Iechyd meddwl: Cyhuddo gweinidogion o wneud esgusodion

  • Cyhoeddwyd
Iechyd meddwl:Ffynhonnell y llun, Getty Images

Nid yw ymateb gweinidogion Llafur i adroddiad sy'n galw am weithredu ar dlodi i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yn ddigon da, yn ôl grŵp cynghori.

Y llynedd canfu pwyllgor iechyd y Senedd fod yn rhaid mynd i'r afael â thlodi a gwahaniaethu er mwyn delio ag iechyd meddwl gwael.

Ond mae grŵp sy'n cynghori'r pwyllgor wedi cwyno am ymateb y llywodraeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r 27 argymhelliad yn yr adroddiad, heblaw am un.

'Rhestr o esgusodion'

Dywedodd y grŵp cynghori, sy'n cynnwys pobl sydd wedi dioddef cyflyrau iechyd meddwl, fod manylion ymateb y llywodraeth yn ymddangos "fel rhestr o esgusodion".

Y llynedd dywedodd y pwyllgor iechyd fod meddyginiaeth weithiau'n cael ei defnyddio fel "plastr" ac nad oedd materion sylfaenol yn cael sylw.

Roedd y grwpiau y credai eu bod mewn perygl o anghydraddoldebau iechyd meddwl yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig a'r rhai mewn tlodi.

Galwodd yr adroddiad, dolen allanol am "weithredu effeithiol" i gydnabod a mynd i'r afael ag effaith trawma, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael.

Mewn ymateb, dolen allanol, dywedodd Llywodraeth Cymru bod y strategaeth bresennol ar fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn cynnwys ffocws ar gefnogi grwpiau bregus a lleihau anghydraddoldebau, ac y byddai'n egwyddor sylfaenol yn ei strategaeth nesaf.

Dywedodd y pwyllgor fod aelodau'r grŵp cynghori o'r farn fod "rhai o ymatebion y dirprwy weinidog yn rhy gryno ac yn dangos diffyg dealltwriaeth ynghylch y problemau y mae pobl sy'n destun anghydraddoldebau iechyd meddwl yn eu hwynebu".

"Ar y cyfan, roeddent yn teimlo nad oedd yr ymateb yn cyd-fynd ag uchelgais adroddiad y pwyllgor."

'Geiriau gwag'

Roedd enghreifftiau o adborth y grŵp cynghori yn cynnwys:

  • "Yr un peth nad oedden ni eisiau oedd geiriau gwag i'n cadw'n dawel, a dyna maen nhw wedi'i wneud yn syth gyda'r argymhelliad cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn derbyn yr argymhelliad hwn ond a yw hynny'n wir mewn gwirionedd? Sut?"

  • "Dwi wedi cael llond bol ar glywed 'Rhywbeth i Lywodraeth y DU yw hynny'. Roedd ein grŵp yn siarad yn benodol am iechyd, am dai, am ddigartrefedd a does dim am hynny yma. Rwy'n gwrthod credu mai problem Llywodraeth y DU yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru."

  • "Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn ymddangos fel rhestr o esgusodion. Fe ofynnon ni'n benodol am fap ffordd, llinell amser, a chamau gweithredu penodol iawn ac nid yw'r ymateb wedi darparu'r map ffordd a'r amserlenni ond mae hefyd yn rhestru pethau sydd eisoes wedi digwydd. Mae fel petai Llywodraeth Cymru'n dweud 'Edrychwch beth rydyn ni wedi'i wneud, does dim angen i ni wneud mwy'. Mae wedi anwybyddu manylion yr argymhellion. Mae'n siomedig iawn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi manylion "rhaglen gwella niwrogyfeirio", gyda chefnogaeth £12m o arian ychwanegol.

Mae niwroamrywiaeth yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pobl sydd â chyflyrau fel dyslecsia, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.

Dywedodd Russell George AS, cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd: "Ar y cyfan, mae ein hadroddiad yn darparu gweledigaeth uchelgeisiol a gobeithiol ar gyfer lleihau anghydraddoldebau a gwella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

"Fodd bynnag, fel pwyllgor, rydym yn rhannu siom ein grŵp cynghori ar-lein nad yw'r ymateb yn adlewyrchu uchelgais ein hadroddiad yn llawn."

'Blaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yn flaenoriaeth i ni ac rydyn ni wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r 27 argymhelliad yn yr adroddiad, namyn un.

"Trwy gydol 2023 byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, i ddatblygu'r olynydd i strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, gan adeiladu ar nod y strategaeth bresennol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru."