Busnesau'n galw am gadw enw Saesneg Bannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd
Logo parc gyda'r enw'n ddwyieithog
Disgrifiad o’r llun,

Hen logo dwyieithog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae dros 50 o fusnesau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi mynnu y dylid cadw ei enw Saesneg - Brecon Beacons.

Maen nhw wedi ffurfio grŵp ymgyrchu ac yn dweud eu bod yn ystyried dwyn achos llys.

Dadl y grŵp yw fod busnesau lleol wedi treulio degawdau yn sicrhau bod yr ardal yn "hysbys yn fyd-eang fel cyrchfan i dwristiaid".

Mae awdurdod y parc wedi mynnu y gall bobl ddefnyddio pa bynnag enw maen nhw'n dymuno ar gyfer yr ardal.

Bwriad eu penderfyniad hwythau i flaenoriaethu'r enw Cymraeg yw hybu'r diwylliant a threftadaeth lleol.

Mae'n un o gyfres o newidiadau pellgyrhaeddol o ran sut fydd y parc yn cael ei reoli at y dyfodol er mwyn ceisio mynd i'r afael â heriau amgylcheddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y parc cenedlaethol ei ail-frandio gyda'i enw uniaith Gymraeg, Bannau Brycheiniog, fis diwethaf

Mae'r grŵp newydd o fusnesau - sy'n galw'i hun yn 'Our Bannau Brycheiniog / Brecon Beacons' - yn cynnwys busnesau mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys twristiaeth, ffermio, ynni, lletygarwch a manwerthu.

Maen nhw'n dweud eu bod yn falch o weithredu mewn cenedl ddwyieithog, ac yn credu "y dylai'r traddodiad yma gael ei warchod a'i barchu".

'Torri Deddf yr Iaith Gymraeg'

Maen nhw hefyd yn gofyn am gyngor cyfreithiol wrth ystyried prun ai i ddwyn achos yn yr Uchel Lys.

Byddai hwnnw'n dadlau bod ymdrech y parc i ailfrandio yn mynd yn groes i Ddeddf Iaith Gymraeg 1993, gyda'r grŵp yn dweud fod gorfodaeth ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i ymdrin â'r Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Mae'r grŵp wedi ysgrifennu llythyr agored at benaethiaid y parc yn galw arnyn nhw i "ailosod enw a brand dwyieithog y parc - Bannau Brycheiniog / Brecon Beacons".

Maen nhw'n honni bod nifer o'r rhai sydd ynghlwm â'r ymgyrch yn rhan hefyd o gynllun llysgenhadon y parc, a "chafon nhw ddim hyd yn oed unrhyw rybudd o'r prosiect ailenwi ac ailfrandio cyn iddo lansio ar 17 Ebrill".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwyn Morgans o'r farn fod y penderfyniad i gefnu ar yr enw Saesneg yn "nonsens"

Mae Arwyn Morgans yn rhedeg siopau cigydd yn Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt, ac yn deud fod y newid yn "nonsens".

"Ry'n ni gyd yn dependo ar y bobl yn dod i mewn. Yn yr haf maen nhw'n hanner ein busnes," meddai.

"Os y'n ni'n mynd i newid yr enw fel hyn a pheidio rhoi croeso i'r bobl hyn, ni'n mynd i ladd y gymuned, y ffermydd sydd rownd 'ma, ni'n mynd i ladd y bed and breakfasts.

"Mae'r enw yn bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Kilgallon yn credu fod cael enw Cymraeg yn unig yn "tanseilio" yr ardal

Mae Nigel Kilgallon yn rhedeg gwesty gwely a brecwast yn Aberhonddu, ac hefyd yn gynghorydd tref.

Dywedodd fod y penderfyniad i ddefnyddio'r enw Cymraeg yn unig yn dangos diffyg cysylltiad rhwng yr awdurdod sy'n rhedeg y parc cenedlaethol a'r gymuned leol.

"Gallwch chi alw fe'n trademark, neu'n ffordd o farchnata'r lle - mae'n hynny i gyd," meddai.

"Ond mae hefyd yn gartref i'r rheiny sy'n byw yma. Ein Bannau Brycheiniog.

"Felly mae newid e fel 'na yn edrych fel gweithred i danseilio'r lle.

"Mae un ai'n hynny neu yn benderfyniad dwl gan yr awdurdod."

Disgrifiad o’r llun,

"'Dyn ni'n teimlo'n siomedig nad oedden ni'n rhan o unrhyw ymgynghoriad," medd Helen Howarth

Ychwanegodd Helen Howarth, sy'n rhedeg llety gwyliau Brecon Retreat ac sydd hefyd yn llysgennad swyddogol ar gyfer y parc cenedlaethol, mai ar y teledu y cafodd hi wybod am y newid.

"Dyw awdurdod y parc ddim wedi siarad â ni'n uniongyrchol am y peth hyd heddiw i rannu'r cynlluniau enfawr maen nhw wedi'u rhoi mewn lle, a'r brand newydd i gefnogi hynny," meddai.

"'Dyn ni'n teimlo'n siomedig nad oedden ni'n rhan o unrhyw ymgynghoriad."