddyledus iddynt.
Er bod y clwb wedi gorffen yn seithfed yn y Cymru North eleni, maen nhw dan embargo trosglwyddiadau ac roedden nhw ond wedi gallu dewis tîm o naw chwaraewr ar gyfer eu gêm olaf o'r tymor.
Wrth ymateb i ddatganiad gan y chwaraewyr a'r hyfforddwyr dywedodd cadeirydd y clwb, Des Williams, ei fod wedi ei "dristáu".
"Rwy'n bersonol yn drist eu bod wedi cymryd y camau hyn ac wedi gwneud sylwadau sy'n anghywir ac yn ymgais bwriadol i daflu cysgod dros y clwb a minnau," meddai Williams.
"Dwi wedi bod yn ffyddlon i'r chwaraewyr a'r rheolwyr ac wedi caniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'r swydd dan sylw.
"Rwy'n ffeindio fy hun yn darged hawdd i'r rhai sy'n anhapus ac yn dymuno lleisio'u barn yn gyhoeddus, waeth beth fo'r gwir neu'r canlyniadau."
Ychwanegodd y byddai'r datganiad a'r materion a godwyd yn cael sylw "dros y dyddiau nesaf".
Embargo trosglwyddiadau
Ymhlith un o glybiau mwyaf hanesyddol ac arwyddocaol Cymru, chwaraeodd y Derwyddon yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Europa mor ddiweddar â 2018.
Ond collodd y clwb o ardal Wrecsam eu lle ym mhrif haen pêl-droed Cymru ar ddiwedd tymor 2021-22, ar ôl gorffen ar y gwaelod gydag ond dwy fuddugoliaeth.
Fis Ionawr cafodd y Derwyddon eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr am ddwy ffenestr drosglwyddo ar ôl cael eu cyhuddo o dorri canllawiau trosglwyddo Fifa y tymor blaenorol.
Roedd y rheolwr, Neil Ashton, ond wedi gallu enwi naw chwaraewr ar gyfer eu gêm gynghrair olaf o'r tymor ym mis Ebrill wrth iddyn nhw golli o 8-0 yn erbyn Prestatyn.
Mae'r clwb wedi derbyn trwydded ail haen ar gyfer y tymor nesaf, ond mae ansicrwydd dros hynny bellach wedi i'r garfan adael.
"Mae yna lawer o bobl dda o fewn y clwb, ond nid dyma'r clwb rydyn ni i gyd wedi arwyddo ar ei gyfer ac eisiau bod yn rhan ohono," meddai datganiad ar ran y chwaraewyr.
"Dechreuodd y tymor gyda chwaraewyr newydd a gobeithion uchel o sicrhau dyrchafiad, fe wnaethon ni recriwtio'n dda ac roedden ni'n teimlo y gallen ni herio tua'r brig.
"Yn anffodus doedd pethau tu ôl i'r llenni ddim yn adlewyrchu'r hyn roedd y chwaraewyr yn ei wneud ar y cae.
"Roedd diffyg cit hyfforddi yn golygu ein bod ni'n edrych yn debycach i dîm cynghrair Sul na Chymru North.
"Mae'r tymor bellach ar ben a gyda'n gilydd byddwn ni gyd yn gadael Derwyddon Cefn.
"Mae'n sefyllfa drist ond ni allwn ni, fel grŵp, oddef y driniaeth rydyn ni wedi'i chael ac yna mynd yn ôl eto am fwy y tymor nesaf.
"Yn anffodus mae'r clwb wedi gohirio taliadau hyd yma, gyda llawer ohonon ni'n dal i aros am dros bythefnos o gyflog a hynny bron i dair wythnos ers i'r tymor ddod i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018