Pryder am yr angen i gael cardiau adnabod i bleidleisio
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryderon y bydd yr angen i bleidleiswyr gyflwyno llun adnabod cyn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn ei gwneud hi'n anoddach i rai pobl yng Nghymru i fwrw eu pleidlais.
Yr wythnos ddiwethaf, am y tro cyntaf, roedd pleidleiswyr yn Lloegr wedi gorfod dangos dogfen fel pasbort neu drwydded yrru er mwyn cael dweud eu dweud.
Ond roedd y rheolau newydd yn golygu bod rhai wedi methu â phleidleisio.
Er na fydd rhaid dangos y ddogfen ar gyfer etholiadau'r Senedd nag etholiadau lleol Cymru, mi fydd y newid yn effeithio ar etholiadau seneddol y Deyrnas Unedig ac etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn cyflwyno'r newid i atal twyll etholiadol.
Ond mae yna bryder y bydd nifer yn colli allan ar y cyfle i bleidleisio oherwydd diffyg dogfen adnabod.
Mae Dr Nia Thomas o Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn poeni am y "darlun pryderus" o'r etholiadau lleol diweddar yn Lloegr, ac yn dweud ein bod yn debygol o weld pobl yn cael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio yng Nghymru hefyd.
"Rydyn ni wedi clywed llawer o adroddiadau o bobl yn cael eu troi i ffwrdd am nad oes ganddyn nhw'r dogfennau cywir," meddai.
"Mae pobl fel plismyn wedi troi i fyny gyda'u cardiau gwarant, staff y GIG gyda'u llun ffotograffig GIG.
"Nid yw'r rhain yn dderbyniol felly mae'r bobl hynny wedi cael eu troi i ffwrdd".
Mae'n "frawychus" yn ôl Emily-Nicole Roberts, sy'n defnyddio cadair olwyn.
Mae hi'n dweud bod unrhyw rwystrau ychwanegol pan fyddwch yn anabl, yn debygol o olygu y bydd rhai yn penderfynu peidio â phleidleisio.
"Ar gyfer rhywbeth fel etholiad cyffredinol, mae mor bwysig i bobl deimlo eu bod yn gallu pleidleisio ynddo," meddai.
"Ac os yw'r ddeddfwriaeth newydd hon yn ei gwneud yn anoddach i bobl, yna mae hynny'n beth eithaf brawychus.
"Roeddwn yn siarad â ffrind i mi - mae ganddo nam ar y golwg - ddywedodd wrtha i nad yw'n hawdd iawn iddo gael ID, nad ydy o'n hawdd iawn iddo fynd ar-lein.
"Does ganddo ddim trwydded gyrru am resymau amlwg."
'Problem sydd ddim yn bodoli'
Mae Gwenno Robinson, 20 oed o Abertawe, yn astudio gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.
"Fi'n deall be' maen nhw'n trio gwneud ond mae e'n ymddangos fel cam yn y cyfeiriad anghywir," meddai.
Er bod Gwenno yn derbyn y ddadl bod angen atal twyll etholiadol, mae hi o'r farn bod y llywodraeth yn "creu môr a mynydd o broblem sydd ddim yn bodoli".
Ar sail yr ymchwil sy'n bodoli, meddai, y pryder yw mai grwpiau incwm isel a grwpiau o gefndiroedd lleiafrifol fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newid yn y polisi.
"Hynny yw, pobl sydd ddim yn cael eu llais nhw wedi'u clywed yn gymdeithasol," meddai.
Mae Orla Tarn, sy'n llywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymru, yn poeni y gallai'r rheolau newydd effeithio ar y rhai sydd eisoes yn llai tebygol o bleidleisio.
"Mae myfyrwyr trawsryweddol, myfyrwyr anneuaidd a myfyrwyr nad ydynt yn cydymffurfio â rhyw yn llai tebygol o fod a cherdyn adnabod sydd efo'r enw cywir a marciwr rhyw cywir, a hyd yn oed llun cywir," meddai.
"Efallai y byddan nhw'n cael eu gwrthod, hyd yn oed gyda'r llun adnabod cywir, gan nad yw'n cyd-fynd â'u cyflwyniad presennol."
'Gwarchod hygrededd'
Ond mae'n bwysig "gwarchod hygrededd ein system etholiadol," yn ôl Sian Jones, cyn-ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth y DU.
"Mae'n rhaid i chi ddangos ID pan fyddwch chi'n codi parsel. Roedd rhaid i mi ddangos ID pan es i i'r domen sbwriel y diwrnod o'r blaen.
"Felly dyw hi ddim yn syndod mewn gwirionedd bod y llywodraeth, pan mae hi'n dod i rywbeth mor bwysig â phleidleisio, eisiau amddiffyn hygrededd y system etholiadol a diogelu rhag y posibilrwydd o dwyll."
Wrth siarad yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth honnodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod hyn yn "rhan o agenda bwriadol gan y Llywodraeth Geidwadol i atal pleidleiswyr".
"Maen nhw'n meddwl y gallan nhw ennill etholiadau drwy ddysgu'r gwersi gan y dde eithafol yn yr Unol Daleithiau, a hynny er mwyn ei gwneud hi'n anoddach i bobl sydd efallai ddim yn eu cefnogi i fwrw eu pleidlais," meddai.
Mae Mr Drakeford wedi rhoi "sicrwydd llwyr" na fydd ei lywodraeth o yn dilyn yr un trywydd ar gyfer etholiadau Cymru.
"Mae ein polisïau wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidlais, nid yn anoddach," meddai.
'Cadw ein democratiaeth yn ddiogel'
Ymysg y dogfennau sydd ei angen ar gyfer pleidleisio yw pasbort, trwydded gyrru a thocyn bws person hŷn neu anabl.
Caniateir dogfennau adnabod sydd wedi dyddio, cyn belled â bod y person yn edrych yr un peth.
Os nad oes gennych y dogfennau hyn gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ymlaen llaw, neu gofrestru i bleidleisio drwy'r post.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'n hanfodol ein bod yn cadw ein democratiaeth yn ddiogel, yn atal y potensial ar gyfer twyll etholiadol, ac yn dod â gweddill y DU yn unol â Gogledd Iwerddon, sydd wedi cael galw am ddogfennau adnabod i bleidleisio mewn etholiadau ers 2003."
58 miliwn pleidlais, un twyll
Ond mae Dr Nia Thomas yn dweud ei bod yn "sefyllfa sy'n edrych am broblem".
"Y tro diwethaf i'r etholiad hwn gael ei gynnal yn 2019, cafodd 58 miliwn o bleidleisiau eu bwrw, a dim ond un person gafodd ei erlyn am dwyll.
"Ond ddydd Iau diwethaf, ym Maidstone - un ardal cyngor - fe welwyd dros 20 gwaith y nifer hwnnw yn cael eu troi i ffwrdd am beidio â chael y dogfennau cywir."
Mae Llywodraeth y DU nawr yn dweud y byddan nhw'n dadansoddi'r data a gasglwyd o'r etholiadau lleol yn Lloegr.
Ond eisoes mae galwadau i gynnwys mathau eraill o ID i'r rhestr a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021