Gwobr y Faner Las i 25 o draethau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
AberporthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Traeth Aberporth yng Ngheredigion yn un o'r 25 sydd wedi sicrhau'r statws eleni

Mae 25 o draethau wedi derbyn Gwobr y Faner Las yng Ngwobrau Arfordir Cymru ar gyfer 2023 - yr un nifer â'r llynedd.

Mae'r statws yn cael ei roi gan Cadwch Gymru'n Daclus i draethau sy'n cydymffurfio â meini prawf penodol yn ymwneud ag ansawdd dŵr, darparu gwybodaeth, addysg amgylcheddol, diogelwch a rheoli safle.

Un newid sydd i'r rhestr o'i gymharu â'r llynedd, gyda thraeth Southerndown ym Mro Morgannwg wedi colli'r statws, tra bod Aberporth yng Ngheredigion wedi ei ennill.

Mae sawl traeth yn y de a'r gorllewin wedi ennill Baner Las eleni, tra mai dim ond un - Traeth Canolog Prestatyn - sydd wedi sicrhau'r statws yn y gogledd.

Mae'r rhestr lawn i'w gweld ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus, dolen allanol.

Fe wnaeth nifer y Baneri Glas yng Nghymru ostwng o 45 i 25 y llynedd - gydag 16 o draethau yng Ngwynedd, Môn a Chonwy yn colli'r statws.

Disgrifiad o’r llun,

Map o'r lleoliadau sydd wedi sicrhau Gwobr y Faner Las yng Nghymru ar gyfer 2023

Cafodd 14 o draethau yng Nghymru y Wobr Arfordir Gwyrdd, sy'n cydnabod eu hamgylchedd glân, ansawdd rhagorol y dŵr a'r harddwch naturiol.

Mae 12 o draethau ledled Cymru hefyd wedi cael y Wobr Glan Môr am safonau eu cyfleusterau ac ansawdd y dŵr.

'Rhai o draethau gorau'r byd'

Dywedodd Owen Derbyshire, prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus fod y canlyniadau yn cadarnhau fod "rhai o draethau gorau'r byd yma ar ein stepen drws".

"Mae'r gwobrau hyn yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y rheiny sy'n ymdrechu i gynnal a gwella gogoniant naturiol ein harfordir."

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae gan Gymru rai o'r traethau a'r ansawdd dŵr gorau ar draws Ewrop gyfan, ac mae ond yn iawn ein bod yn cydnabod hyn trwy ddyfarnu Baneri Glas.

"Rydym yn adnabyddus ar draws y byd am ein harfordiroedd hardd ac er mwyn cadw ein traethau a'n harfordiroedd fel hyn mae angen i ni sicrhau ein bod yn gadael dim ond olion traed er mwyn i faneri glas allu parhau i hedfan am genedlaethau i ddod."

Pynciau cysylltiedig