'Ymdrech tîm' i adfywio cricedwr yn ystod gêm
- Cyhoeddwyd
Mae bywyd cricedwr wedi cael ei achub gan ddiffibriliwr lai na mis wedi i'w glwb benderfynu i'w brynu.
Fe gafodd wicedwr Clwb Criced Glangrwyne, Mark Waldeck, sy'n 51, boen yn y frest wrth i'w dîm wynebu Clwb Criced Porth yng ngêm gyntaf y tymor.
Mae bellach yn cael triniaeth ysbyty.
Dim ond ym mis Ebrill y penderfynodd y clwb yng Nglangrwyne, ger Crughywel, i dalu tua £400 am yr offer achub bywyd.
Bu'n rhaid dod â'r gêm Adran 8 Cynghrair De Ddwyrain Cymru i ben, ac roedd yna ymdrech ar y cyd gan unigolion o'r ddau glwb mewn ymateb i'r sefyllfa.
"Naethon ni sylwi bod Mark, y wicedwr, wedi syrthio i'w liniau," meddai James Luckhurst, sy'n chwarae i dîm Glangrwyne.
"Ro'n i'w gwybod bod defib wedi cyrraedd y clwb, felly fe redais i'r pafiliwn i'w nôl e a mynd ag e i ganol y maes rhag ofn.
"Roeddwn ni'n ceisio rhoi sicrwydd iddo ac yna fe waethygodd. O fewn eiliadau, roedd y pads arno fe."
Dilyn cyfarwyddiadau
Fe ddilynodd y chwaraewyr gyfarwyddiadau'r diffibriliwr, a rhyw "ugain, tri deg eiliad yn ddiweddarach, roedden ni'n gweld bod Mark yn dod yn ôl at ei hun".
"Dros yr hanner awr nesaf naethon ni ofalu amdano, ceisio tawelu ei meddwl, ac yna ei drosglwyddo i'r criwiau ambiwlans.
"Pan sylweddolodd ble roedd e a beth allai fod wedi digwydd, dywedodd ei fod wedi dadebru gan feddwl ei fod yng nghanol angylion gwyn, cyn sylwi mai ond cricedwyr oeddwn nhw!"
Ychwanegodd: "Ymdrech tîm, dwi'n gobeithio, wnaeth y gwahaniaeth... rydym yn dymuno lwc, cariad a gobaith y bydd popeth yn mynd yn dda iddo."
Cyn i'r wicedwr gael ei daro'n wael, roedd y chwaraewyr wedi cynnal munud o dawelwch fel teyrnged i gyn-gapten Clwb Criced Porth, Mark Lang.
Bu farw'r dosbarthwr parseli ar ôl cael ei daro a'i lusgo gan ei fan ei hun mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Ebrill.
"Cyn gynted ag oedd problem gydag ein chwaraewr ni, aeth y criced a'r ymryson yn angof ac fe wnaeth pawb beth bynnag y gallen nhw," meddai James Luckhurst.
"Aeth rhywun i Grughywel i brynu aspirin... daeth rhywun arall â pharasol o ymyl y maes i warchod y claf rhag poethi. Roedd yn wir ymdrech tîm."
'Newydd sbon'
Mae'r chwaraewyr nawr yn annog pob clwb i fuddsoddi mewn diffibriliwr, ac i gael hyfforddiant cymorth cyntaf perthnasol.
"Mae'n un o'r sefyllfaoedd hynny ble ry'ch chi'n gwneud penderfyniad a dy'ch chi ddim yn sylwi pa mor bwysig mae am fod," dywedodd James Luckhurst.
"Galle fod yn eistedd yn hel llwch am flynyddoedd.... yn ein achos ni, roedd ei angen ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Roedd yn newydd sbon.
"Chi byth yn disgwyl gorfod ei ddefnyddio, ond fe wnaeth ei job achos roedd e yna.
"Byddwn i'n erfyn ar bob clwb, pob corff i feddwl am gael un... mae yn bendant wedi achub bywyd yn ein hachos ni, a ni allwch chi roi pris ar hynny."
Dywedodd Clwb Criced Glangrwyne mewn datganiad ar-lein: "Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi gwneud y penderfyniad i osod y diffibriliwr yn ein clwb. Hebddo fe allai wedi bod yn stori wahanol.
"Gyda chymorth y chwaraewyr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, roedden ni'n gallu ei anfon i'w ysbyty a rydym yn dymuno gwellhad buan iddo."
Dywedodd Clwb Criced Porth ar y cyfryngau cymdeithasol bod y digwyddiad "wir wedi dangos pwysigrwydd diffibriliwr a hyfforddiant cymorth cyntaf".
Ychwanegodd: "Fe wnaeth wahaniaeth enfawr heddiw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021