Aros mwy na 14 mis am esboniad dros farwolaeth mab
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni a gollodd eu plentyn wedi gorfod aros dros 14 mis am esboniad ynglŷn â pham y bu farw eu mab.
Cafodd Elijah ei eni yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tydfil ar 25 Chwefror 2022, ond bu farw 12 diwrnod yn ddiweddarach wedi iddo gael diagnosis o enterofeirws a myocarditis.
Dywedodd Joann a Christian Edwards eu bod wedi cael gwybod y bydden nhw'n derbyn adroddiad am ei farwolaeth erbyn diwedd 2022, ond maen nhw'n parhau i aros.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiheuro ac yn dweud bod eu hymchwiliad wedi "cymryd yn hirach na'r disgwyl".
Dywedodd Mr a Mrs Edwards, sydd o Aberpennar, eu bod wedi cael gwybod bod diagnosis Elijah o myocarditis yn "ddigwyddiad prin".
Ond ers hynny maen nhw wedi darllen am 10 plentyn, gan gynnwys un fu farw, a gafodd enterofeirws difrifol gyda myocarditis ar draws de Cymru.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) nad yw marwolaeth Elijah yn cael ei gynnwys fel rhan o ymchwiliad i'r achosion hynny gan fod yr ymchwiliad wedi'i gyfyngu i ddigwyddiadau rhwng Mehefin 2022 ac Ebrill 2023, er mwyn cyd-fynd â'r adeg pan mae'r feirws yn lledu fwyaf.
Ond dywedodd ICC y bydden nhw'n cynnwys marwolaeth Elijah fel rhan o "ymchwiliad clinigol ehangach" i'r achosion.
Ychwanegon nhw: "Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf i'r teulu Edwards yn dilyn marwolaeth Elijah, ac mae ein meddyliau gyda nhw.
"Rydym yn ymwybodol iawn o'r achos ac nid yw wedi cael ei anghofio."
'Efallai na chawn ni fyth ateb'
Roedd Elijah yn iach pan adawodd yr ysbyty, ond roedd yn gysglyd ac â rhwymedd difrifol.
I ddechrau roedden nhw'n meddwl bod ganddo glefyd melyn (jaundice), ac wedi i'w rieni ei ddychwelyd i'r ysbyty cafodd ddiagnosis o sepsis yn gyntaf, ac yna bronciolitis.
Ar ôl cael ei ddanfon i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd cafodd diagnosis o enterofeirws - feirws tebyg i'r annwyd cyffredin sy'n ymosod ar galonnau babanod ifanc.
Bu farw Elijah yn Ysbyty Plant Bryste ar 9 Mawrth 2022.
Dywedodd Joann fod y meddyg plant yng Nghaerdydd wedi dweud bod siawns Elijah o ddal enterofeirws yn y DU yn "un allan o gannoedd o filoedd," a bod ei farwolaeth o ganlyniad i "sefyllfa anlwcus".
Ychwanegodd ei bod wedi cael gwybod y byddai ymchwiliad i farwolaeth Elijah gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn adrodd yn ôl erbyn diwedd 2022.
"Cawsom ein harwain i gredu nad oedd ateb am yr hyn a ddigwyddodd ac efallai na chawn ni fyth ateb. Mae wedi ein gadael ni mewn limbo."
'Teimlo fel bod rhywbeth i'w guddio'
Roedd y cwpl yn parhau i aros am yr adroddiad pan ddarllenodd Joann Edwards adroddiad ar BBC Cymru am glwstwr o achosion o myocarditis mewn babanod a oedd wedi bod i Ysbyty Athrofaol Cymru rhwng Mehefin a Thachwedd y llynedd.
Dywedodd ei bod mewn sioc, a'i bod wedi ysgrifennu at ICC er mwyn darganfod a oedd Elijah yn rhan o'r ymchwiliad, ond ni dderbyniodd ateb.
"Roedd peidio cael gwybod yn gwneud i ni deimlo fel bod yna rhywbeth i'w guddio," dywedodd.
Dywedodd Christian Edwards fod doctoriaid yn "siŵr o fod wedi gwneud popeth oedd yn bosib", er mwyn achub ei fab.
Ond ychwanegodd: "Y ffordd y daliodd y feirws a'r wybodaeth yma sydd wedi dod allan nawr yw'r broblem sydd gennym.
"Os oes ymchwiliad yn cael ei gynnal yn amlwg fydden ni'n hoffi gwybod beth sy'n digwydd."
Dywedodd ICC: "Mi fydden ni'n hapus i drafod achos Elijah yn bellach gyda'r teulu os fydden nhw'n ei weld yn ddefnyddiol."
Ychwanegodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: "Mi fyddwn yn rhannu darganfyddiadau'r ymchwiliad gyda'r teulu cyn gynted ag y mae'n briodol.
"Mae marwolaeth plentyn yn drasig iawn ac rydym yn mynegi ein cydymdeimladau dwysaf, ynghyd â chynnig o gefnogaeth, i deulu Elijah tra eu bod yn parhau i ddod i dermau gyda'u colled."
Eisiau atebion
Mae Mr Edwards eisiau ymchwiliad i darddiad yr haint. Mae'n dweud bod doctoriaid yn credu fod Elijah wedi ei ddal tua diwrnod wedi ei enedigaeth.
Roedd Ysbyty'r Tywysog Siarl dan gyfyngiadau Covid pan gafodd Elijah ei eni, felly'r unig bobl a gafodd cyswllt ag ef oedd staff a'i rieni, a doedd gan yr un o'r rheiny symptomau enterofeirws.
Dywedodd Mr Edwards: "Roeddwn eisiau gwybod, er tawelwch meddwl, a oedd yna fwy o blant ar yr un adeg ag ef yn yr ardal yna?
"Gall hyn fod yn siawns i ddarganfod pam ei fod yn digwydd. A allai fod wedi ei atal? Oes mwy o brofion allen nhw eu gwneud cyn i'r plentyn gael ei eni?"
Dywed y pâr eu bod wedi dioddef ar eu pen eu hunain ac y bydden nhw'n hoffi siarad gyda rhieni eraill sydd wedi cael profiad tebyg.
"Cawsom ein harwain i gredu mai ni oedd yr unig rai. Nid ydym wedi gallu trafod hyn gydag unrhyw un arall fyddai wir yn deall," meddai Mrs Edwards.
Y peth anoddaf, ychwanegodd, oedd esbonio beth ddigwyddodd i chwaer Elijah.
"Pob cwestiwn sydd ganddi rydym yn ceisio eu hateb orau ein gallu," dywedodd.
"Ond nid oes gennym yr holl atebion ein hunain heb sôn am geisio esbonio i blentyn pum mlwydd oed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023