Newid i drefn cystadlu corawl y Brifwyl 'am eleni'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau na fydd corau'n gorfod cystadlu mewn rowndiau cynderfynol wedi'r cyfan yn Llŷn ac Eifionydd eleni.
Mae'r penderfyniad i newid y rhaglen gystadleuaeth ddrafft a gafodd ei chyhoeddi ym mis Mawrth yn dilyn "trafodaethau pellach gyda'r panelau canolog, y Pwyllgor Diwylliannol a'r Bwrdd Rheoli, ynghyd â chyfarfod gyda chynrychiolwyr y corau" nos Sul.
Ond mae trefnwyr y Brifwyl yn dweud mai "datrysiad un-tro ar gyfer eleni yn unig" yw'r tro pedol, a bydd yna drafodaethau dros y misoedd nesaf i sicrhau "chwarae teg i bawb ar draws pob disgyblaeth" erbyn Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
Maen nhw hefyd yn dweud nad oedd y penderfyniad yn un "unfrydol".
Roedd yna gryn wrthwynebiad i'r newid, oedd yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cystadlaethau.
Fe rybuddiodd arweinwyr bod yna botensial na fyddai nifer o gorau yn dymuno cystadlu heb sicrwydd o ymddangos ar y prif lwyfan.
Dywedodd y trefnwyr mewn datganiad nos Sul: "Mae'r Bwrdd Rheoli wedi cymeradwyo rhaglen amgen yn dilyn cwynion, gyda rowndiau cynderfynol i'r cystadlaethau torfol yn cael eu hepgor am eleni.
"Mae hwn yn ddatrysiad un-tro ar gyfer eleni yn unig, a bydd trefnwyr yn treulio'r misoedd nesaf yn trafod rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf gyda'r pwyllgorau, y panelau a phartneriaid, er mwyn sicrhau bod rhaglen 2024 yn cynnig chwarae teg i bawb ar draws pob disgyblaeth, boed yn grŵp torfol neu'n unigolyn.
"Nid oedd y penderfyniad i gytuno ar y datrysiad yn unfrydol yn y Pwyllgor Diwylliannol, a gofynnwyd i hyn gael ei ddatgan wrth gyhoeddi'r datrysiad a'r rhaglen gystadlu newydd."
Bydd y rhaglen gystadlaethau'n cael ei chyhoeddi "cyn diwedd dydd Llun 15 Mai", a "bydd yr amseroedd i gyd yn ddibynnol ar niferoedd cystadleuwyr yn dilyn y dyddiad cau", sef nos Fercher 17 Mai.
Mae'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal ym Moduan o 5 i 12 Awst.
'Dim corau am fod yno'
Dywedodd Menai Williams, sy'n gyn-arweinydd corau meibion, ei bod yn falch am y tro pedol ond fod angen sicrwydd na fydd yr un newidiadau'n cael eu cyflwyno o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
"Dwi'n hapus eu bod nhw wedi gwneud y tro pedol 'ma, ond be dwi ddim yn licio ydy mai am eleni mae o," meddai ar Dros Frecwast fore Llun.
"I mi mae 'na rywbeth reit fygythiol yn hynny. Mae'n swnio i mi fel tasen nhw'n ddall i'r hyn mae arweinwyr corau isio.
"Iawn ydy dweud 'dan ni am gadw pethau'r un fath eleni', ond fyddwn ni'n newid flwyddyn nesa' eto.
"Ydyn nhw'n mynd i gymryd sylw o'r holl wrthwynebiad sydd wedi bod gan y beirniaid a'r arweinyddion?"
Ychwanegodd fod y sefyllfa yn "gadael blas drwg", gan gyhuddo'r trefnwyr o golli golwg ar y ffaith mai cystadlu ydy calon y Brifwyl.
"Maen nhw wedi colli golwg yn sicr, cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, ar gystadleuwyr. Nhw ydy'r Steddfod," meddai Ms Williams.
"Nid jysd gŵyl mohoni. Mae 'na draddodiad pwysig yn perthyn iddi, a 'dan ni mewn perygl o golli hynny am byth.
"Mae rhai o'r corau 'ma yn treulio misoedd yn paratoi i gystadlu, ac mi oedden nhw'n cael y teimlad eu bod nhw'n eilradd yn cyrraedd y Steddfod os ydyn nhw am fod mewn pafiliwn arall.
"Dwi'n meddwl bod rhaid iddyn nhw fod wedi gwrando neu doedd ganddyn nhw ddim corau am fod yno, nag oedd."
'Neb yn barod i roi ateb'
Ym marn cyn-drefnydd y brifwyl, Hywel Wyn Edwards, mae cwestiynau yn dal angen eu gofyn am sut wnaed y penderfyniad yn y lle cyntaf, yn enwedig o ystyried y gallai gael ei ailgyflwyno ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Mae o fel bygythiad sy'n hongian uwch ein pennau ni am y dyfodol, ond o leia' mae'r frwydr gyntaf 'ma fel petai wedi'i hennill," meddai ar Dros Ginio.
"Mi oedd yr adolygiad yn un swmpus, ond does unman yn yr argymhellion hyd y gwela' i - ac mae'r cwmni sydd wedi ysgrifennu'r adolygiad yn cadarnhau hyn - nad oes argymhelliad o'r fath wedi cael ei wneud.
"Mae 'na saith argymhelliad yn yr adolygiad, ond does dim un ohonyn nhw yn sôn yn benodol am roi rhagbrawf i'r corau.
"Pam mae rhywun wedi mynd ar ôl hwn? Dyna be' mae llawer ohonom yn gofyn, ond does 'na neb yn barod i roi ateb.
"Os ydyn nhw'n mynd 'nôl ac yn gwneud tro pedol arall ar gyfer y flwyddyn nesa', dwi'n siŵr y bydd y corau yn dal i fod yn gwrthsefyll hyn."
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod "wedi clywed ac wedi gwrando ar bryderon y corau, ac mae'r mater wedi'i drafod eto gan y panelau perthnasol, y Pwyllgor Diwylliannol a'r Bwrdd Rheoli, gan ddilyn llwybr democrataidd penderfyniadau o'r fath.
"Fel rydyn ni wedi'i ddatgan, datrysiad un-tro yw hwn.
"Mae gennym ni gyfrifoldeb i'n holl adrannau cystadleuol ac mae'r rheini ar draws cwmpas eang o ddisgyblaethau.
"Mae'r datrysiad un-tro hwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r cwynion a godwyd gan y grwpiau torfol yn yr adran gerddoriaeth.
"Gan fod pob adran gystadleuol yr un mor bwysig â'i gilydd, a chan fod trin ein holl gystadleuwyr yn deg a chyson yn bwysig, byddwn yn treulio misoedd yr hydref a'r gaeaf yn cyd-drafod gyda'r pwyllgorau, panelau a'n partneriaid er mwyn sicrhau tegwch i bawb yn ein rhaglen lwyfan ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Cafwyd sgyrsiau anodd iawn dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'n deg dweud nad oedd pawb ar bob pwyllgor yn cytuno gyda'r rhaglen amgen, gan fod unigolion yn teimlo'n gryf dros eu disgyblaethau eu hunain, ac eisiau sicrhau tegwch ar draws y rhaglen yn ei chyfanrwydd.
"Mae lleisiau ein holl gystadleuwyr a'n disgyblaethau'n bwysig i ni, ac mae'n rhaid sicrhau chwarae teg i bawb ar draws pob disgyblaeth, boed yn grŵp torfol neu'n unigolyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023