Codi arian i hosbis fel Tŷ Bryngwyn yn 'gymaint o help'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe gadwodd Annmarie Thomas ei haddewid i'w brawd i gefnogi'r hosbis a roddodd ofal iddo cyn ei farwolaeth y llynedd

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod maint yr arian a gafodd ei godi yn ystod y pandemig er mwyn rhoi mwy o help i'r gwasanaeth iechyd, cleifion a chymunedau wedi torri pob record.

Yn ôl NHS Charities Together, sy'n cynrychioli dros 230 o elusennau'r GIG ar draws y DU, fe gafodd £160m ei godi mewn ymateb i'w hapêl Covid.

£2,974,408 yw cyfanswm y grantiau yng Nghymru hyd yn hyn, ac maen nhw wedi cyfrannu at ariannu dros 400 o brosiectau ar draws Cymru.

Mae hosbis yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael bron i £17,000 gan deulu dyn fu farw o ganser wedi tanlinellu gymaint o help yw arian y cyhoedd i elusennau'r GIG.

Yn ei ddyddiau olaf fe gafodd David Lewis, o bentref Llannon ger Llanelli, ofal yn Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli, a'i ddymuniad oedd bod ei deulu'n parhau i godi arian.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw David ar ôl cael canser yr ysgyfaint ac fe gafodd ofal yn Hosbis Tŷ Bryngwyn

Fe gafodd ddiagnosis o ganser yn 16 oed, ond ar ôl triniaeth fe fu'n glir o'r salwch tan iddo ddychwelyd fis Medi 2021.

Bu'n sâl am naw mis â chanser yr ysgyfaint, a doedd dim gwella y tro hwnnw. Bu farw'n 54 oed.

"Buodd e gyda ni am tua naw mis ar ôl y diagnosis," meddai ei chwaer, Annmarie Thomas.

"Doedd David ddim yn drist trwy ei salwch yn gyfan ond, pan ddaeth e fan hyn, roedd dagrau yn ei lygaid pan welodd y cyfleusterau a'r ardd hyfryd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth chwaer David, Annmarie Thomas, wrando ar ei ddymuniad i godi arian i'r hosbis

Mae codi arian wedi bod yn rhan o fywyd y teulu amaethyddol ers degawdau oherwydd salwch David a chyn iddo farw roedd ganddo neges bwysig i'w chwaer: "Gwna di yn siŵr bo ti'n dal i godi arian yn fy enw i er mwyn helpu Tŷ Bryngwyn."

Roedd y gymuned gyfan yn awyddus i helpu a phobl yn hael yn ymateb i'r apêl i gofio am y ffermwr lleol poblogaidd - Dai Coed Cyw, fel oedd e'n cael ei 'nabod yn yr ardal.

"Mae e wedi bod yn gyfnod emosiynol iawn," medd Annmarie, "ond bydde David yn hapus iawn a ninne' wedi codi bron i £17,000, ac ma' Tŷ Bryngwyn mor ddiolchgar."

Roedd cefnogaeth fawr yn lleol i ddigwyddiadau codi arian fel taith elusennau tractor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis, nai David, wedi bod yn helpu gyda'r gwaith codi arian i'r hosbis

Yn ôl un o'r trefnwyr, Ioan Harries o Glwb Ffermwyr Ifanc Llannon, roedd pobl eisiau cefnogi "er cof am Dai, gan ei fod e'n aelod ffyddlon a phoblogaidd o'r clwb, ond hefyd am fod llawer o deuluoedd o'r ardal wedi cael help gan Tŷ Bryngwyn.

"Mae yr hosbis wir yn godsend i bobl rownd ffor' hyn," ychwanegodd.

Roedd pobl o bob oed yn rhan o'r ymgyrch i godi arian, gan gynnwys ei nai, Lewis, sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Maes y Gwendraeth. Roedd e a'i wncwl Dai yn ffrindie' mawr.

"Roedd wncwl fi wedi marw yn hosbis Tŷ Bryngwyn a n'ethon ni ofyn i'r WI os bydde' nhw'n fodlon gwau cywion bach a bues i yn helpu hefyd... a wedyn gwerthu nhw."

'Help ar adeg sy'n galed'

Mae staff yr hosbis yn gwerthfawrogi'r arian ychwanegol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arian y cyhoedd, medd Owain Prys Thomas, yn help i sicrhau cyfleusterau gwell mewn cyfnod anodd i gleifion a'u teuluoedd

Dywedodd Owain Prys Thomas, ymgynghorydd meddygaeth lliniarol yn Hosbis Tŷ Bryngwyn: "Mae y gefnogaeth gan elusennau fel Apêl Hosbis Tŷ Bryngwyn sydd wedi codi'r arian i adeiladu'r hosbis a dal yn cyfrannu'n helaeth, a hefyd elusen y gwasanaeth iechyd, yn werthfawr tu hwnt.

"Mae'r Llywodraeth yn rhoi arian ar gyfer pethe' sydd yn greiddiol yn y gwasanaeth ond mae arian y cyhoedd yn helpu i roi cyfleusterau gwell i gleifion a'u teuluoedd ar adeg sy'n gallu bod yn galed iawn."

Gyda help cyfraniadau elusennol mae'r hosbis wedi cwblhau prosiectau fel moderneiddio'r dderbynfa a chyflwyno cyrsiau hyfforddi staff.

Sut mae arian apêl NHS Charities Together wedi ei wario yng Nghymru hyd yma?

  • 20% ar lefydd gorffwys a llesiant ar gyfer staff a chleifion;

  • 20% ar offer;

  • 17% ar raglenni a gwasanaethau;

  • 13% ar adnoddau digidol;

  • 12% ar addysg a hyfforddiant;

  • 9% ar gynlluniau llesiant eraill; a

  • 3% ar ragnodi cymunedol.

Yn ôl Derlys Jones, sy'n nyrs arweiniol clinigol gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'r help gan y gymuned yn gwneud i'r "staff deimlo yn falch iawn am be' ma' ni'n neud, ac o'r gwahaniaeth ni gallu 'neud".

Mae codi arian yn ffordd i deuluoedd a ffrindiau ddiolch am y gofal, ond mae rhoddion elusennol hefyd yn golygu fod staff ac ysbytai'n gallu sicrhau'r gofal gorau posib, a hynny ar adegau digon anodd.