Anghenion dysgu: 'Angen help wrth fynd i'r byd gwaith'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y Gogarth
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl 10 mis o waith caled, cafodd y grŵp o fyfyrwyr o Ysgol y Gogarth gyfle i ddangos eu gwaith am y tro cyntaf mewn lansiad arbennig

Mae angen gwneud mwy i helpu myfyrwyr ag anghenion dysgu arbennig wrth iddyn nhw symud o fywyd ysgol i'r byd gwaith, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Mae'r comisiynydd yn dweud fod rhieni wedi disgrifio'r cyfnod fel un ble mae'n teimlo fel bod eu plant yn "syrthio dros ddibyn".

Daeth ei sylwadau yn ystod lansiad cyfres o fideos byr gan fyfyrwyr ag anghenion dysgu arbennig.

Y nod yw helpu pobl ifanc gyda sawl sialens wahanol, gan gynnwys gadael yr ysgol ac iechyd meddwl.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Gyrfa Cymru'n darparu cyngor gyrfa wedi'i dargedu i fyfyrwyr ag anghenion dysgu arbennig.

'Eisiau i bobl sylweddoli bod help ar gael'

Mae Hope Productions wedi'u creu gan grŵp o fyfyrwyr o Ysgol y Gogarth yn Llandudno - ysgol arbennig gyda 276 o ddisgyblion 3-19 oed gydag ystod eang o anghenion dysgu arbennig.

Gyda chymorth yr elusen ffilm a cherddoriaeth Tape, mae'r myfyrwyr sy'n rhan o Hope Productions wedi gallu cynhyrchu sawl fideo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Joshua Roberts yn gobeithio y bydd eu gwaith yn helpu eraill

Ar ôl 10 mis o waith caled, fe wnaethon nhw ddangos eu gwaith am y tro cyntaf mewn lansiad arbennig o flaen torf o bobl.

Joshua Roberts ydy un o'r myfyrwyr sy'n rhan o Hope Productions. Mae'n gobeithio y bydd eu gwaith yn helpu eraill.

"Rydyn ni'n creu fideos i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, oherwydd mae cymaint o bobl â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig yn dod allan o Covid," meddai.

"Fi greodd y prif gymeriad yn ein fideos, Blobby y sglefren fôr.

"Nes i ddewis sglefren fôr oherwydd maen nhw'n gallu newid eu lliw yn dibynnu ar sut maen nhw'n teimlo."

Disgrifiad o’r llun,

Joshua yn lleisio Blobby, y sglefren fôr

Ychwanegodd: "Roeddwn i'n meddwl y gallai hynny helpu i ddangos yr heriau gwahanol mae pobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn eu hwynebu.

"Dwi'n wir obeithio y bydd pobl yn mwynhau'r hyn rydyn ni wedi'i greu.

"Dwi eisiau i bobl sylweddoli bod yna help ar gael iddyn nhw, er falle nad ydyn nhw'n meddwl bod o yna."

Mae Caroline Louise Lomas yn aelod arall o dîm cynhyrchu Hope. Mae hi hefyd yn gobeithio y gall eu gwaith wneud gwahaniaeth.

"Byddai'n anhygoel pe gallai'r fideos hyn gael eu gweld gan bobl ledled y byd," meddai.

"Ein nod yma yw helpu unrhyw un sy'n dioddef gydag unrhyw broblem. Mae hynny'n cynnwys eu hiechyd meddwl ond hefyd materion eraill, er enghraifft bod yn gaeth i rywbeth."

'Syrthio dros ddibyn'

Mae fideos y myfyrwyr yn ceisio mynd i'r afael â materion cyffredin sy'n wynebu pobl ag anghenion dysgu arbennig.

Mae'r rhain yn cynnwys camddefnyddio sylweddau, bwyta'n iach a chynllunio ar gyfer bywyd ar ôl ysgol.

Roedd yr olaf yn fater oedd yn taro tant gyda Chomisiynydd Plant Cymru wrth iddi fynychu lansiad eu gwaith.

Dywedodd Rocío Cifuentes: "Gall fod yn anodd iawn i fyfyrwyr. Dwi wedi clywed sawl gwaith gan rieni am brofiadau eu plant.

"Maen nhw'n teimlo ychydig fel eu bod nhw wedi syrthio dros ddibyn wrth adael yr ysgolion gwych fel Ysgol y Gogarth.

"Ar hyn o bryd nid oes digon o gymorth ar gael ar gyfer y cyfnod pontio hwnnw ar ôl i'r myfyrwyr gyrraedd 18 oed, a symud i'w bywyd fel oedolyn ifanc, i fyw'n annibynnol.

"Mae'n bwysig iawn bod mwy o adnoddau a mwy o ffocws yn cael eu rhoi i'r cyfnod pontio hwnnw ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu." 

Disgrifiad o’r llun,

Rocio Cifuentes: "Maen nhw'n teimlo ychydig fel eu bod nhw wedi syrthio dros ddibyn wrth adael yr ysgolion gwych fel Ysgol y Gogarth"

Mae llawer o'r myfyrwyr a ffurfiodd Hope Productions bellach yn paratoi eu hunain i wynebu'r her o fywyd ar ôl ysgol.

Wrth greu eu fideos maen nhw wedi ennill sgiliau gwerthfawr mewn cynhyrchu a golygu.

I Joshua a Lil Williams, aelod arall o dîm Hope Productions, mae'r cyfle wedi helpu i'w paratoi nhw ar gyfer cyfnod nesaf eu bywydau.

"Dwi wedi mwynhau'r prosiect hwn yn fawr," meddai Joshua. "Mae gweithio gyda Tape wedi bod yn wych, a dwi wedi dysgu llawer.

"Mae wedi rhoi llwybr i fi dilyn achos dwi nawr yn gwybod fy mod i eisiau gweithio ym maes cynhyrchu."

Aeth Lil ymlaen i ddweud: "Byddwn i wrth fy modd yn gwneud mwy yn y maes cynhyrchu.

"Mae gen i gymaint o syniadau ac mae wir yn golygu llawer i gael y cyfle i'w rhannu, a gwybod bod eraill yn eu cymryd nhw o ddifrif."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lil yn awyddus i wneud mwy ym maes cynhyrchu

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Gyrfa Cymru yn darparu cyngor gyrfa wedi'i dargedu i fyfyrwyr ag anghenion dysgu arbennig.

Ychwanegodd: "Nod ein diwygiadau anghenion dysgu arbennig yw gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc ag ADA.

"Maent wedi'u cynllunio a'u darparu i ymateb i anghenion pob unigolyn."