Geraint Thomas yn arwain y Giro d'Italia oherwydd Covid
- Cyhoeddwyd
Y Cymro Geraint Thomas sydd ar y blaen yn y Giro d'Italia bellach, wedi i'r unig seiclwr oedd o'i flaen gael prawf positif am Covid-19.
Roedd Remco Evenpoel wedi adennill Crys Pinc arweinydd y ras ar ôl ennill y nawfed cymal - ras yn erbyn y cloc - ddydd Sul.
Thomas ddaeth yn ail yn y cymal hwnnw, o un eiliad yn unig, gan olygu ei fod wedi codi o'r pumed safle i ail yn y dosbarthiad cyffredinol.
Ond yna'n hwyr nos Sul daeth cadarnhad fod Evenpoel - oedd 45 eiliad ar y blaen i Thomas - wedi cael prawf positif, ac felly bydd yn rhaid iddo dynnu 'nôl o'r ras.
Dyw Thomas, 36 - y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn 2018 - erioed wedi ennill y Giro.
Ond ef fydd yn gwisgo'r Crys Pinc ar gyfer y 10fed cymal ddydd Mawrth, wedi diwrnod o seibiant ddydd Llun.
Dim ond dwy eiliad o fantais sydd ganddo dros Primoz Roglic o Slofenia yn yr ail safle, tra bod cyd-seiclwr Thomas gydag Ineos Grenadiers, Tao Geoghegan Hart o Loegr, yn drydydd.
Mae 21 cymal i gyd, gyda'r ras yn gorffen yn Rhufain ddydd Sul, 28 Mai.
Dosbarthiad cyffredinol
Geraint Thomas (Ineos Grenadiers) 34awr 34munud 27eiliad
Primoz Roglic (Jumbo-Visma) +2eiliad
Tao Geoghegan Hart (Ineos Grenadiers) +5
Joao Almeida (UAE Team Emirates) +22
Andreas Leknessund (Team DSM) +22
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018