Dod o hyd i gorff morfil ar draeth ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth tîm achub o hyd i forfil 10m o hyd wedi ei olchi i'r lan ar draeth ym Mhen Llŷn fore Llun.
Dywedodd gwylwyr y glannau Abersoch eu bod wedi eu galw i draeth Porth Neigwl tua 08:50.
Mae arbenigwyr yn credu mai morfil pensgwar (sperm whale) ifanc gafodd ei ddarganfod, a'i fod dan ei bwysau.
Fe gafodd corff morfil arall ei ddarganfod ar draeth yn yr Alban dros y penwythnos hefyd.
"Am 08:51 y bore [ddydd Llun] fe gafon ni ein rhoi ar dasg ar ôl i forfil gael ei weld ar draeth Porth Neigwl," dywedodd tîm achub gwylwyr y glannau Abersoch.
"Unwaith y gwnaethon ni ei ddarganfod, fe wnaethon ni gyfeirio tîm Deifwyr Achub Bywyd Morol Prydeinig i'r clogwyn, a gwnaethon nhw gadarnhau fod y morfil wedi marw."
Dywedodd y tîm nad oedden nhw wedi gallu symud y morfil ddydd Llun oherwydd y llanw uchel.
Dywedon na ddylai unrhyw un fynd yn agos ato.
Ychwanegodd Mat Westfield, Cydlynydd Cymru o fewn Rhaglen Ymchwilio i Linynnau Morfilod y DU, fod y morfil dan bwysau ac yn ymddangos fel nad oedd wedi bwyta ers amser hir.
"Roedd o'n sâl iawn pan gafodd ei olchi i'r lan," dywedodd.
"Yr adroddiadau cyntaf oedd ei fod yn dal yn fyw ar y pwynt hwnnw ond ei fod wedi marw'n sydyn."
Dywedodd y bydd archwiliad post mortem yn digwydd fore Mercher, gyda Chyngor Gwynedd a Gwylwyr y Glannau yn cydweithio â'r tîm i sefydlu cynllun i symud y corff.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019