Trawsblaniad: Fyddech chi'n rhoi aren i ddieithryn?

  • Cyhoeddwyd
Ceri NelsonFfynhonnell y llun, Ceri Nelson
Disgrifiad o’r llun,

Ffoniodd Ceri Nelson yr ysbyty i gynnig ei haren ar ôl gwrando ar gyfweliad radio am roi organau

Fyddech chi'n rhoi eich aren i ddieithryn?

Dyna'n union wnaeth Ceri Nelson, Jacqui Robins a Rosie Morgan o Gymru, a'r tair yn dweud eu bod mor falch o allu helpu rhywun.

Bob blwyddyn mae tua 1,000 o bobl yn dewis rhoi aren, ac yn y mwyafrif o achosion mae hynny'n digwydd ar ôl marwolaeth.

Daw 68 o'r rhoddion hynny gan bobl sydd dal yn fyw, ac yn rhoi heb wybod pwy fydd yn derbyn yr organ.

Ar ôl clywed sgwrs am drawsblaniadau ar y radio, fe benderfynodd Ceri Nelson, 63 o Borthcawl, ei bod eisiau helpu rhywun.

Fe ffoniodd Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a chysylltodd gyda'r adran drawsblaniadau.

"Roedden nhw'n drylwyr iawn, iawn," dywedodd, "oherwydd fy mod yn ddieithryn doedden nhw ddim eisiau rhoi fi mewn risg."

Ar ôl chwe mis o brofion corfforol a meddyliol "dwys iawn", fe roddodd Ceri ei haren.

"Dyw e heb gal unrhyw effaith hir dymor arna' i o gwbl," meddai.

"Dwi'n mynd 'nôl bob blwyddyn i gael profion i wneud yn siŵr bod fy aren arall yn dal i weithio'n iawn, ac mae popeth yn hollol iawn."

'Effeithio cyn lleied ar fy mywyd'

Ychwanegodd: "Fe wnaeth e fi'n hapus iawn mod i'n gallu helpu a chynyddu ansawdd bywyd rhywun, gan effeithio cyn lleied ar fy mywyd i."

Fe wnaeth hi gydnabod nad oedd ei phlant yn hapus gyda'r penderfyniad.

"Eu dadl nhw oedd, beth os ydyn nhw angen aren? Dywedes i: 'Mae ganddoch chi eich gilydd, ac eich tad, os chi angen un, 'dw i'n siŵr fe gewch chi un o rywle.'

"Dydw i ddim yn difaru o gwbl ac yn falch iawn yr o'n i'n gallu helpu rhywun."

Ffynhonnell y llun, Jacqui Robins
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jacqui Robins yn bwriadu rhoi i'w ffrind yn wreiddiol, ond yn y diwedd, dieithryn gafodd ei haren

Doedd Jacqui Robins heb ystyried rhoi ei haren cyn i'w ffrind fynd yn sâl a'r doctor yn rhoi gwybod y byddai angen trawsblaniad.

Fodd bynnag, fe wellodd ei ffrind a doedd dim angen trawsblaniad yn y pendraw.

Ond erbyn hynny, fe feddyliodd Jacqui sut y byddai modd iddi barhau gyda'r broses.

"Beth am i mi ffeindio rhywun i mi roi fy aren?" eglurodd Jacqui. "Roedd e'n edrych fel rhywbeth syml iawn i wneud."

Ar ôl cael ei pharu gyda derbynnydd anhysbys, ym Mai 2014, fe gafodd hi'r llawdriniaeth.

Disgrifiad,

Stori trawsblaniad Lois Owens o fis Ebrill 2023

I gychwyn, doedd dim cyswllt rhwng Jacqui a'r derbynnydd, ond fe newidiodd hyn wrth i amser fynd yn ei flaen.

Dywedodd Jacqui: "Ar ôl cwpl o flynyddoedd, anfonais i gerdyn a'i arwyddo gyda'n enw, wedyn anfonodd e gerdyn yn ôl a'i arwyddo gyda 'Wayne'.

"Fe ddechreuon ni drafod am ein teuluoedd, wedyn tua thair blynedd yn ôl fe ges i neges yn dweud y bydde' fy nerbynnydd yn hoffi siarad a chwrdd â fi."

Daeth Wayne a'i wraig i Gaerdydd a mynd â Jacqui a'i gŵr Roger allan am de prynhawn.

Ffynhonnell y llun, Jacqui Robins
Disgrifiad o’r llun,

Jacqui a Wayne yn cwrdd am y tro cyntaf

"Roedd e fel cwrdd â hen ffrind, er nad oedden ni wedi cwrdd o'r blaen," dywedodd.

"Roedd ychydig o ddagrau a digon o gofleidio."

Roedd Jacqui yn 67 oed yn rhoi ei aren, a dywedodd bod y llawdriniaeth a byw gydag un aren heb effeithio ar ei bywyd na'i hiechyd o gwbl.

"Dydw i ddim wedi cael unrhyw boen ers y llawdriniaeth. Os bydde' modd, mi fydden i'n rhoi un arall, oherwydd roedd e mor hawdd."

Ffynhonnell y llun, Rosie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Rosie a Zoe yn Uned Drawsblaniad Caerdydd

Un arall benderfynodd roi aren oedd Rosie Morgan, ond yn wahanol i Ceri a Jacqui, roedd hi'n adnabod y person.

Drwy'r brifysgol y daeth Rosie a Zoe Richards i adnabod ei gilydd.

Un diwrnod, derbyniodd Rosie neges destun gan Zoe yn dweud ei bod hi'n teimlo'n sâl gyda phwysau gwaed uchel a bod angen apwyntiad gyda'r doctor.

Ar ôl cyfres o brofion gwaed, cafodd Zoe ddiagnosis o afiechyd yr aren.

Heb ddweud wrth Zoe, fe ddechreuodd Rosie gymryd profion ei hun i ddarganfod os oedd ei haren hi'n gallu bod o help i'w ffrind.

"Yn amlwg dydy Zoe a fi ddim yn perthyn," dywedodd Rosie. Roedd pryder na fyddai'n gallu bod o gymorth i'w ffrind.

Ond fe ddaeth y canlyniad yn ôl yn bositif ac fe gafodd eu harennau eu paru a'r llawdriniaeth yn llwyddiant.

"Fe fydden i'n gwneud unrhyw beth ar gyfer fy ffrindiau, maen nhw'n gwybod hynny," dywedodd.

Pynciau cysylltiedig