Canfod corff morfil pensgwar ar draeth ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Morfil pensgwar Porth NeigwlFfynhonnell y llun, BDMLR

Mae corff morfil pensgwar (sperm whale) ifanc wedi cael ei ddarganfod ar draeth yng Ngwynedd.

Daeth i'r fei ym Mhorth Neigwl, ger Abersoch ddydd Mawrth.

Mae Cymdeithas Sŵolegol Llundain yn cynnal archwiliad post-mortem brynhawn Mercher i geisio cadarnhau sut y bu farw.

Dywed y Gymdeithas bod hi'n anarferol iawn i weld morfil ifanc o'r fath ar hyd arfordir y DU, a bod hwn o bosib ond yr ail i gael ei gofnodi yma erioed a'r cyntaf yng Nghymru.

Mae mamau a'u lloi fel arfer yn cael eu gweld ymhellach tua'r de, yn agosach at lefydd fel Ynysoedd yr Azores ym Môr Iwerydd.

Disgrifiad,

Ceri Morris o Gyfoeth Naturiol Cymru

Mae Ceri Morris yn arbenigwr ar famaliaid y môr ac yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd: "Fe wnaeth y morfil droi fyny ar y traeth brynhawn ddoe ac roedd dal yn fyw.

"Mae 'na bost-mortem yn digwydd rŵan ar y morfil i weld sut y gwnaeth farw ac i weld beth oedd yn bod arno.

"Hyd yn hyn mae'n edrych yn eithaf tenau, mae'n ifanc, dim ond llo bach a dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer ar hyn o bryd."